Tirfeddianwyr mwyaf Uwchgwyrfai yn yr 17g.: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu 'sybsidi' (neu fath o dreth wladol) a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynnol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth [[Thomas Bulkeley]] lofnodi rhestr Uwchgwyrfai. | Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu 'sybsidi' (neu fath o dreth wladol) a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynnol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth [[Thomas Bulkeley]] lofnodi rhestr Uwchgwyrfai. | ||
Mae'n ymddangos o'r rhestr mai prif dirfeddianwyr y cwmwd oedd Thomas Bulkeley, yswain, [[Dinas]] a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am [[Ystad Glynllifon]] - ei fam yn talu cyfran oherwydd ei bod (fel pob gweddw) yn cael hanner ystad ei gŵr am ei hoes wedi iddo farw. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n anarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.<ref>Mae'r enwau wedi eu copio o waith y diweddar Leonard Owen yn Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgau Bangor 13491. Ychwanegwyd enw ystad neu eiddo ambell un o J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), ''passim''. </ref> Dyma'r enwau darllenadwy: | |||
Thomas Glynn, yswain, | Thomas Glynn, yswain, |
Fersiwn yn ôl 18:49, 27 Mawrth 2023
Mae rhestr o'r rhai a aseswyd fel y prif dirfeddianwyr yng nghwmwd Uwchgwyrfai yn y flwyddyn 1664 ar gael yn yr Archifdy Gwladol.[1]
Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu 'sybsidi' (neu fath o dreth wladol) a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynnol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth Thomas Bulkeley lofnodi rhestr Uwchgwyrfai.
Mae'n ymddangos o'r rhestr mai prif dirfeddianwyr y cwmwd oedd Thomas Bulkeley, yswain, Dinas a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am Ystad Glynllifon - ei fam yn talu cyfran oherwydd ei bod (fel pob gweddw) yn cael hanner ystad ei gŵr am ei hoes wedi iddo farw. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n anarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.[2] Dyma'r enwau darllenadwy:
Thomas Glynn, yswain, George Twistleton, yswain, Lleuar Fawr Richard Glynn, yswain, Elernion Edmund Glynn, Bryn Gwydion William Wynne, ?Pengwern Richard ?Ellis, bon[heddwr] [enw annarllenadwy] Jane Glynn, gweddw Plas Newydd Jane Glynn, gweddw Clynnog Fawr Hugh Lewis, bon Owen Hughes, bon, o bosibl o Fodaden John Williams, bon Jane ...., gweddw ac etifeddes .... ap Richard Randulph .... Henry Glynn, Plas Nantlle, bon Hugh Roberts a'i fab Hugh Johnson, bon, [o blwyf Clynnog Fawr] Lewis Williams [enw annarllenadwy] Robert Griffith, Llethr Ddu, Llanaelhaearn
Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hyn gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Nghymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf.