Llwyn-y-gwalch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif '''Llwyn-y-gwalch''' ym mhlwyf [[Llandwrog]], ger [[Afon Llifon]]. Dyma | Saif '''Llwyn-y-gwalch''' ym mhlwyf [[Llandwrog]], ger [[Afon Llifon]]. Dyma un o gartrefi mân foneddigion [[Uwchgwyrfai]] oedd yn ddisgynyddion o'r un cyff â [[Teulu Glynllifon|theulu Glynllifon]], sef hil [[Cilmin Droed-ddu]]. Yn ôl yr hen achau, disgynnodd y teulu trwy Madog ab Ednowain, brawd sylfaenydd llinach Glynllifon, sef [[Ystrwyth ab Ednowain]]. Mab Madog oedd Morgan ap Madog, ac fe'i dilynwyd gan Gruffydd, Heilyn, Iorwerth Goch, Einion, Ednyfed a Hywel Ddu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mab Hywel Ddu oedd Llywelyn ap Hywel Ddu, a gadawodd hwnnw ei eiddo i'w unig blentyn, Nest ferch Llywelyn. Priododd honno Ifan ap Llywelyn o Drefeilir, Ynys Môn, a chawsant nifer o blant. Gadawyd y brif ystad i'w mab hynaf, Rhys ab Ifan o Drefeilir; eiddo arall, Prysiorwerth Ucha, i'r ail fab, Maurice; a gadawyd Prysiorweth Isaf i Syr William, oedd yn offeiriad. Cafodd fab arall, Siencyn, eiddo o'r enw Carregonnen; a mab arall, Robert, Henblas. Y mab ieuengaf ond un, John, etifeddodd Bodwrdin. Roedd yr eiddo yma i gyd yn Sir Fôn, ac arwyddocaol efallai oedd y ffaith mai'r mab ieuengaf, Gruffydd, etifeddodd yr eiddo oedd gynt yn eiddo i'w fam, sef Llwyn-y-gwalch - ac efallai y gellid casglu o hyn nad oedd yr eiddo mor fawr a phwysig â holl diroedd eraill Ystad Trefeilir. Methodd Gruffydd â sefydlu llinach newydd yn Llwyn-y-gwalch oherwydd iddo farw'n ddi-blant. Dichon i Gruffydd farw yn ail hanner y 16g.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.1, 229</ref> | ||
Ers tair canrif a mwy,mae '''Llwyn-y-gwalch''' wedi bod yn ffermdy.Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o [[Chwarel Cilgwyn|Fynydd Cilgwyn]] i lawr at y cychod yn [[Y Foryd]]; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y [[Dolydd]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef [[Melin Llwyn-y-gwalch]].<ref>W. Gilbert Williams, ''Yr Herald Cymraeg'', 1938.</ref> | Ers tair canrif a mwy, felly, mae '''Llwyn-y-gwalch''' wedi bod yn ffermdy. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o [[Chwarel Cilgwyn|Fynydd Cilgwyn]] i lawr at y cychod yn [[Y Foryd]]; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y [[Dolydd]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef [[Melin Llwyn-y-gwalch]].<ref>W. Gilbert Williams, ''Yr Herald Cymraeg'', 1938.</ref> | ||
Mae sôn am Rowland Morgan, gwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39</ref> Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.<ref>LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.</ref> | Mae sôn am Rowland Morgan, gwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39</ref> Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.<ref>LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.</ref> |
Fersiwn yn ôl 14:53, 9 Gorffennaf 2021
Saif Llwyn-y-gwalch ym mhlwyf Llandwrog, ger Afon Llifon. Dyma un o gartrefi mân foneddigion Uwchgwyrfai oedd yn ddisgynyddion o'r un cyff â theulu Glynllifon, sef hil Cilmin Droed-ddu. Yn ôl yr hen achau, disgynnodd y teulu trwy Madog ab Ednowain, brawd sylfaenydd llinach Glynllifon, sef Ystrwyth ab Ednowain. Mab Madog oedd Morgan ap Madog, ac fe'i dilynwyd gan Gruffydd, Heilyn, Iorwerth Goch, Einion, Ednyfed a Hywel Ddu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mab Hywel Ddu oedd Llywelyn ap Hywel Ddu, a gadawodd hwnnw ei eiddo i'w unig blentyn, Nest ferch Llywelyn. Priododd honno Ifan ap Llywelyn o Drefeilir, Ynys Môn, a chawsant nifer o blant. Gadawyd y brif ystad i'w mab hynaf, Rhys ab Ifan o Drefeilir; eiddo arall, Prysiorwerth Ucha, i'r ail fab, Maurice; a gadawyd Prysiorweth Isaf i Syr William, oedd yn offeiriad. Cafodd fab arall, Siencyn, eiddo o'r enw Carregonnen; a mab arall, Robert, Henblas. Y mab ieuengaf ond un, John, etifeddodd Bodwrdin. Roedd yr eiddo yma i gyd yn Sir Fôn, ac arwyddocaol efallai oedd y ffaith mai'r mab ieuengaf, Gruffydd, etifeddodd yr eiddo oedd gynt yn eiddo i'w fam, sef Llwyn-y-gwalch - ac efallai y gellid casglu o hyn nad oedd yr eiddo mor fawr a phwysig â holl diroedd eraill Ystad Trefeilir. Methodd Gruffydd â sefydlu llinach newydd yn Llwyn-y-gwalch oherwydd iddo farw'n ddi-blant. Dichon i Gruffydd farw yn ail hanner y 16g.[1]
Ers tair canrif a mwy, felly, mae Llwyn-y-gwalch wedi bod yn ffermdy. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o Fynydd Cilgwyn i lawr at y cychod yn Y Foryd; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y Dolydd a'r Groeslon. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef Melin Llwyn-y-gwalch.[2]
Mae sôn am Rowland Morgan, gwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.[3] Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.[4]
Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar felin yn Llwyn-y-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.
Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon a anwyd ym Modgarad, ond a symudodd gyda'i deulu i Dyddyn Tudur ger Plas Glynllifon maes o law.[5]
Chwedl am yr enw
Dywedir stori yn yr ardal i esbonio'r enw, sef bod tirfeddiannwr lleol a arferai fyw yn Grugan Wen farw ac am adael tir i'w chwe mab, gan ddyfarnu yn ei ewyllys fod ei fab Iago i gael cae, Dafydd i gael tyddyn, Siencyn i gael talar, Morgan i gael melin, ac Ifan i gael hafod gyda'r a'r gwalch (sef hogyn drygiog, ei fab arall, nad oedd yn ei gymeradwyo) i dderbyn llwyn. Mae tyddyn Cae Iago, fferm a thir Melin Forgan, fferm Hafod Ifan, fferm Tyddyn Dafydd a thir (a fu unwaith yn dyddyn ar wahân) Talar Siencyn i gyd yn ffinio ar dir Llwyn-y-gwalch heddiw. Mae Grugan Wen hefyd nid nepell o'r chwe daliad tir hyn.[6]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.1, 229
- ↑ W. Gilbert Williams, Yr Herald Cymraeg, 1938.
- ↑ Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39
- ↑ LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.
- ↑ Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwts, 2008), t.8
- ↑ Hanes y Groeslon, (2000), t.15.