Hugh Beaver Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Hugh Beaver Roberts''' (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor, er iddo hanu o Sir y Fflint. Bu'n byw am gyfnod helaeth ym Mhlas Llanddoged g...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Cyfalafwyr]]
[[Categori:Diwydianwyr a Chyfalafwyr]]
[[Categori:Chwraeli llechi]]
[[Categori:Chwareli llechi]]

Fersiwn yn ôl 13:03, 9 Ionawr 2022

Roedd Hugh Beaver Roberts (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor, er iddo hanu o Sir y Fflint. Bu'n byw am gyfnod helaeth ym Mhlas Llanddoged ger Llanrwst. Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref, ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'im chwarel o a chwareli eraill y dyffryn.[1]

Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, ac mi gymerodd ddiddordeb yn Chwarel Braich ar lethrau Moel Tryfan ym 1868, gan ei redeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd Bryngwyn yn help iddo weld potensial am gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir Uwchgwyrfai.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Heneb, [1], cyrchwyd 7.1.2022