Hugh Beaver Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Hugh Beaver Roberts''' (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor; er iddo gael ei eni yng Nghilcain, Sir y Fflint,cartref ei dad, Hugh Roberts, oedd Glan-y-Fenai, Llandegfan.<ref>Cyfarwyddiadur Kelly, 1901</ref> Priododd Harriet Wyatt, Plas Gwynant, | Roedd '''Hugh Beaver Roberts''' (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor; er iddo gael ei eni yng Nghilcain, Sir y Fflint,cartref ei dad, Hugh Roberts, oedd Glan-y-Fenai, Llandegfan.<ref>Cyfarwyddiadur Kelly, 1901</ref> Priododd Harriet Wyatt (ganed 1822), merch James Wyatt, Plas Gwynant, Llandygái ym 1848. Yn ddyn teulu, bu'n byw yn Wellfield House, Bangor gyda'i wraig, tri mab a merch, bedair morwyn ac athrawes breifat ar gyfer y plant.<ref>Cyrfifiad Bangor 1861</ref> Erbyn 1871, roedd wedi symud gyda'i wraig a'i ferch i Milverton, Swydd Warwig, er ei fod yn dal yn gofrestrydd Llys Profiant Bangor. Erbyn 1881, roedd yn byw bywyd dyn sengl, gan aros mewn llety ym Marylebone, Llundain.<ref>Cyfrifiad St Marylebone, Llundain, 1881,1891</ref> Erbyn 1901 roedd yn lletya yn Green Bank, Bangor.<ref>Cyfrifiad Bangor 1901</ref> Fe'i claddwyd ym mynwent Llandegfan, nid nepell o gartref ei deulu.<ref>Archifdy Ynys Môn, Cofrestr plwyf Llandegfan, 1903</ref> | ||
Bu'n ynad heddwch mewn tair sir, ac yn ddirpry arglwydd raglaw yn Sir Feirionnydd.<ref>Cyfarwyddiadur Kelly, 1901</ref> | Bu'n ynad heddwch mewn tair sir, ac yn ddirpry arglwydd raglaw yn Sir Feirionnydd.<ref>Cyfarwyddiadur Kelly, 1901</ref> |
Fersiwn yn ôl 17:55, 9 Ionawr 2022
Roedd Hugh Beaver Roberts (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor; er iddo gael ei eni yng Nghilcain, Sir y Fflint,cartref ei dad, Hugh Roberts, oedd Glan-y-Fenai, Llandegfan.[1] Priododd Harriet Wyatt (ganed 1822), merch James Wyatt, Plas Gwynant, Llandygái ym 1848. Yn ddyn teulu, bu'n byw yn Wellfield House, Bangor gyda'i wraig, tri mab a merch, bedair morwyn ac athrawes breifat ar gyfer y plant.[2] Erbyn 1871, roedd wedi symud gyda'i wraig a'i ferch i Milverton, Swydd Warwig, er ei fod yn dal yn gofrestrydd Llys Profiant Bangor. Erbyn 1881, roedd yn byw bywyd dyn sengl, gan aros mewn llety ym Marylebone, Llundain.[3] Erbyn 1901 roedd yn lletya yn Green Bank, Bangor.[4] Fe'i claddwyd ym mynwent Llandegfan, nid nepell o gartref ei deulu.[5]
Bu'n ynad heddwch mewn tair sir, ac yn ddirpry arglwydd raglaw yn Sir Feirionnydd.[6]
Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref, ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'i chwarel ei hun a chwareli eraill y dyffryn.[7]
Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, a chymerodd ddiddordeb yn Chwarel Braich ar lethrau Moel Tryfan ym 1868, gan ei rhedeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd Bryngwyn, yn help iddo weld potensial am gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir Uwchgwyrfai.