Teulu Evans, Llethr Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Llethr Ddu''' yn fferm ar lethrau gogleddol [[Cwm Coryn]] ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Bu'n gartref i deulu o fân fonheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r llinach o feibion fethu a'r aeres yn priodi. | Mae '''Llethr Ddu''' yn fferm ar lethrau gogleddol [[Cwm Coryn]] ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Bu'n gartref i deulu o fân fonheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r llinach o feibion fethu a'r aeres yn priodi. | ||
Yr aelodau cyntaf o'r teulu y ceir cofnod ohonynt yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a'i fab yntau, Howel ap Dicws a briododd â Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, â Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William, yn priodi â Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, yn peri i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth. Yn ddiau, daeth y priodasau hyn â llewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi: | Yr aelodau cyntaf o'r teulu y ceir cofnod ohonynt yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a'i fab yntau, Howel ap Dicws a briododd â Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, â Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William, yn priodi â Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn, rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, yn peri i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth. Yn ddiau, daeth y priodasau hyn â llewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi: | ||
Da i Wynedd oedd eni | Da i Wynedd oedd eni | ||
Y tair Nest i'n tir ni. | Y tair Nest i'n tir ni. | ||
Griffith oedd mab William a Nest, a phriododd hwnnw â Catherine ferch Rhys Wynn o'r [[Graeanog]]. Priododd ei fab o, Robert ap Griffith, â Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o [[Elernion]], a'u mab hwythau wedyn yn priodi ag Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis [[Cwm Gwared]], Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf [[Clynnog Fawr]]. | Griffith oedd mab William a Nest, a phriododd hwnnw â Catherine ferch Rhys Wynn o'r [[Graeanog]]. Priododd ei fab o, Robert ap Griffith, â Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o [[Elernion]], a'u mab hwythau wedyn yn priodi ag Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis [[Cwm Gwared]], Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf [[Clynnog Fawr]]. | ||
Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd statws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Bu dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. | Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd statws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Bu dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. Roedd y teulu Evans wedi codi o ran eu statws cymdeithasol unwaith eto, mae'n ymddangos. Parheid â'r cysylltiad ag [[Uwchgwyrfai]] trwy i Charles Evans briodi ag Elisabeth, merch Huw Lewis o [[Plas-y-bont|Blas-y-bont]], [[Y Bontnewydd]] ym 1761.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.54, 122, 175 ac yn arbennig, t.135</ref> | ||
Erbyn 1840, fodd bynnag, ac efallai lawer ynghynt, roedd y teulu Evans wedi gwerthu'r eiddo gan ganolbwyntio ar eu heiddo yn sir Fôn, lle daethant i gael eu hadnabod fel y teulu Evans o Henblas, Llangristiolus. Yn y diwedd, aeth nifer o'r meibion ac wyrion y cenedlaethau nesaf i'r eglwys, ac un gangen yn ymsefydlu ym Mhlas Eutun ( Eyton Hall), Swydd Henffordd, tra arhosodd y brif gangen yn Henblas a Threfeilir tan o leiaf ail hanner y 19g.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.122-3</ref> | Erbyn 1840, fodd bynnag, ac efallai lawer ynghynt, roedd y teulu Evans wedi gwerthu'r eiddo gan ganolbwyntio ar eu heiddo yn sir Fôn, lle daethant i gael eu hadnabod fel y teulu Evans o Henblas, Llangristiolus. Yn y diwedd, aeth nifer o'r meibion ac wyrion y cenedlaethau nesaf i'r eglwys, ac un gangen yn ymsefydlu ym Mhlas Eutun (Eyton Hall), Swydd Henffordd, tra arhosodd y brif gangen yn Henblas a Threfeilir tan o leiaf ail hanner y 19g.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.122-3</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:19, 3 Ebrill 2022
Mae Llethr Ddu yn fferm ar lethrau gogleddol Cwm Coryn ym mhlwyf Llanaelhaearn. Bu'n gartref i deulu o fân fonheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r llinach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.
Yr aelodau cyntaf o'r teulu y ceir cofnod ohonynt yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a'i fab yntau, Howel ap Dicws a briododd â Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, â Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William, yn priodi â Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn, rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, yn peri i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth. Yn ddiau, daeth y priodasau hyn â llewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:
Da i Wynedd oedd eni Y tair Nest i'n tir ni.
Griffith oedd mab William a Nest, a phriododd hwnnw â Catherine ferch Rhys Wynn o'r Graeanog. Priododd ei fab o, Robert ap Griffith, â Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o Elernion, a'u mab hwythau wedyn yn priodi ag Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis Cwm Gwared, Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf Clynnog Fawr.
Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd statws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Bu dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. Roedd y teulu Evans wedi codi o ran eu statws cymdeithasol unwaith eto, mae'n ymddangos. Parheid â'r cysylltiad ag Uwchgwyrfai trwy i Charles Evans briodi ag Elisabeth, merch Huw Lewis o Blas-y-bont, Y Bontnewydd ym 1761.[1]
Erbyn 1840, fodd bynnag, ac efallai lawer ynghynt, roedd y teulu Evans wedi gwerthu'r eiddo gan ganolbwyntio ar eu heiddo yn sir Fôn, lle daethant i gael eu hadnabod fel y teulu Evans o Henblas, Llangristiolus. Yn y diwedd, aeth nifer o'r meibion ac wyrion y cenedlaethau nesaf i'r eglwys, ac un gangen yn ymsefydlu ym Mhlas Eutun (Eyton Hall), Swydd Henffordd, tra arhosodd y brif gangen yn Henblas a Threfeilir tan o leiaf ail hanner y 19g.[2]