Tirfeddianwyr mwyaf Uwchgwyrfai yn yr 17g.: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
Cael eu hasesu am dir yn y cwmwd oedd y rhain, mae'n amlwg, gan fod William Wynne yn eu mysg. Roedd yn sgweier Llanfair Isgaer, yr ochr draw i dref Caernarfon, ond roedd gan Ystad Llanfair Isgaer diroedd ym mhlwyf [[Llandwrog]], yn ardal [[Y Groeslon]] heddiw. | Cael eu hasesu am dir yn y cwmwd oedd y rhain, mae'n amlwg, gan fod William Wynne yn eu mysg. Roedd yn sgweier Llanfair Isgaer, yr ochr draw i dref Caernarfon, ond roedd gan Ystad Llanfair Isgaer diroedd ym mhlwyf [[Llandwrog]], yn ardal [[Y Groeslon]] heddiw. | ||
Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hyn gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng | Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hyn gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Nghymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 10:03, 27 Mawrth 2023
Mae rhestr o'r rhai a aseswyd fel y prif dirfeddianwyr yng nghwmwd Uwchgwyrfai yn y flwyddyn 1664 ar gael yn yr Archifdy Gwladol.[1]
Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu treth a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynnol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth Thomas Bulkeley lofnodi rhestr Uwchgwyrfai.
Prif dirfeddianwyr y cwmwd, mae'n ymddangos o'r rhestr, oedd Thomas Bulkeley, yswain, Dinas a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am Ystad Glynllifon. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n anarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.[2] Dyma'r enwau darllenadwy:
Thomas Glynn, yswain, George Twistleton, yswain, Lleuar Fawr Richard Glynn, yswain, Elernion Edmund Glynn, Bryn Gwydion William Wynne, Llanfair Richard ?Ellis, bon[heddwr] [enw annarllenadwy] Jane Glynn, gweddw Plas Newydd Jane Glynn, gweddw Clynnog Fawr Hugh Lewis, bon Owen Hughes, bon John Williams, bon Jane ...., gweddw ac etifeddes .... ap Richard Randulph .... Henry Glynn, Plas Nantlle, bon Hugh Roberts a'i fab Hugh Johnson, bon, [o blwyf Clynnog Fawr] Lewis Williams [enw annarllenadwy] Robert Griffith
Cael eu hasesu am dir yn y cwmwd oedd y rhain, mae'n amlwg, gan fod William Wynne yn eu mysg. Roedd yn sgweier Llanfair Isgaer, yr ochr draw i dref Caernarfon, ond roedd gan Ystad Llanfair Isgaer diroedd ym mhlwyf Llandwrog, yn ardal Y Groeslon heddiw.
Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hyn gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Nghymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf.