Ysgol Ynys-yr-arch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a  berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd '''Ysgol Ynys-yr-arch''', a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol [[Pant-glas]], er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]].

Mae llythyr ymysg papurau [[Arglwydd Newborough]] yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26163.</ref> Fe'i codwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch. Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a [[Bwlchderwin]] yn gallu cyrraedd [[Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr]], sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim.
Mae llythyr ymysg papurau [[Arglwydd Newborough]] yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26163.</ref> Fe'i codwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch. Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd o wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a [[Bwlchderwin]] yn gallu cyrraedd [[Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr]], sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm [[Ynys-yr-arch]] ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim. Yr adeiladydd oedd saer maen o ardal [[Capel Uchaf]]. William Williams.

Roedd gan y ficer broblem efo'r coed oedd eu hangen ar gyfer yr ysgol gan fod angen eu llifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26170.</ref> - oedd cael llifio'r coed ym melin lifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ac, yn ogystal, yn cyfrif tuag at y grant oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyfrin Gyngor (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.

Rhaid holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at gostau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.

Yr athro cyntaf yn yr ysgol oedd un Mr Williams o ardal Nefyn, ac fe'i ddilynwyd gan John Powell o ardal [[Y Bontnewydd]]. Aeth John Powell yno'n syth o'r coleg, ac yn athro neilltuol o gydwybodol, gydag ysgrifen gain a phwyslais ar foesau a chrefydd yn ogystal â phynciau arferol yn rhan o'r hyn a ddysgai i'r plant. Fo oedd yr unig athro; yr oedd rhwng 80 a 100 o blant yn mynychu'r ysgol, ac arferai roi dyletswydd ar un o'r disgyblion hynaf i ddysgu'r rhai lleiaf. Ceiniog yr wythnos oedd y tâl, ac ychwanegwyd at incwm yr ysgol trwy godi treth o geiniog yn y bunt ar drigolion y gymdogaeth.
Bu John Powell yn athro am amser hir, ond wedi iddo farw, cymerwyd yr ysgol drosodd gan y Cyngor Sir ym 1908, pan helaethwyd yr adeilad, trwy ychwanegu dau ystafell ymolchi a thoiledau, a rhannu'r ystafell ddosbarth fawr yn dair trwy godi paredau symudol o bren a gwydr. Y tu allan ychwanegwyd dwy sied lle gallai'r plant chwarae pan fyddai hi'n dywydd drwg.<ref>O. Roger Owen, ''O Ben Moel Tryfan'' (Pen-y-groes, 1981), tt.17-21</ref>
Mae'r diweddar O. Roger Owen wedi gadael darlun wych o fywyd yr ysgol yn negawd cyntaf y 20g. - fe adawodd yr ysgol am [[Ysgol Ganolradd Pen-y-groes]] ym 1912:

Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal.
Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal.

Fersiwn yn ôl 09:27, 17 Mai 2021

Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd Ysgol Ynys-yr-arch, a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol Pant-glas, er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr.

Mae llythyr ymysg papurau Arglwydd Newborough yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.[1] Fe'i codwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch. Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd o wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a Bwlchderwin yn gallu cyrraedd Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr, sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim. Yr adeiladydd oedd saer maen o ardal Capel Uchaf. William Williams.

Roedd gan y ficer broblem efo'r coed oedd eu hangen ar gyfer yr ysgol gan fod angen eu llifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo[2] - oedd cael llifio'r coed ym melin lifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ac, yn ogystal, yn cyfrif tuag at y grant oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyfrin Gyngor (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.

Rhaid holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at gostau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.

Yr athro cyntaf yn yr ysgol oedd un Mr Williams o ardal Nefyn, ac fe'i ddilynwyd gan John Powell o ardal Y Bontnewydd. Aeth John Powell yno'n syth o'r coleg, ac yn athro neilltuol o gydwybodol, gydag ysgrifen gain a phwyslais ar foesau a chrefydd yn ogystal â phynciau arferol yn rhan o'r hyn a ddysgai i'r plant. Fo oedd yr unig athro; yr oedd rhwng 80 a 100 o blant yn mynychu'r ysgol, ac arferai roi dyletswydd ar un o'r disgyblion hynaf i ddysgu'r rhai lleiaf. Ceiniog yr wythnos oedd y tâl, ac ychwanegwyd at incwm yr ysgol trwy godi treth o geiniog yn y bunt ar drigolion y gymdogaeth.

Bu John Powell yn athro am amser hir, ond wedi iddo farw, cymerwyd yr ysgol drosodd gan y Cyngor Sir ym 1908, pan helaethwyd yr adeilad, trwy ychwanegu dau ystafell ymolchi a thoiledau, a rhannu'r ystafell ddosbarth fawr yn dair trwy godi paredau symudol o bren a gwydr. Y tu allan ychwanegwyd dwy sied lle gallai'r plant chwarae pan fyddai hi'n dywydd drwg.[3]

Mae'r diweddar O. Roger Owen wedi gadael darlun wych o fywyd yr ysgol yn negawd cyntaf y 20g. - fe adawodd yr ysgol am Ysgol Ganolradd Pen-y-groes ym 1912:

Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/26163.
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/26170.
  3. O. Roger Owen, O Ben Moel Tryfan (Pen-y-groes, 1981), tt.17-21