Robert Stephenson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Robert Stephenson''' oedd brawd George Stephenson y peiriannydd rheilffyrdd arloesol. Wedi i William Owen, contractor gwreiddiol adeiladu Rheilff...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Robert Stephenson''' oedd brawd [[George Stephenson]] y peiriannydd rheilffyrdd arloesol. Wedi i William Owen, contractor gwreiddiol adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]], fethu â chyflawni gwaith o safon | '''Robert Stephenson''' oedd brawd [[George Stephenson]] y peiriannydd rheilffyrdd arloesol. Wedi i William Owen, contractor gwreiddiol adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]], fethu â chyflawni gwaith o safon dderbyniol, ac wedi i'r cledrau gwreiddiol brofi'n rhy wan, anfonwyd at George Stephenson tua diwedd 1826. Rhoddodd o gyngor cadarn i gwmni'r lein newydd, ond gan ei fod mor brysur efo gwaith tua Lerpwl, trosglwyddodd y ddyletswydd o arolygu'r gwaith i'w frawd Robert a'i gynorthwywr Mr Gillespie. Iddyn nhw mae'r diolch fod y rheilffordd wedi agor yn gyfamserol ac wedi parhau'n weithredol nes i oes yr injans stêm gyrraedd [[Uwchgwyrfai]]. Mae nifer o lythyrau Robert at ei frawd wedi goroesi, ac mae'n amlwg bod y ddau'n cymryd y gwaith o ddifrif.<ref>J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.15-17</ref> | ||
Ni ddylid cymysgu rhwng "ein Robert ni" yn Uwchgwyrfai | Ni ddylid cymysgu rhwng "ein Robert ni" yn Uwchgwyrfai â mab George Stephenson, Robert arall, a oedd yn gyfrifol am lawer o reilffyrdd a gwaith peirianyddol yng nghanol y ganrif - nac ychwaith â Robert, tad George Stephenson o ran hynny. | ||
{{Eginyn}} | {{Eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:27, 20 Ionawr 2022
Robert Stephenson oedd brawd George Stephenson y peiriannydd rheilffyrdd arloesol. Wedi i William Owen, contractor gwreiddiol adeiladu Rheilffordd Nantlle, fethu â chyflawni gwaith o safon dderbyniol, ac wedi i'r cledrau gwreiddiol brofi'n rhy wan, anfonwyd at George Stephenson tua diwedd 1826. Rhoddodd o gyngor cadarn i gwmni'r lein newydd, ond gan ei fod mor brysur efo gwaith tua Lerpwl, trosglwyddodd y ddyletswydd o arolygu'r gwaith i'w frawd Robert a'i gynorthwywr Mr Gillespie. Iddyn nhw mae'r diolch fod y rheilffordd wedi agor yn gyfamserol ac wedi parhau'n weithredol nes i oes yr injans stêm gyrraedd Uwchgwyrfai. Mae nifer o lythyrau Robert at ei frawd wedi goroesi, ac mae'n amlwg bod y ddau'n cymryd y gwaith o ddifrif.[1]
Ni ddylid cymysgu rhwng "ein Robert ni" yn Uwchgwyrfai â mab George Stephenson, Robert arall, a oedd yn gyfrifol am lawer o reilffyrdd a gwaith peirianyddol yng nghanol y ganrif - nac ychwaith â Robert, tad George Stephenson o ran hynny.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.15-17