Express Motors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Carrog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Carrog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Bws Pilipala.jpg|thumb|Right]]
[[Delwedd:Bws Pilipala.jpg|thumb|Bws 'Pilipala' tua 1960]]
==Owen Wyn Owen==
==Owen Wyn Owen==
Gweithio yn y chwarel oedd Owen Wyn Owen, ac yn byw yn Cae Gwyn Rhostryfan. Fe ofynnodd am ganiatâd fynd i ddysgu gyrru cerbydau, ac i ffwrdd i Lundain yr aeth.
Gweithio yn y chwarel oedd Owen Wyn Owen, ac yn byw yn Cae Gwyn Rhostryfan. Fe ofynnodd am ganiatâd fynd i ddysgu gyrru cerbydau, ac i ffwrdd i Lundain yr aeth.

Fersiwn yn ôl 12:22, 20 Ionawr 2018

Bws 'Pilipala' tua 1960

Owen Wyn Owen

Gweithio yn y chwarel oedd Owen Wyn Owen, ac yn byw yn Cae Gwyn Rhostryfan. Fe ofynnodd am ganiatâd fynd i ddysgu gyrru cerbydau, ac i ffwrdd i Lundain yr aeth. Ar ôl cael ei drwydded, fe brynodd fws, a gyrhaeddodd ar y trên i Bwllheli yn 1908. Ei daith gyntaf oedd mynd a chriw Capel Bedyddwyr Cricieth, am drip dros fwlch Llanberis, pan gyrhaeddodd y bws Gaernarfon, fe'u croesawyd ar y Maes yng Nghaernarfon gan neb llai na David Lloyd George.

Motor Mawr Cae Gwyn

Ar lafar Motor Mawr Cae Gwyn oedd enw ar gwmni y bws. (Mwy o wybodaeth i ddod)

Bysus Robin Huw

Fe briododd Myfanwy, un o ferchaid Owen Wyn Owen a gŵr o'r Groeslon, Robert Hughes Jones, Bryn Golau, a gymerodd y busnes drosodd. Ar lafar Bysus Robin Huw oedd enw'r camni ar lafar, ond Express Motors yn swyddogol.

Uchod angen ei ddarfod.

Cwmni bysiau a redai o Gaernarfon i gyfeiriad Y Fron yn y lle cyntaf, oedd Express Motors, a hyyny cyn yr ail ryfel byd. Sefydlwyd y cwmni ym 1907 gan Eric Jones. Fe'i alwyd y bysiau hyn yn "fysiau Robin Huw" ar dafod leferydd. Yn ystod y 1970au, rhedai'r cwmni hen fws Leyland coch, yn debyg i'r bysiau unllawr Crosville gynt. Fodd bynnag, fe werthwyd teithiau'r cwmni i gwmni arall lleol, sef Bysiau Seren Arian neu "Silver Star" yn yustod y 1970au.

Maes o law prynwyd yr enw gan y perchnogion presennol, ac o dipyn i beth ehangwyd y teithiau, yn gyntaf i leoedd eraill cyfagos megis Nantlle a Dinas Dinlle, ond yn fwy diweddar (ar ôl agor depo ym Mlaenau Ffestiniog) mor bell ag Aberystwyth, Llanrwst, Llandudno, Porthmadog a'r Bermo. Yn 2010, prynwyd pedair llwybr taith ("route") Seren Arian a arweiniai at ehangiad pellach. Erbyn 2012, roedd y cwmni'n rhedeg 25 o fysiau a 15 o goetsys.[1]

Yn wreiddiol defnyddiodd y perchnogion newydd liwiau gwyrddlas a gwyn ar fysiau Express ond ar ôl i gwmni Arriva ddod i'r ardal gyda'i lifrai gwyrddlas, newidiwyd lliwiau Express i felyn a gwyn.[2]

Ataliwyd pob gwasanaeth cwmni Express ar ddiwedd 2017, wedi i'r Comisiynydd Traffig atal eu trwydded.

[1] express motors

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Tudalen Wikipedia am Express Motors
  2. Gwybodaeth bersonol