Meredydd ap Hwlcyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Meredydd ap Hwlcyn''' (neu "Meredydd Llwyd") o Lynllifon (c. 1490 - c.1460) yn fab i Hwlcyn Llwyd a amddiffynnodd Castell Caer...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Meredydd ap Hwlcyn''' (neu "Meredydd Llwyd") o [[Glynllifon|Lynllifon]] (c. | Roedd '''Meredydd ap Hwlcyn''' (neu "Meredydd Llwyd") o [[Glynllifon|Lynllifon]] (c. 1390 - c.1460) yn fab i [[Hwlcyn Llwyd]] a amddiffynnodd Gastell Caernarfon yn erbyn lluoedd Glyndŵr. Fel ei dad, ochrodd Meredydd gyda choron Lloegr, ac erbyn 1413-14, roedd wedi ei benodi'n feili (sef prif swyddog y Goron) yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]]. Er bod cyfreithiau yn y 15g. yn erbyn i'r Cymry fod yn berchen ar arfau ac ati, fe laciwyd y rheolau fel y gallai dynion y gallai'r awdurdodau ymddiried ynddynt fod ag arfau heb gosb, a bwrw eu bod yn cynorthwyo'r fyddin Seisnig ar ei hanturiaethau dramor. Ym 1456, yn ystod teyrnasiad Harri VI, derbyniodd Meredydd lythyr amddiffyniad rhag y cosbau hyn, gan fynd gyda llu o ddynion yn ei ddilyn i Ynys Guernsey i warchod yr ynys honno.<ref>W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.34</ref> | ||
Priododd â Gwenhwyfar ferch Llywelyn ab Edmund ap Gruffydd ap Ednyfed ap Gruffydd o linach Lliwarch ap Brân yn ôl yr achresi lled fytholegol. Cawsant nifer o ferched, Annes, Alswn, Angharad, Nest a Catherine, yn ogystal â mab, [[Robert ap Meredydd]], Glynllifon.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.172</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 12:22, 6 Gorffennaf 2022
Roedd Meredydd ap Hwlcyn (neu "Meredydd Llwyd") o Lynllifon (c. 1390 - c.1460) yn fab i Hwlcyn Llwyd a amddiffynnodd Gastell Caernarfon yn erbyn lluoedd Glyndŵr. Fel ei dad, ochrodd Meredydd gyda choron Lloegr, ac erbyn 1413-14, roedd wedi ei benodi'n feili (sef prif swyddog y Goron) yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Er bod cyfreithiau yn y 15g. yn erbyn i'r Cymry fod yn berchen ar arfau ac ati, fe laciwyd y rheolau fel y gallai dynion y gallai'r awdurdodau ymddiried ynddynt fod ag arfau heb gosb, a bwrw eu bod yn cynorthwyo'r fyddin Seisnig ar ei hanturiaethau dramor. Ym 1456, yn ystod teyrnasiad Harri VI, derbyniodd Meredydd lythyr amddiffyniad rhag y cosbau hyn, gan fynd gyda llu o ddynion yn ei ddilyn i Ynys Guernsey i warchod yr ynys honno.[1]
Priododd â Gwenhwyfar ferch Llywelyn ab Edmund ap Gruffydd ap Ednyfed ap Gruffydd o linach Lliwarch ap Brân yn ôl yr achresi lled fytholegol. Cawsant nifer o ferched, Annes, Alswn, Angharad, Nest a Catherine, yn ogystal â mab, Robert ap Meredydd, Glynllifon.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma