William Hughes, Bryn Beddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''William Hughes''', Brynbeddau, (1767-1846) yn un o brif ddylanwadau yn nhwf enwad yr Annibynwyr yn Sir Gaernarfon. Ffermwr oedd William Hugh...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben [[Dyffryn Gwyrfai]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac erbyn iddo fod yn 21 fe ddechreuodd bregethu. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith yr oedd wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, canolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ol pum mlynedd trôdd ei sylw at Eifionydd ac Uwchgwyrfai lle'r oedd yn gyfangwbl, neu'n rannol gyfrifol am sefydlu achosion [[Capel Saron (A)|Saron]], [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn|Tal-y-sarn]], Rhoslan, Pentrefelin a [[Capel Babell (A), LLanaelhaearn| Llanaelhaearn]]. | Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben [[Dyffryn Gwyrfai]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac erbyn iddo fod yn 21 fe ddechreuodd bregethu. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith yr oedd wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, canolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ol pum mlynedd trôdd ei sylw at Eifionydd ac Uwchgwyrfai lle'r oedd yn gyfangwbl, neu'n rannol gyfrifol am sefydlu achosion [[Capel Saron (A)|Saron]], [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn|Tal-y-sarn]], Rhoslan, Pentrefelin a [[Capel Babell (A), LLanaelhaearn| Llanaelhaearn]]. | ||
'''I'w barhau'''' |
Fersiwn yn ôl 11:25, 6 Ebrill 2021
Roedd William Hughes, Brynbeddau, (1767-1846) yn un o brif ddylanwadau yn nhwf enwad yr Annibynwyr yn Sir Gaernarfon.
Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben Dyffryn Gwyrfai ym mhlwyf Llanwnda. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac erbyn iddo fod yn 21 fe ddechreuodd bregethu. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith yr oedd wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, canolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ol pum mlynedd trôdd ei sylw at Eifionydd ac Uwchgwyrfai lle'r oedd yn gyfangwbl, neu'n rannol gyfrifol am sefydlu achosion Saron, Tal-y-sarn, Rhoslan, Pentrefelin a Llanaelhaearn.
I'w barhau'