Thomas Williams, Gwylfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Thomas Williams''', a ymddeolodd i plasty Gwylfa, tŷ mawr ar y Lôn Ganol rhwng Glan-rhyd a Llandwrog, yn fab i fasnachwr glo llwydd...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Thomas Williams''', a ymddeolodd i plasty Gwylfa, tŷ mawr ar y [[Lôn Ganol]] rhwng [[Glan-rhyd]] a [[Llandwrog]], yn fab i fasnachwr glo llwyddiannus yn Lerpwl. Fe'i ganed 15 Mawrth 1833<ref>Plac ar wal Capel Glan-rhyd, Llanwnda</ref> yn fab hynaf (o 6 o blant) i Richard a Margaret Williams. Melinydd oedd Richard (g.1807) yn wreiddiol, yn hanu o Gonwy; erbyn 1841 roedd wedi priodi â Margaret, dynes o Sir Fôn, (g.1806), ac erbyn 1833 pan aned Thomas roeddynt yn byw yn Nhŷ'r Felin, Trefriw lle oedd y tad yn felinydd. Roedd y felin ger y cei ar lan Afon Conwy ac yn fuan wedyn symudodd y teulu i Lerpwl lle sefydlodd y tad fusnes lo. Erbyn 1851 roedd y teulu wedi ymsefydlu mewn tŷ syweddol, sef 19 Eldon Place, a'r tad yn cael ei ddisgrifio fel masnachwr glo a meistr 4 o ddynion, a Thomas, 18 oed, yn cael ei ddisgrifio fel cynorthwywr masnachwr glo. Erbyn hyn, enw'r cwmni oedd "Richard Williams a'i fab". Roedd Thomas felly yn berchennog rhannol ar y cwmni. Ffynnodd y busnes ac erbyn 1861 roedd y teulu wedi symud i 180 Vauxhall Road, Lerpwl, a'r tad yn cyflogi 21 o ddynion. Bu farw'r tad rywbryd rhwng 1871 ac 1881.
Roedd '''Thomas Williams''', a ymddeolodd i plasty Gwylfa, tŷ mawr ar y [[Lôn Ganol]] rhwng [[Glan-rhyd]] a [[Llandwrog]], yn fab i fasnachwr glo llwyddiannus yn Lerpwl. Fe'i ganed 15 Mawrth 1833<ref>Plac ar wal Capel Glan-rhyd, Llanwnda</ref> yn fab hynaf (o 6 o blant) i Richard a Margaret Williams. Melinydd oedd Richard (g.1807) yn wreiddiol, yn hanu o Gonwy; erbyn 1841 roedd wedi priodi â Margaret, dynes o Sir Fôn, (g.1806), ac erbyn 1833 pan aned Thomas roeddynt yn byw yn Nhŷ'r Felin, Trefriw lle oedd y tad yn felinydd. Roedd y felin ger y cei ar lan Afon Conwy ac yn fuan wedyn symudodd y teulu i Lerpwl lle sefydlodd y tad fusnes glo. Erbyn 1851 roedd y teulu wedi ymsefydlu mewn tŷ syweddol, sef 19 Eldon Place, a'r tad yn cael ei ddisgrifio fel masnachwr glo a meistr 4 o ddynion, a Thomas, 18 oed, yn cael ei ddisgrifio fel cynorthwywr masnachwr glo. Erbyn hyn, enw'r cwmni oedd "Richard Williams a'i fab". Roedd Thomas felly yn berchennog rhannol ar y cwmni. Ffynnodd y busnes ac erbyn 1861 roedd y teulu wedi symud i 180 Vauxhall Road, Lerpwl, a'r tad yn cyflogi 21 o ddynion. Bu farw'r tad rywbryd rhwng 1871 ac 1881.


Rywbryd ar ôl 1861 priododd Thomas a dynes bymtheg mlynedd yn iau nag ef, sef Kate (neu Catherine), a hanodd o Lanystumdwy. Ymsefydlodd y teulu ym Marsh Lane, Walton, West Kirby. Roeddy teulu'n dal yno ym 1871, ond erbyn 1881 - tybed nad oedd Kate yn medru ymgynefino a'r ddinas? - roedd Thomas a Kate wedi symud i fferm y Fron, Llanfaglan, lle y disgrifiwyd Thomas fel masnachwr glo, ond yr oedd hefyd yn cyflogi dau was fferm. Erbyn 1891 roedd y ddau wedi ymsefydlu yn yr Wylfa, gyda Thomas yn dal i fod ynghlwm wrth y busnes glo. Erbyn 1901, ac yntau'n 67 oewd, roedd wedi ymddeol ac wedi colli ei wraig gyntaf, Catherine ac ail-briodi â Jane, dynes o Fellteyrn, eto fel Catherine yn 15 mlynedd yn iau nag ef.<ref>Cyfrifiadau plwyfi a wardiau Trefriw 1841-51; Scotland, Lerpwl a West Derby, 1851-1881; Llanfaglan, 1881; a Llanwnda, 1891-1901.</ref>
Rywbryd ar ôl 1861 priododd Thomas a dynes bymtheg mlynedd yn iau nag ef, sef Kate (neu Catherine), a hanodd o Lanystumdwy. Ymsefydlodd y teulu ym Marsh Lane, Walton, West Kirby. Roedd y teulu'n dal yno ym 1871, ond erbyn 1881 - tybed nad oedd Kate yn medru ymgynefino a'r ddinas? - roedd Thomas a Kate wedi symud i fferm y Fron, Llanfaglan, lle y disgrifiwyd Thomas fel masnachwr glo, ond yr oedd hefyd yn cyflogi dau was fferm. Erbyn 1891 roedd y ddau wedi ymsefydlu yn yr Wylfa, gyda Thomas yn dal i fod ynghlwm wrth y busnes glo. Erbyn 1901, ac yntau'n 67 oed, roedd wedi ymddeol ac wedi colli ei wraig gyntaf, Catherine ac ail-briodi â Jane, dynes o Fellteyrn, a hithau (fel Catherine) yn 15 mlynedd yn iau nag ef.<ref>Cyfrifiadau plwyfi a wardiau Trefriw 1841-51; Scotland, Lerpwl a West Derby, 1851-1881; Llanfaglan, 1881; a Llanwnda, 1891-1901.</ref>


Ymddengys, lle bynnag yr oedd yn byw, y bu Thomas Williams yn gefnogol i achosion dyngarol a chrefyddol. Fo, i raddau helaeth, oedd yn noddi adeiladu [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda]], gan roi'r safle a £1000 at y gwaith (a gostiodd i gyd tua £2800), ac fe'i codwyd yn un o'r pedwar blaenor cychwynnol.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346</ref>  
Ymddengys y bu Thomas Williams, lle bynnag yr oedd yn byw, yn gefnogol i achosion dyngarol a chrefyddol. Fo, i raddau helaeth, oedd yn noddi adeiladu [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda]], gan roi'r safle a £1000 at y gwaith (a gostiodd i gyd tua £2800), ac fe'i codwyd yn un o bedwar blaenor cychwynnol yr eglwys.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346</ref>  


Bu farw 8 Gorffennaf 1904, a'i gladdu ym [[Mynwent Bryn'rodyn]] ar ôl gwasanaeth angladd yn ei gapel, Glan-rhyd. Roedd y nifer helaeth o ddynion a fynychodd yr achlysur yn dyst i'w enw da a'i barch o fewn ei enwad, a daeth nifer o rai dylanwadol o Lerpwl i'r achlysur. Dynion yn unig oedd yn yr angladd, a'i weddw Jane heb fod yn bresennol.<ref>Adroddiadau papur newydd amrywiol, e.e. ''Y Goleuad'', 22.07.1904, t.14</ref>
Bu farw 8 Gorffennaf 1904, a'i gladdu ym [[Mynwent Bryn'rodyn]] ar ôl gwasanaeth angladd yn ei gapel, Glan-rhyd. Roedd y nifer helaeth o ddynion a fynychodd yr achlysur yn dyst i'w enw da a'i barch o fewn ei enwad, a daeth nifer o rai dylanwadol o Lerpwl i'r achlysur. Dynion yn unig oedd yn yr angladd, a'i weddw Jane heb fod yn bresennol.<ref>Adroddiadau papur newydd amrywiol, e.e. ''Y Goleuad'', 22.07.1904, t.14</ref> Profwyd ei ewyllys yn ddiweddaraach y flwyddyn honno, a chofnodwyd ei fod wedi gadael cyfanswm o eiddo ac arian gwerth £23562. Roedd ei weddw Jane yn cael aros yn Gwylfa am ei hoes ynghyd â derbyn gwaddol o £500 y flwyddyn (onibai ei bod yn ailbriodi - os felly £250 yn unig fyddai'r swm). Aeth gweddill yr eiddo i'w ferch, gwraig ei gyd-ysgutor, Walter E. Lloyd, Lerpwl.<ref>''Y Goleuad'', 11.11.1904, t.10</ref>
 
==Cyfeiriadau==
 
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Masnachwyr glo]]

Fersiwn yn ôl 10:13, 2 Hydref 2023

Roedd Thomas Williams, a ymddeolodd i plasty Gwylfa, tŷ mawr ar y Lôn Ganol rhwng Glan-rhyd a Llandwrog, yn fab i fasnachwr glo llwyddiannus yn Lerpwl. Fe'i ganed 15 Mawrth 1833[1] yn fab hynaf (o 6 o blant) i Richard a Margaret Williams. Melinydd oedd Richard (g.1807) yn wreiddiol, yn hanu o Gonwy; erbyn 1841 roedd wedi priodi â Margaret, dynes o Sir Fôn, (g.1806), ac erbyn 1833 pan aned Thomas roeddynt yn byw yn Nhŷ'r Felin, Trefriw lle oedd y tad yn felinydd. Roedd y felin ger y cei ar lan Afon Conwy ac yn fuan wedyn symudodd y teulu i Lerpwl lle sefydlodd y tad fusnes glo. Erbyn 1851 roedd y teulu wedi ymsefydlu mewn tŷ syweddol, sef 19 Eldon Place, a'r tad yn cael ei ddisgrifio fel masnachwr glo a meistr 4 o ddynion, a Thomas, 18 oed, yn cael ei ddisgrifio fel cynorthwywr masnachwr glo. Erbyn hyn, enw'r cwmni oedd "Richard Williams a'i fab". Roedd Thomas felly yn berchennog rhannol ar y cwmni. Ffynnodd y busnes ac erbyn 1861 roedd y teulu wedi symud i 180 Vauxhall Road, Lerpwl, a'r tad yn cyflogi 21 o ddynion. Bu farw'r tad rywbryd rhwng 1871 ac 1881.

Rywbryd ar ôl 1861 priododd Thomas a dynes bymtheg mlynedd yn iau nag ef, sef Kate (neu Catherine), a hanodd o Lanystumdwy. Ymsefydlodd y teulu ym Marsh Lane, Walton, West Kirby. Roedd y teulu'n dal yno ym 1871, ond erbyn 1881 - tybed nad oedd Kate yn medru ymgynefino a'r ddinas? - roedd Thomas a Kate wedi symud i fferm y Fron, Llanfaglan, lle y disgrifiwyd Thomas fel masnachwr glo, ond yr oedd hefyd yn cyflogi dau was fferm. Erbyn 1891 roedd y ddau wedi ymsefydlu yn yr Wylfa, gyda Thomas yn dal i fod ynghlwm wrth y busnes glo. Erbyn 1901, ac yntau'n 67 oed, roedd wedi ymddeol ac wedi colli ei wraig gyntaf, Catherine ac ail-briodi â Jane, dynes o Fellteyrn, a hithau (fel Catherine) yn 15 mlynedd yn iau nag ef.[2]

Ymddengys y bu Thomas Williams, lle bynnag yr oedd yn byw, yn gefnogol i achosion dyngarol a chrefyddol. Fo, i raddau helaeth, oedd yn noddi adeiladu Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda, gan roi'r safle a £1000 at y gwaith (a gostiodd i gyd tua £2800), ac fe'i codwyd yn un o bedwar blaenor cychwynnol yr eglwys.[3]

Bu farw 8 Gorffennaf 1904, a'i gladdu ym Mynwent Bryn'rodyn ar ôl gwasanaeth angladd yn ei gapel, Glan-rhyd. Roedd y nifer helaeth o ddynion a fynychodd yr achlysur yn dyst i'w enw da a'i barch o fewn ei enwad, a daeth nifer o rai dylanwadol o Lerpwl i'r achlysur. Dynion yn unig oedd yn yr angladd, a'i weddw Jane heb fod yn bresennol.[4] Profwyd ei ewyllys yn ddiweddaraach y flwyddyn honno, a chofnodwyd ei fod wedi gadael cyfanswm o eiddo ac arian gwerth £23562. Roedd ei weddw Jane yn cael aros yn Gwylfa am ei hoes ynghyd â derbyn gwaddol o £500 y flwyddyn (onibai ei bod yn ailbriodi - os felly £250 yn unig fyddai'r swm). Aeth gweddill yr eiddo i'w ferch, gwraig ei gyd-ysgutor, Walter E. Lloyd, Lerpwl.[5]

Cyfeiriadau

  1. Plac ar wal Capel Glan-rhyd, Llanwnda
  2. Cyfrifiadau plwyfi a wardiau Trefriw 1841-51; Scotland, Lerpwl a West Derby, 1851-1881; Llanfaglan, 1881; a Llanwnda, 1891-1901.
  3. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346
  4. Adroddiadau papur newydd amrywiol, e.e. Y Goleuad, 22.07.1904, t.14
  5. Y Goleuad, 11.11.1904, t.10