Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 15: Llinell 15:


Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:
Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:
* [[Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)]] (1852-1943, awdures ac ymgyrchydd dros hawliau merched  
* [[Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)]] (1852-1943, awdures ac ymgyrchydd dros hawliau merched.
* Sir [[David Hughes Parry]] (1893–1973), bargyfriethiwr ,ac Athro'r Gymraith ac Is-ganghellor Prifysgol Llundain.
* Sir [[David Hughes Parry]] (1893–1973), bargyfriethiwr ,ac Athro'r Gymraith ac Is-ganghellor Prifysgol Llundain.
* Alun Jones, llenor.
* Alun Jones, llenor.
Llinell 30: Llinell 30:
Yma ceir adeilad [[Antur Aelhaearn]],a sefydlwyd i ddod agwaith i'r ardal.  
Yma ceir adeilad [[Antur Aelhaearn]],a sefydlwyd i ddod agwaith i'r ardal.  


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau:==
Wicipedia: erthygl ar bentref Trefor. Cyrchwyd 05.01.2018
Wicipedia: erthygl ar bentref Trefor. Cyrchwyd 05.01.2018
{{Cyfeiriadau}}




[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]

Fersiwn yn ôl 18:10, 5 Ionawr 2018

Llanaelhaearn yw'r plwyf mwyaf deheuol yn Uwchgwyrfai. Mae'n cynnwys dau bentref, sef Llanaelhaearn a Threfor, ac mae Trefor ei hun yn greadigaeth y 19g pan dyfodd y chwarel yno. Fermydd gwasgaredig ac ambell i dŷ moel yw gweddill anheddau'r plwyf.

Ffiniau a thirwedd

Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf Clynnog-fawr i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr;y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ym Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi Pont-y-gydros.

Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal Cwm Coryn ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger Elernion, ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.

Yr eglwys a'i sant

Eglwys hynafol y plwyf yw Eglwys Aelhaearn Sant a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei hehangu a'i hail-doi mor ddiweddar â 1892.

Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd Sant Aelhaearn, a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Elernion, plasty a fu yn eiddo i aelodau o deulu Glynllifon ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.

Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:

  • Alice Gray Jones (Ceridwen Peris) (1852-1943, awdures ac ymgyrchydd dros hawliau merched.
  • Sir David Hughes Parry (1893–1973), bargyfriethiwr ,ac Athro'r Gymraith ac Is-ganghellor Prifysgol Llundain.
  • Alun Jones, llenor.
  • Geraint Jones (Trefor), yr awdur a'r bandfeistr.
  • Y Dr Carl Clowes, meddyg lleol a sylfaenydd mentrau pwysig yn yu gymdogaeth.

Y pentref

Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Yr Eifl a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Erbyn hyn dim ond modurdy a'r ysgol sydd yn agored. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf.

Nodweddion eraill y plwyf

Heb os, bryngaer sylweddol ac arwyddocaol Tre'r Ceiri yw prif nodwedd y plwyf.

Hanes diweddar

Yma ceir adeilad Antur Aelhaearn,a sefydlwyd i ddod agwaith i'r ardal.

Cyfeiriadau:

Wicipedia: erthygl ar bentref Trefor. Cyrchwyd 05.01.2018