Ffrwd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol - ym 1901, rhestrir tri gof yn byw yn y dreflan. Roedd yr efail wedi ei sefydlu ymhell cyn hynny: cafodd Elizabeth, merch Daniel Thomas, gof, Ffrwd Ysgyfarnog a Catherine ei wraig, ei bedyddio ym 1775. Bu farw Daniel Thomas, y gof a'r tafarnwr, y flwyddyn ganlynol, ond ym 1777 ceir sôn am un William Jones, gof, o Ffrwd Ysgyfarnog.<ref>Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1775-7</ref> | Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol - ym 1901, rhestrir tri gof yn byw yn y dreflan. Roedd yr efail wedi ei sefydlu ymhell cyn hynny: cafodd Elizabeth, merch Daniel Thomas, gof, Ffrwd Ysgyfarnog a Catherine ei wraig, ei bedyddio ym 1775. Bu farw Daniel Thomas, y gof a'r tafarnwr, y flwyddyn ganlynol, ond ym 1777 ceir sôn am un William Jones, gof, o Ffrwd Ysgyfarnog.<ref>Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1775-7</ref> | ||
Cynhelid ysgol ddyddiol yn y Ffrwd rhwng 1787 a 1789 gan [[David Wilson]], gŵr a ddaeth yn wreidddiol o Garno, Sir Drefaldwyn. Ymhlith y rhai a gafodd addysg ganddo yn ystod y cyfnod byr y bu yno oedd John Parry (Y Parch. [[John Parry, Caer | Cynhelid ysgol ddyddiol yn y Ffrwd rhwng 1787 a 1789 gan [[David Wilson]], gŵr a ddaeth yn wreidddiol o Garno, Sir Drefaldwyn. Ymhlith y rhai a gafodd addysg ganddo yn ystod y cyfnod byr y bu yno oedd John Parry (Y Parch. [[John Parry]], Caer yn ddiweddarach), a fagwyd yn y gymdogaeth. | ||
Mae un o borthdai [[Parc Glynllifon]] wrth y groesffordd ar un ochr, a [[Plas Isaf|Phlas Isaf]] yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid Plas Isaf fel cartref i stiward [[Ystad Glynllifon]] am flynyddoedd lawer. Nid yw [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] ond dau ganllath o gyffordd Ffrwd. Bu swyddfa bost yma am flynyddoedd cyn iddi symud i bentref Llandwrog. | Mae un o borthdai [[Parc Glynllifon]] wrth y groesffordd ar un ochr, a [[Plas Isaf|Phlas Isaf]] yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid Plas Isaf fel cartref i stiward [[Ystad Glynllifon]] am flynyddoedd lawer. Nid yw [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] ond dau ganllath o gyffordd Ffrwd. Bu swyddfa bost yma am flynyddoedd cyn iddi symud i bentref Llandwrog. |
Fersiwn yn ôl 10:41, 21 Chwefror 2022
Mae Ffrwd, Ffrwd Ysgyfarnog neu Groeslon Ffrwd, yn dreflan ym mhlwyf Llandwrog ychydig oddi ar y ffordd dyrpeg i Bwllheli, sef erbyn heddiw yr A499. Mae yma groesffordd lle mae'r lôn a arweiniai yn y gorffennol o fynydd a mawndir tir uchel plwyf Llandwrog i ffermydd brasach eu byd y tir isel yn croesi'r lôn bost. Ar hyd y ffordd o'r mynydd i'r môr, fe gludid calch a thywod o'r arfordir i ffermydd yr ucheldir, a gyrrid defaid a gwartheg ar hyd y lôn tua'r mynydd yn y gwanwyn at y porfeydd haf a'r hafodydd, tra defnyddid y ffordd i ddod â mawn yn ôl i ffermydd yr iseldir. Gellid dadlau, felly, mai dyma brif groesffordd plwyf Llandwrog yn yr amser a fu. Dichon mai Ffrwd Ysgyfarnog oedd hen enw'r fangre hon. Mae'n debyg mai yma yr oedd y dafarn leol yn niwedd y 18g, gan fod Daniel Thomas, Ffrwd Ysgyfarnog, yn dal trwydded i werthu cwrw ym 1776 - hynny ar ôl i hen dafarn Betws Gwernrhiw gau o bosibl.[1]
Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol - ym 1901, rhestrir tri gof yn byw yn y dreflan. Roedd yr efail wedi ei sefydlu ymhell cyn hynny: cafodd Elizabeth, merch Daniel Thomas, gof, Ffrwd Ysgyfarnog a Catherine ei wraig, ei bedyddio ym 1775. Bu farw Daniel Thomas, y gof a'r tafarnwr, y flwyddyn ganlynol, ond ym 1777 ceir sôn am un William Jones, gof, o Ffrwd Ysgyfarnog.[2]
Cynhelid ysgol ddyddiol yn y Ffrwd rhwng 1787 a 1789 gan David Wilson, gŵr a ddaeth yn wreidddiol o Garno, Sir Drefaldwyn. Ymhlith y rhai a gafodd addysg ganddo yn ystod y cyfnod byr y bu yno oedd John Parry (Y Parch. John Parry, Caer yn ddiweddarach), a fagwyd yn y gymdogaeth.
Mae un o borthdai Parc Glynllifon wrth y groesffordd ar un ochr, a Phlas Isaf yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid Plas Isaf fel cartref i stiward Ystad Glynllifon am flynyddoedd lawer. Nid yw Capel Bwlan (MC), Llandwrog ond dau ganllath o gyffordd Ffrwd. Bu swyddfa bost yma am flynyddoedd cyn iddi symud i bentref Llandwrog.
Yma hefyd cychwynnir hen lôn gul sy'n arwain at eglwys a phentref Llandwrog. Roedd hon yn arfer â bod yn brif ffordd ar draws y cwmwd cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg.