George Stephenson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn annisgwyl braidd, cafodd George Stephenson (1781-1848), y peiriannydd rheilffyrdd enwog, ddylanwad ar ddatblygiad Dyffryn Nantlle. Ar ôl i gwmni lleol gael caniatâd seneddol i adeiladu Rheilffordd Nantlle, rheilffordd a fyddai'n defnyddio ceffylau ac nid injans stêm, aethpwyd ati i benodi ymgymerwyr tua 1826. Un William Owen o Fôn a gafodd y contract ac aeth ati i osod platiau haearn bwrw (a awgrymwyd gan beiriannydd camlesi o'r enw Hopkins) ar gyfer trac y lein, ond yr oedd y platiau'n rhy wan a'r gwaith trwyddo draw yn annerbyniol. Penderfynodd y cwmni droi at Stephenson, a oedd yn brif awdurdod ym maes rheilffyrdd ar y pryd, i fwrw golwg ar y broblem. Bryd hynny roedd yn gweithio ar agor rheilffordd Lerpwl a Manceinion ac yn byw dros dro yn Lerpwl. Barnodd ef mai cledrau ochr (sef rhai tebyg o ran cynllun i gledrau modern) fyddai'n datrys y broblem, a chytunodd i arolygu gweddill y gwaith. Gan ei fod o'n brysur iawn, anfonodd ei frawd, Robert Stephenson, a dyn o'r enw Gillespie, i reoli pethau o ddydd i ddydd, er iddo dderbyn adroddiadau ar ffurf llythyrau gan Robert yn gyson, gan roi o'i arbenigedd pan oedd angen. Cwblhawyd y rheilffordd a pharhaodd rhan o'r trac yn agored hyd 1964.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.15-17