Ystad Bodychen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Ystad Bodychen''' yn un o’r ystadau cynnar i gael ei ffurfio gan foneddigion Uwchgwyrfai wrth i’r system Gafael a Gwely, hen drefn dal ti...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 81: Llinell 81:
===1889===
===1889===


Er nad oes sicrwydd pryd y gwerthwyd pob un o’r ffermydd a thiroedd a nodwyd uchod, cynhaliwyd arwerthiant ym 1889 pan aeth y canlynol(ymysg lawer un arall) dan y morthwyl<ref>North Wales Express, 20.12.1889, t.4</ref>
Er nad oes sicrwydd pryd y gwerthwyd pob un o’r ffermydd a thiroedd a nodwyd uchod, cynhaliwyd arwerthiant ym 1889 pan aeth y canlynol(ymysg lawer un arall) dan y morthwyl<ref>''North Wales Express'', 20.12.1889, t.4</ref>


CLYNNOG FAWR
CLYNNOG FAWR

Fersiwn yn ôl 19:35, 3 Awst 2023

Roedd Ystad Bodychen yn un o’r ystadau cynnar i gael ei ffurfio gan foneddigion Uwchgwyrfai wrth i’r system Gafael a Gwely, hen drefn dal tir dan y Tywysogion, ddiflannu yn ystod y 14g a’r 15g. Credir bod cyndadau teulu Ellis, Bodychen, disgynyddion Hwfa ap Cynddelw, wedi bod yn dal Bodychen ers y Canol Oesoedd. P rif ganolfan yr ystad oedd Bodychen yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, nid nepell o bentref presennol Nasareth.

1646

Serch eu hachau, roedd y teulu ymysg ail wrêng boneddigion y cwmwd, ac yn dibynnu ar ystad gymharol fechan, er eu bod (mae’n ymddangos) yn weddol gefnog, a barnu oddi wrth ewyllys y cynharaf o’r teulu i adael ewyllys, sef David ap John ap William.[1] Mae’r ewyllys honno’n rhestru tiroedd David ap John ap William. Pan wnaed ei ewyllys ar ddechrau, fe ymddengys mai di-briod (neu’n ŵr gweddw heb blant) ydoedd. Gadawodd y rhan fwyaf o’i dir i’w nai, Richard Ellis. Isod, rhestrir y tiroedd a nodir yn ei ewyllys. Mae’n bur debyg mai’r cyfan oedd ganddo. Sylwer bod y sillafiad wedi ei foderneiddio. Hefyd, dylid nodi bod “tyddyn” y pryd hynny’n golygu rhywbeth arall yn hytrach na fferm fechan neu “smallholding”, sef fferm neu uned unigol o dir. Yn aml, o’r 17g ymlaen, gollyngwyd y gair Tyddyn os oedd ail ran yr enw’n sefyll ar ei ben ei hun, gan gadw geiriau fel “bach” neu enw personol.

CLYNNOG FAWR

  • Tyddyn Bodychen
  • Tyddyn Bach
  • Ynys y Pwntan
  • yddyn Bryn Gwilym
  • Tyddyn Carnedd Roger
  • Tir ym Moel Bennarth a brynwyd oddi wrth Cadwaladr ap Hugh Griffith

LLANLLYFNI

  • Tyddyn Dol Bebin
  • Rhos yr Unman
  • Tal y Garnedd
  • Cae’r fach
  • Y Rhos
  • Cae Main

LLANRWST (Trefgordd Gwedir)

  • Rhwyddfyd

PISTYLL

  • Tyddyn y Tŷ Hen (Nantgwrtheyrn)

1723

Parhaodd teulu Ellis i fod yn berchen ar y tiroedd hyn a thrwy briodas eu cysylltru ag ystad Gwynfryn, Llanystumdwy.. Er i David Ellis, M.A., Llanengan (marw 1761) a’i fab yntau, Richard Ellis, M.A., ficer Clynnog Fawr (1730-1805), gael gyrfa yn yr Eglwys, mae’n debyg iddynt ddal i fyw ym Modychen, yn ôl rhai gweithredoedd ac ati.[2] Daeth mab yr ail, sef David Ellis arall (marw 1819), i feddiant llawn o ystad Cefndeuddwr a Gwynfryn, trwy ewyrth ei fam, gan newid ei gyfenw i Ellis-Nanney. Trwy hyn aeth ystad Bodychen yn rhan o ystad lawer mwy.[3] Mewn gweithred gyn-briodasol, dyddiedig 1723, pan briododd David Ellis, M.A. a Bridget Carreg, rhestrir yr isod fel rhan o ystad Bodychen.[4]:

CLYNNOG FAWR

  • Tyddyn Glanrafon
  • Carnedd Roger
  • Bodychen
  • Ynys y Pwntan
  • Tŷ yn y Cowrt a Tŷ isa’r Cowrt

LLANLLYFNI

  • Rhosyrhyman
  • Tal y Garnedd
  • Dol Bebin
  • Dryll y Sarnau

1781

Mewn gweithred arall, dyddiedig 1781, ceir rhestr gyffelyb sy’n dangos rhywfaint o newid i’r ystad.[5]:

CLYNNOG FAWR

  • Tyddyn Glanrafon
  • Foel bach
  • Garnedd Roger
  • Cae’r drain
  • Foel Benarth
  • Dryll Sir Hugh
  • Foelfawr
  • Brynhafod bach
  • Tŷ Isa neu Cwrt neu Tŷ’n Cwrt, neu Tai yn y Cowrt neu Tai issa yn y Cowrt
  • Bodychain
  • Nant yr ych
  • Ynysbwntan

LLANLLYFNI

  • Dolbebin
  • Dryll y Sarn
  • Talgarnedd
  • Rhosyrhyman
  • Gors dopiog

1889

Er nad oes sicrwydd pryd y gwerthwyd pob un o’r ffermydd a thiroedd a nodwyd uchod, cynhaliwyd arwerthiant ym 1889 pan aeth y canlynol(ymysg lawer un arall) dan y morthwyl[6]

CLYNNOG FAWR

  • Foel
  • Glan’rafon
  • Brynhafod
  • Ynysbwntan
  • Bodychain (“South” a “North”)

LLANLLYFNI

  • Rhos yr Hynman

Cyfeiriadau

  1. LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1646/15.
  2. e.e. Archifdy Caernarfon, XM/1786/1.
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.164-5
  4. Archifdy Caernarfon, XM/1786/1.
  5. e.e. Archifdy Caernarfon, XM/1786/7.
  6. North Wales Express, 20.12.1889, t.4