Llethr Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Griffith oedd mab William a Nest, a briododd hwnnw Catherine ferch Rhys Wynn o'r [[Graeanog]]. Ei fab o, Robert ap Griffith briododd Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o [[Elernion]], a'u mab hwythau wden yn priodi Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis [[Cwmgware]], Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf [[Clynnog Fawr]]. | Griffith oedd mab William a Nest, a briododd hwnnw Catherine ferch Rhys Wynn o'r [[Graeanog]]. Ei fab o, Robert ap Griffith briododd Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o [[Elernion]], a'u mab hwythau wden yn priodi Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis [[Cwmgware]], Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf [[Clynnog Fawr]]. | ||
Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd staws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i benodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Roedd dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf yn Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. Yr oedd Teulu Evans wedi codi o ran eu statws cymdeithasol unwaith eto, mae'n ymddangos. Parheid â'r cysylltiad ag [[Uwchgwyrfai]] trwy i Charles Evans briodi Elisabeth, merch | Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd staws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i benodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Roedd dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf yn Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. Yr oedd Teulu Evans wedi codi o ran eu statws cymdeithasol unwaith eto, mae'n ymddangos. Parheid â'r cysylltiad ag [[Uwchgwyrfai]] trwy i Charles Evans briodi Elisabeth, merch Huw Lewis o [[Plas-y-bont|Blas-y-bont]], [[Y Bontnewydd]] ym 1761. |
Fersiwn yn ôl 08:56, 18 Hydref 2021
Mae Llethr Ddu yn fferm ar lethrau gogleddol Cwm Coryn ym mhlwyf Llanaelhaearn. Bu'n gartref i deulu o fân fodheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r linach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.
Yr aelodau cyntaf o'r teulu sydd ar glawr yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a mab yntau, Howel ap Dicws a briododd Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William yn priodi Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth.Yn ddiau, daeth y priodasau hyn lewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:
Da i Wynedd oedd eni Y tair Nest i'n tir ni.
Griffith oedd mab William a Nest, a briododd hwnnw Catherine ferch Rhys Wynn o'r Graeanog. Ei fab o, Robert ap Griffith briododd Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o Elernion, a'u mab hwythau wden yn priodi Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis Cwmgware, Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf Clynnog Fawr.
Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd staws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i benodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Roedd dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf yn Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. Yr oedd Teulu Evans wedi codi o ran eu statws cymdeithasol unwaith eto, mae'n ymddangos. Parheid â'r cysylltiad ag Uwchgwyrfai trwy i Charles Evans briodi Elisabeth, merch Huw Lewis o Blas-y-bont, Y Bontnewydd ym 1761.