Owen Griffith Owen (Alafon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Owen Griffith Owen''' (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw ''Alafon'', yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y [[Pant-glas]], | Roedd '''Owen Griffith Owen''' (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw ''Alafon'', yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y [[Pant-glas]], lle roedd ei dad yn cadw tafarn ond, pan oedd yn 12 oed, symudodd i fyw gyda modryb iddo ym mhentref [[Carmel]]. Dechreuodd weithio yn [[Chwarel Dorothea|Chwarel lechi Dorothea]], ac wedyn aeth yn glerc i [[Chwarel y Braich]] gerllaw. Bu'n flaenor yng [[Capel Carmel (MC)|Nghapel Carmel]] o 1874 ymlaen a dechreuodd bregethu ym 1876.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaieth Arfon'', Cyf.1, (Caernarfon, 1910), t.249.</ref> | ||
Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], cyn symud i Goleg | Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], cyn symud i Goleg Y Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chafodd radd oddi yno. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen, lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i [[Robert Williams Parry]].<ref>Ceir teyrngedau sylweddol iddo yn ''Y Cymro'' (Lerpwl) ar gyfer 16 Chwefror 1916, [http://cymru1914.org/en/view/newspaper/3446590/8]</ref> | ||
Ymroddodd i farddoni, gan ddod yn ail i T.Gwynn Jones am awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ar y testun ''Ymadawiad Arthur'', ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn ar y cyd â phryddest anffuddugol W.J. | Ymroddodd i farddoni, gan ddod yn ail i T.Gwynn Jones am awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ar y testun ''Ymadawiad Arthur'', ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn, ar y cyd â phryddest anffuddugol W.J. Gruffudd. Ymysg ei lwyddiannau barddonol eraill oedd y cywydd ''Mynachlog Ystrad Fflur'', a enillodd y gystadleuaeth am gywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909.<ref>Catalog Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, [https://archives.library.wales/index.php/cywydd-mynachlog-ystrad-fflur-gan-ap-cynfyn-o-g-owen-alafon-ynghyd-beirniadaeth-j-morris-jones-rhif-3-yn-y]</ref> | ||
Bu'n olygydd ''Y Drysorfa'', 1913-16. Cyhoeddodd | Bu'n olygydd ''Y Drysorfa'', 1913-16. Cyhoeddodd ddwy gyfrol, ''Cathlau Bore a Nawn'', barddoniaeth (1912); a ''Ceinion y Gynghanedd'', ysgrifau, (1915). | ||
Bu farw 8 Chwefror 1916, wedi | Bu farw 8 Chwefror 1916, wedi'i daro'n ddrwg gan y crydcymalau. Fe'i claddwyd ym [[Mynwent Bryn'rodyn]], ac mae cofeb sylweddol iddo i'w gweld yno ger y giât.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.676.</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 09:10, 23 Mehefin 2021
Roedd Owen Griffith Owen (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw Alafon, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y Pant-glas, lle roedd ei dad yn cadw tafarn ond, pan oedd yn 12 oed, symudodd i fyw gyda modryb iddo ym mhentref Carmel. Dechreuodd weithio yn Chwarel lechi Dorothea, ac wedyn aeth yn glerc i Chwarel y Braich gerllaw. Bu'n flaenor yng Nghapel Carmel o 1874 ymlaen a dechreuodd bregethu ym 1876.[1]
Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, cyn symud i Goleg Y Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chafodd radd oddi yno. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen, lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i Robert Williams Parry.[2]
Ymroddodd i farddoni, gan ddod yn ail i T.Gwynn Jones am awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ar y testun Ymadawiad Arthur, ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn, ar y cyd â phryddest anffuddugol W.J. Gruffudd. Ymysg ei lwyddiannau barddonol eraill oedd y cywydd Mynachlog Ystrad Fflur, a enillodd y gystadleuaeth am gywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909.[3]
Bu'n olygydd Y Drysorfa, 1913-16. Cyhoeddodd ddwy gyfrol, Cathlau Bore a Nawn, barddoniaeth (1912); a Ceinion y Gynghanedd, ysgrifau, (1915).
Bu farw 8 Chwefror 1916, wedi'i daro'n ddrwg gan y crydcymalau. Fe'i claddwyd ym Mynwent Bryn'rodyn, ac mae cofeb sylweddol iddo i'w gweld yno ger y giât.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma