Melin Faesog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:
Aeth y felin, wedi iddi beidio â malu, o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd  yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac wedi adrodd y stori mewn dau lyfr.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Melin Faesog'' cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg ''Echoes from a Water Wheel'' (hunan-gyhoeddedig, 2011)</ref>.
Aeth y felin, wedi iddi beidio â malu, o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd  yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac wedi adrodd y stori mewn dau lyfr.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Melin Faesog'' cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg ''Echoes from a Water Wheel'' (hunan-gyhoeddedig, 2011)</ref>.


Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682<ref>idem. t.10</ref>. Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm [[Bachwen]], gan fod y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands o Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd [[Robert Price, Melin Faesog]], un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]]. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd, ac ym 1865, Emanuel Evans oedd tenant y felin, ynghyd â 5 acer o dir. Owen Jones oedd y perchennog.<ref>Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865</ref>
Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682<ref>idem. t.10</ref>. Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm [[Bachwen]], gan fod y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands, Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd [[Robert Price, Melin Faesog]], un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]]. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd, ac ym 1865, Emanuel Evans oedd tenant y felin, ynghyd â 5 acer o dir. Owen Jones oedd y perchennog.<ref>Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865</ref>


Melinwyr Melin Faesog 1682-1920<ref>''Echoes from a water wheel'' gan Sophia Pari-Jones, eto 2011</ref>.
Melinwyr Melin Faesog 1682-1920<ref>''Echoes from a water wheel'' gan Sophia Pari-Jones, eto 2011</ref>.


'' 1682    Robert Griffith''
'' 1682    Robert Griffith'' Hanai o Ddrws-y-coed.  Roedd yn briod &acirc; Lowry, chwaer John Rowlands, Plas-y-Nant, Betws Garmon.
'' 1719    Robert Price''
 
'' 1719     Meyrick Barnaby''  Priod &acirc; Mary, merch hynaf Robert Griffith a Lowri Rowlands.
 
'' 1746     Robert Price''     Melinydd a Saer. Priod &acirc; Catherine Meyrick, unig ferch Meyrick Barnaby    I'w barhau....
 
'' 1806    Samuel Roberts''
'' 1806    Samuel Roberts''
'' 1829    Richard Roberts''
'' 1829    Richard Roberts''
'' 1840    William Williams''
'' 1840    William Williams''
'' 1846    Richard Williams''
'' 1846    Richard Williams''
'' 1857    Emanuel Evas''
'' 1857    Emanuel Evas''
'' 1859    David Evans''
'' 1859    David Evans''
'' 1890    John Jones''
'' 1890    John Jones''
'' 1908    Daniel Roberts''
'' 1908    Daniel Roberts''
'' 1920    John Jones''
'' 1920    John Jones''



Fersiwn yn ôl 21:53, 4 Hydref 2022

Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel Melin Faesog (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan Afon Desach ger treflan Tai Lôn ym mhlwyf Clynnog Fawr. Heb fod ymhell llifa afonig Afon Rheon i Afon Desach. Dŵr o lyn a gronnid ar yr afonig honno fyddai'n troi olwyn y felin. Mae lle i gredu mai'r Afon Rheon hon oedd dan sylw yn rhai o Englynion y Beddau. Dyfynnir dau ohonynt gan Eben Fardd yn Cyff Beuno. Tybir eu bod yn perthyn i'r nawfed a'r ddegfed ganrif:


Yn y ddêl Kadwaladr i Gynnadl Rhyd Rheon,
Kynon yn erbyn cychwyn ar Saeson,
Kymry a orfydd, kain fydd e dragon
Kaffant pawb ei deithi llawen fi Brython,
Kaintor cyrn elwch kathl heddwch a hinon.


Bedd Rhun mab Pŷd yn Ergyd
Afon, yn oerfel yng ngweryd,
Bedd Cynon yn Rheon Ryd.

Aeth y felin, wedi iddi beidio â malu, o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac wedi adrodd y stori mewn dau lyfr.[1].

Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682[2]. Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm Bachwen, gan fod y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands, Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd Robert Price, Melin Faesog, un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd, ac ym 1865, Emanuel Evans oedd tenant y felin, ynghyd â 5 acer o dir. Owen Jones oedd y perchennog.[3]

Melinwyr Melin Faesog 1682-1920[4].

1682 Robert Griffith Hanai o Ddrws-y-coed. Roedd yn briod â Lowry, chwaer John Rowlands, Plas-y-Nant, Betws Garmon.

1719 Meyrick Barnaby Priod â Mary, merch hynaf Robert Griffith a Lowri Rowlands.

1746 Robert Price Melinydd a Saer. Priod â Catherine Meyrick, unig ferch Meyrick Barnaby I'w barhau....

1806 Samuel Roberts

1829 Richard Roberts

1840 William Williams

1846 Richard Williams

1857 Emanuel Evas

1859 David Evans

1890 John Jones

1908 Daniel Roberts

1920 John Jones


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Sophia Pari-Jones, Melin Faesog cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg Echoes from a Water Wheel (hunan-gyhoeddedig, 2011)
  2. idem. t.10
  3. Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865
  4. Echoes from a water wheel gan Sophia Pari-Jones, eto 2011