Beirdd gwlad Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon. | Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon. | ||
[[Delwedd:Tabl beirdd.png|bawd|de|400px|Llythyr y Pwyswr]] | [[Delwedd:Tabl beirdd.png|bawd|de|400px|Llythyr y Pwyswr]] | ||
* | *[[William John Davies (Glan Llyfnwy)]] | ||
*Hywel Tudur | *[[Howell Roberts (Hywel Tudur)]] | ||
*J. Machreth Rees | *[[J. Machreth Rees]] | ||
*Parch D. Jones | *[[Parch D. Jones]] | ||
* | *[[H.E. Jones (Hywel Cefni)]] | ||
*Anant | *[[Owen Edwards (Anant)]] | ||
*G. (Geraint) Owen | *[[G. (Geraint) Owen ]] | ||
*Mawrthfab | *[[Mawrthfab]] | ||
*Maldwynog | *[[Maldwynog]] | ||
*Trebor Aled | *[[Trebor Aled]] | ||
*Aled Ddu | *[[Aled Ddu]] | ||
*Croesfryn | *[[Croesfryn]] | ||
*H. H. (Gwelltyn) | *[[H. H. (Gwelltyn)]] | ||
*Ioan ap Ioan | *[[Ioan ap Ioan]] | ||
*Owen Meirig | *[[Owen Meirig]] | ||
*Ioan Eifion | *[[Ioan Eifion]] | ||
*Ieuan Nebo | *[[Ieuan Nebo]] | ||
*Iolo Glan Twrog | *[[Iolo Glan Twrog]] | ||
Gellir tybio y byddai rhestr mor fanwl - a dadleuol efallai - yn esgor ar ohebiaeth danbaid yn rhifynnau canlynol y papur newydd, ond hyd y gellir darganfod, nid oedd unrhyw ymateb yn y rhifynnau nesaf. | Gellir tybio y byddai rhestr mor fanwl - a dadleuol efallai - yn esgor ar ohebiaeth danbaid yn rhifynnau canlynol y papur newydd, ond hyd y gellir darganfod, nid oedd unrhyw ymateb yn y rhifynnau nesaf. Dichon felly fod y gwerthusiad yn weddol agos i'w le. Cadarnhâd o'r rhagdybiaeth hon yw'r ffaith mai pedair o'r chwech cyntaf yn y rhestr wedi hawlio erthyglau ymysg y 1450 o erthyglau cynharaf yng Nghof y Cwmwd, eithr na chafwyd neb yr ysbrydoliaeth (na'r wybodaeth) i lunio erthyglau erthyglau ar y deuddeg bardd isaf ar y rhestr - rhywbeth a fydd yn cael sylw wedi hyn! | ||
Rhaid hefyd amau mai dim ond beirdd [[Dyffryn Nantlle]] oedd yn byw ym 1888 sydd yma. Ni ddylid anghofio am feirdd cynharach o sylwedd, megis [[David Jones (Dewi Arfon)]] ac [[Ebeneser Thomas (Eben Fardd)]]; nac ychwaith y blodeuo rhyfeddol yn nhraddodiad y dyffryn gyda gwaith rhai fel [[Robert Williams Parry]], [[T. H. Parry-Williams]], [[Mathonwy Hughes]], [[Gwilym R. Jones]] ac yn y blaen. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 11:07, 13 Hydref 2022
Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’.[1] Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o’r prif feirdd gwlad Dyffryn Nantlle oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g.
Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn cychwyn:
TAFOLIAD BEIRDD DYFFRYN NANTLLE SYR,-Mewn trefn i ni allu gwneyd chwareu teg â phob un ohonynt, yr ydym yn nodi eu graddau mewn pedwar peth gwahanol, gan eu bod oll yn rhagori yn y naill neu'r llall o'r pethau hyn. Y pedwar peth hynny yw - Awen, Barn, Dysg, a Chynghanedd. Cymerwn ugain yn safon gyda phob un ohonynt; yna cyfrifwn yr oll gyda'u gilydd, heb adnabod neb ohonynt yn ôl y cnawd.
Ar ôl rhestru’r beirdd a’u sgoriau – yn ôl ei farn o – gorffenodd y llythyrwr ei lythyr fel a ganlyn:
Gyda'ch caniatâd, Mr Gol., yr ydym yn bwriadu tafoli cerddorion y dyffryn y tro nesaf; ac yna y llenorion a'i areithwyr. Y PWYSWR.
Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon.
- William John Davies (Glan Llyfnwy)
- Howell Roberts (Hywel Tudur)
- J. Machreth Rees
- Parch D. Jones
- H.E. Jones (Hywel Cefni)
- Owen Edwards (Anant)
- G. (Geraint) Owen
- Mawrthfab
- Maldwynog
- Trebor Aled
- Aled Ddu
- Croesfryn
- H. H. (Gwelltyn)
- Ioan ap Ioan
- Owen Meirig
- Ioan Eifion
- Ieuan Nebo
- Iolo Glan Twrog
Gellir tybio y byddai rhestr mor fanwl - a dadleuol efallai - yn esgor ar ohebiaeth danbaid yn rhifynnau canlynol y papur newydd, ond hyd y gellir darganfod, nid oedd unrhyw ymateb yn y rhifynnau nesaf. Dichon felly fod y gwerthusiad yn weddol agos i'w le. Cadarnhâd o'r rhagdybiaeth hon yw'r ffaith mai pedair o'r chwech cyntaf yn y rhestr wedi hawlio erthyglau ymysg y 1450 o erthyglau cynharaf yng Nghof y Cwmwd, eithr na chafwyd neb yr ysbrydoliaeth (na'r wybodaeth) i lunio erthyglau erthyglau ar y deuddeg bardd isaf ar y rhestr - rhywbeth a fydd yn cael sylw wedi hyn!
Rhaid hefyd amau mai dim ond beirdd Dyffryn Nantlle oedd yn byw ym 1888 sydd yma. Ni ddylid anghofio am feirdd cynharach o sylwedd, megis David Jones (Dewi Arfon) ac Ebeneser Thomas (Eben Fardd); nac ychwaith y blodeuo rhyfeddol yn nhraddodiad y dyffryn gyda gwaith rhai fel Robert Williams Parry, T. H. Parry-Williams, Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones ac yn y blaen.
Cyfeiriadau
- ↑ op.cit., t.7