Meillionydd, Y Fron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif ‘’’Meillionydd’’’ ym mhentref Y Fron, ychydig is na’r hen ysgol sydd bellach yn ganolfan gymdeithasol a thŷ...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:

Gor-ŵyr i William Ellis Williams oedd y Parch. Stanley H. Williams (1910-1992) a ymddeolodd i Lys Twrog, Y Fron, nid nepell o hen gartref y teulu. Roedd [[Thomas Elwyn Griffiths (Llenyn)]] yn gefnder iddo.<ref>Gwefan Roots Chat, ymholiad am Stanley Haydn Williams, [https://www.rootschat.com/forum/index.php?topic=309837.9], cyrchwyd 12.04.2022</ref>

Wedi i deulu Williams adael yr eiddo, credir fod dyn a fasnachai fel cigydd, Thomas Roberts, oedd yn byw yno cyn symud yn ddiweddarach i gadw busnes ym Mryn Afon, [[Rhostryfan]] gyda'i fab-yng-nghyfraith, Thomas Orr.<ref>W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.91-97.</ref>

Erbyn hyn, mae adeiladau Meillionydd wedi’u troi’n fythynnod haf a osodir i ymwelwyr ers sawl blwyddyn ond yn y 1980au a 1990au, bu’n westy llwyddiannus ac yn gyrchfan i gymdeithasau ar gyfer pryd allan.

Fersiwn yn ôl 10:36, 12 Ebrill 2022

Saif ‘’’Meillionydd’’’ ym mhentref Y Fron, ychydig is na’r hen ysgol sydd bellach yn ganolfan gymdeithasol a thŷ Plas Colley, ar y lôn sydd yn arwain at ben uchaf Chwarel Pen-yr-orsedd.

Meillionydd oedd un o dai mwyaf sylweddol y pentref pan y’i codwyd rywbryd tua 1850, ac yn breswylfod digon addas ar gyfer William Ellis Williams oedd yn byw yno gyda’i deulu ym 1861. Roedd o’n asiant Chwarel Cilgwyn. Adeg y Cyfrifiad ym 1861, roedd o’n 49 oed, a’i wraig Catherine ddwy flynedd yn iau nag ef. Roedd ganddynt chwech o blant, tri mab a thair merch, a’r hynaf yn 20 oed ac yn gweithio fel chwarelwr. Ymhen deng mlynedd, a’r teulu dal i fyw yno, roedd y tad wedi’i ddyrchafu’n rheolwr y chwarel, a’r mab hynaf, Robert, a’r ail fab, Henry, ill dau wedi cael hen swydd eu tad fel asiantwyr y chwarel - ac yr un oedd y sefyllfa ym Meillionydd ym 1871 hefyd. Erbyn 1881, William (mab arall William Ellis Williams), a fu am gyfnod yn Awstralia, oedd yn byw yno, gyda’i wraig Elisabeth a chwech o blant. Roedd y William hwn yn asiant chwarel hefyd, a’r teulu’n ddigon cefnog i gadw morwyn ifanc, Jane Hughes. Ym 1891, roedd y teulu’n dal yno a William wedi ei ddyrchafu’n rheolwr y chwarel - ond nid oedd y teulu’n cadw morwyn bellach. Ym 1901, tri o blant y teulu oedd yn cael eu rhestr gan y cyfrifiad fel y rhai a oedd yno ar noson y cyfrif: Kate, 32 oed ac yn ysgolfeistres; Jeannette, a William H. Williams, ill dau’n 15 oed. Dichon fod eu mam i ffwrdd ar y pryd, gan ei bod hi, sef Elisabeth Williams (yn weddw erbyn hynny) yno ym 1911, ac yn cael ei disgrifio fel ffarmwraig. Dim ond un o’i phlant oedd yn dal adref, sef William Henry, ac yntau’n ddi-briod ac yn gweithio mewn chwarel fel pwyswr llechi - sef swydd gymharol gyfrifol. Ymddengys felly fod Meillionydd wedi bod yn gartref i un teulu o’r cychwyn hyd 1911 o leiaf.[1]

Gor-ŵyr i William Ellis Williams oedd y Parch. Stanley H. Williams (1910-1992) a ymddeolodd i Lys Twrog, Y Fron, nid nepell o hen gartref y teulu. Roedd Thomas Elwyn Griffiths (Llenyn) yn gefnder iddo.[2]

Wedi i deulu Williams adael yr eiddo, credir fod dyn a fasnachai fel cigydd, Thomas Roberts, oedd yn byw yno cyn symud yn ddiweddarach i gadw busnes ym Mryn Afon, Rhostryfan gyda'i fab-yng-nghyfraith, Thomas Orr.[3]

Erbyn hyn, mae adeiladau Meillionydd wedi’u troi’n fythynnod haf a osodir i ymwelwyr ers sawl blwyddyn ond yn y 1980au a 1990au, bu’n westy llwyddiannus ac yn gyrchfan i gymdeithasau ar gyfer pryd allan.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1861-1911
  2. Gwefan Roots Chat, ymholiad am Stanley Haydn Williams, [1], cyrchwyd 12.04.2022
  3. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.91-97.