Cors Goch, Moeltryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cyn i lo ddod yn danwydd cyffredin oddeutu canol y 19g., defnyddid mawn yn helaeth, yn arbennig ar dir uwch lle roedd coed yn brin. Yn nechrau haf ai dyni...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Cors Goch''' wrth droed [[Moel Tryfan]] yn ffynhonell o fawn i'r ardal.
Cyn i lo ddod yn danwydd cyffredin oddeutu canol y 19g., defnyddid mawn yn helaeth, yn arbennig ar dir uwch lle roedd coed yn brin. Yn nechrau haf ai dynion i fyny i'r corsydd mawn i dorri'r mawn yn ddarnau hirsgwar fel briciau gyda rhaw arbennig. Yna gwneid tas o'r mawn a'i gadael i sychu dros yr haf cyn ei nôl gyda throliau at ddiwedd Awst i Fedi. Yn aml roedd gan bob teulu ei lecyn torri mawn a'i das fawn ei hun.
Cyn i lo ddod yn danwydd cyffredin oddeutu canol y 19g., defnyddid mawn yn helaeth, yn arbennig ar dir uwch lle roedd coed yn brin. Yn nechrau haf ai dynion i fyny i'r corsydd mawn i dorri'r mawn yn ddarnau hirsgwar fel briciau gyda rhaw arbennig. Yna gwneid tas o'r mawn a'i gadael i sychu dros yr haf cyn ei nôl gyda throliau at ddiwedd Awst i Fedi. Yn aml roedd gan bob teulu ei lecyn torri mawn a'i das fawn ei hun.


Bu cynaeafu mawn yn rhan bwysig o fywyd ar lechweddau Arfon am flynyddoedd. Wrth droed Moeltryfan roedd mawnog a elwid yn Gors Goch a bu defnydd helaeth arni gan drigolion ardal Rhosgadfan a Rhostryfan. Un o'r rhai a ai yno i nôl mawn oedd Wiliam Bifan (hen fardd y Gadlys) a chadwodd gof am ei daith i'r fawnog yn y rhigwm hwn:  
Bu cynaeafu mawn yn rhan bwysig o fywyd ar lechweddau [[Arfon]] am flynyddoedd. Wrth droed Moeltryfan roedd mawnog a elwid yn Gors Goch a bu defnydd helaeth arni gan drigolion ardal [[Rhosgadfan]] a [[Rhostryfan]]. Un o'r rhai a ai yno i nôl mawn oedd [[William Bifan y Gadlys|William Bifan]] (hen fardd [[Gadlys|Y Gadlys]]) a chadwodd gof am ei daith i'r fawnog yn y rhigwm hwn:  


   Wrth ddod yn ôl yn llipryn
   Wrth ddod yn ôl yn llipryn
Llinell 8: Llinell 10:
   Gan Martha Goch Cae'rodyn.  
   Gan Martha Goch Cae'rodyn.  


Wrth i boblogaeth pentrefi'r ardal gynyddu ar ôl tua 1840 gyda'r diwydiant llechi'n ehangu, aeth mawn y Gors Goch yn hynod brin a bu'n rhaid mynd ymhellach i fawnog arall ar ochr ddwyreiniol Moeltryfan i geisio mawn. Hon oedd Cors y Bryniau, a roes ei henw i chwarel a agorwyd wrth ei hymyl ac a anfarwolwyd yng nghasgliad cyntaf Kate Roberts o straeon byrion, sef ''O Gors y Bryniau'', a gyhoeddwyd ym 1925. Fodd bynnag, gyda dyfodiad y rheilffordd o Gaer i Fôn ac Arfon yn y 1850au daeth yn fwy hwylus i gludo glo o Loegr ac ardal Wrecsam. Gellid prynu glo glân ac effeithiol am swllt y cant a hwnnw'n cael ei ddanfon i bob tŷ a rhoddodd hynny derfyn i bob pwrpas ar yr arfer trwm a llafurus o dorri a chludo mawn.<sup>[1]</sup>  
Wrth i boblogaeth pentrefi'r ardal gynyddu ar ôl tua 1840 gyda'r diwydiant llechi'n ehangu, aeth mawn y Gors Goch yn hynod brin a bu'n rhaid mynd ymhellach i fawnog arall ar ochr ddwyreiniol Moeltryfan i geisio mawn. Hon oedd [[Cors y Bryniau]], a roes ei henw i chwarel a agorwyd wrth ei hymyl ac a anfarwolwyd yng nghasgliad cyntaf [[Kate Roberts]] o straeon byrion, sef ''O Gors y Bryniau'', a gyhoeddwyd ym 1925. Fodd bynnag, gyda dyfodiad y rheilffordd o Gaer i Fôn ac Arfon yn y 1850au daeth yn fwy hwylus i gludo glo o Loegr ac ardal Wrecsam. Gellid prynu glo glân ac effeithiol am swllt y cant a hwnnw'n cael ei ddanfon i bob tŷ a rhoddodd hynny derfyn i bob pwrpas ar yr arfer trwm a llafurus o dorri a chludo mawn.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.85-7.
</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.85-7.
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Amaethyddiaeth]]

Fersiwn yn ôl 12:55, 24 Tachwedd 2022

Roedd Cors Goch wrth droed Moel Tryfan yn ffynhonell o fawn i'r ardal.

Cyn i lo ddod yn danwydd cyffredin oddeutu canol y 19g., defnyddid mawn yn helaeth, yn arbennig ar dir uwch lle roedd coed yn brin. Yn nechrau haf ai dynion i fyny i'r corsydd mawn i dorri'r mawn yn ddarnau hirsgwar fel briciau gyda rhaw arbennig. Yna gwneid tas o'r mawn a'i gadael i sychu dros yr haf cyn ei nôl gyda throliau at ddiwedd Awst i Fedi. Yn aml roedd gan bob teulu ei lecyn torri mawn a'i das fawn ei hun.

Bu cynaeafu mawn yn rhan bwysig o fywyd ar lechweddau Arfon am flynyddoedd. Wrth droed Moeltryfan roedd mawnog a elwid yn Gors Goch a bu defnydd helaeth arni gan drigolion ardal Rhosgadfan a Rhostryfan. Un o'r rhai a ai yno i nôl mawn oedd William Bifan (hen fardd Y Gadlys) a chadwodd gof am ei daith i'r fawnog yn y rhigwm hwn:

 Wrth ddod yn ôl yn llipryn
 O ladd y mawn a'r rhedyn
 Caf de a sleisen o gig moch
 Gan Martha Goch Cae'rodyn. 

Wrth i boblogaeth pentrefi'r ardal gynyddu ar ôl tua 1840 gyda'r diwydiant llechi'n ehangu, aeth mawn y Gors Goch yn hynod brin a bu'n rhaid mynd ymhellach i fawnog arall ar ochr ddwyreiniol Moeltryfan i geisio mawn. Hon oedd Cors y Bryniau, a roes ei henw i chwarel a agorwyd wrth ei hymyl ac a anfarwolwyd yng nghasgliad cyntaf Kate Roberts o straeon byrion, sef O Gors y Bryniau, a gyhoeddwyd ym 1925. Fodd bynnag, gyda dyfodiad y rheilffordd o Gaer i Fôn ac Arfon yn y 1850au daeth yn fwy hwylus i gludo glo o Loegr ac ardal Wrecsam. Gellid prynu glo glân ac effeithiol am swllt y cant a hwnnw'n cael ei ddanfon i bob tŷ a rhoddodd hynny derfyn i bob pwrpas ar yr arfer trwm a llafurus o dorri a chludo mawn.[1]

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.85-7.