Hugh Beaver Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Hugh Beaver Roberts''' (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor, er iddo hanu o Sir y Fflint. Bu'n byw am gyfnod helaeth ym Mhlas Llanddoged ger Llanrwst. Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref, ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o' | Roedd '''Hugh Beaver Roberts''' (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor, er iddo hanu o Sir y Fflint. Bu'n byw am gyfnod helaeth ym Mhlas Llanddoged ger Llanrwst. Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref, ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'i chwarel ei hun a chwareli eraill y dyffryn.<ref>Gwefan Heneb, [http://www.heneb.co.uk/hlc/ffestiniog/ffest11.html], cyrchwyd 7.1.2022</ref> | ||
Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, | Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, a chymerodd ddiddordeb yn [[Chwarel Braich]] ar lethrau [[Moel Tryfan]] ym 1868, gan ei rhedeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]], oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|Bryngwyn]], yn help iddo weld potensial am gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir [[Uwchgwyrfai]]. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 15:08, 9 Ionawr 2022
Roedd Hugh Beaver Roberts (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor, er iddo hanu o Sir y Fflint. Bu'n byw am gyfnod helaeth ym Mhlas Llanddoged ger Llanrwst. Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref, ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'i chwarel ei hun a chwareli eraill y dyffryn.[1]
Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, a chymerodd ddiddordeb yn Chwarel Braich ar lethrau Moel Tryfan ym 1868, gan ei rhedeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd Bryngwyn, yn help iddo weld potensial am gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir Uwchgwyrfai.