Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi: | Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi: | ||
Sir David Hughes Parry (1893–1973), Is-ganghellor Prifysgol Llundain. | * Sir [[David Hughes Parry]] (1893–1973), bargyfriethiwr ,ac Athro'r Gymraith ac Is-ganghellor Prifysgol Llundain. | ||
Geraint Jones, yr awdur a'r bandfeistr. | * Geraint Jones (Trefor), yr awdur a'r bandfeistr. | ||
Y Dr [[Carl Clowes]], meddyg lleol a sylfaenydd mentrau pwysig yn yu gymdogaeth. | |||
==Y pentref== | ==Y pentref== | ||
Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Yr Eifl a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Erbyn hyn dim ond modurdy a'r ysgol sydd yn agored. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf. | |||
==Nodweddion eraill y plwyf== | ==Nodweddion eraill y plwyf== | ||
Heb os, bryngaer sylweddol ac arwyddocaol [[Tre'r Ceiri]] yw prif nodwedd y plwyf. | |||
==Hanes diweddar== | ==Hanes diweddar== | ||
Yma ceir adeilad [[Antur Aelhaearn]],a sefydlwyd i ddod agwaith i'r ardal. | |||
Fersiwn yn ôl 17:01, 5 Ionawr 2018
Llanaelhaearn yw'r plwyf mwyaf deheuol yn Uwchgwyrfai. Mae'n cynnwys dau bentref, sef Llanaelhaearn a Threfor, ac mae Trefor ei hun yn greadigaeth y 19g pan dyfodd y chwarel yno. Fermydd gwasgaredig ac ambell i dŷ moel yw gweddill anheddau'r plwyf.
Ffiniau a thirwedd
Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf Clynnog-fawr i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr;y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ym Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi Pont-y-gydros.
Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal Cwm Coryn ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger Elernion, ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.
Yr eglwys a'i sant
Eglwys hynafol y plwyf yw Eglwys Aelhaearn Sant a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei hehangu a'i hail-doi mor ddiweddar â 1892.
Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd Sant Aelhaearn, a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.
Tai pwysig ac enwogion
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Elernion, plasty a fu yn eiddo i aelodau o deulu Glynllifon ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.
Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:
- Sir David Hughes Parry (1893–1973), bargyfriethiwr ,ac Athro'r Gymraith ac Is-ganghellor Prifysgol Llundain.
- Geraint Jones (Trefor), yr awdur a'r bandfeistr.
Y Dr Carl Clowes, meddyg lleol a sylfaenydd mentrau pwysig yn yu gymdogaeth.
Y pentref
Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Yr Eifl a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Erbyn hyn dim ond modurdy a'r ysgol sydd yn agored. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf.
Nodweddion eraill y plwyf
Heb os, bryngaer sylweddol ac arwyddocaol Tre'r Ceiri yw prif nodwedd y plwyf.
Hanes diweddar
Yma ceir adeilad Antur Aelhaearn,a sefydlwyd i ddod agwaith i'r ardal.