Henry Kennedy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Henry Kennedy''' (1814-1896) oedd y pensaer mwyaf cynhyrchiol a weithiai ar eglwysi esgobaeth Bangor yng nghanol y 19g., gan atgyweirio, ymestyn neu ail-adeiladu tua 80 ohonynt dros gyfnod o hanner can mlynedd. Cafodd ei eni yn Llundain, ond yn ystod y 1840au cynnar fe symudodd i Fangor, gan sefydlu cwmni o benseiri yno, gyda'i swyddfa am amser maith ar y Stryd Fawr.<ref>Erthygl Wicipedia am Kennedy, [https://en.wikipedia.org/wiki/Henry_Kennedy_(architect)], cyrchwyd 23.3.2021</ref> Er bod ganddo | '''Henry Kennedy''' (1814-1896) oedd y pensaer mwyaf cynhyrchiol a weithiai ar eglwysi esgobaeth Bangor yng nghanol y 19g., gan atgyweirio, ymestyn neu ail-adeiladu tua 80 ohonynt dros gyfnod o hanner can mlynedd. Cafodd ei eni yn Llundain, ond yn ystod y 1840au cynnar fe symudodd i Fangor, gan sefydlu cwmni o benseiri yno, gyda'i swyddfa am amser maith ar y Stryd Fawr.<ref>Erthygl Wicipedia am Kennedy, [https://en.wikipedia.org/wiki/Henry_Kennedy_(architect)], cyrchwyd 23.3.2021</ref> Er bod ganddo ddau bartner ar adegau gwahanol, fo ei hun a ymgymerai â mwyaf helaeth o waith yr esgobaeth, yn cynnwys gosod to ar ran o'r Eglwys Gadeiriol - gwaith a feirniadwyd yn hallt gan y pensaer eglwysig enwog, Sir Gilbert Scott, oherwydd iddo ddinistrio nenfwd hanesyddol. | ||
Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], ei brif waith oedd codi [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog|eglwys newydd]] ar gyfer pentref [[Llandwrog]] yn unol â dymuniadau [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]], tua 1859-61.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14261</ref> Cyn hynny, ym 1853, roedd Newborough wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer eglwys ym [[Parc Glynllifon|Mharc Glynllifon]] fel capel preifat gyda ffenestri mawr a chladdgelloedd tanddaearol i'r teulu am gost o £7000,<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14255-6</ref> ond ni wireddwyd y cynlluniau hynny.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/754-761</ref> Yr oedd Kennedy hefyd yn gyfrifol ym 1853 am gynllunio adeiladau [[Ysgol Llandwrog]], yr ysgol eglwys lleol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/872</ref> Roedd Kennedy'n fwy na phensaer brics a mortar yn unig - mae dogfennau ar gael sydd yn dangos mai ef, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am ddylunio desgiau'r plant yn yr ysgol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/871</ref> | Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], ei brif waith oedd codi [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog|eglwys newydd]] ar gyfer pentref [[Llandwrog]] yn unol â dymuniadau [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]], tua 1859-61.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14261</ref> Cyn hynny, ym 1853, roedd Newborough wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer eglwys ym [[Parc Glynllifon|Mharc Glynllifon]] fel capel preifat gyda ffenestri mawr a chladdgelloedd tanddaearol i'r teulu am gost o £7000,<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14255-6</ref> ond ni wireddwyd y cynlluniau hynny.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/754-761</ref> Yr oedd Kennedy hefyd yn gyfrifol ym 1853 am gynllunio adeiladau [[Ysgol Llandwrog]], yr ysgol eglwys lleol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/872</ref> Roedd Kennedy'n fwy na phensaer brics a mortar yn unig - mae dogfennau ar gael sydd yn dangos mai ef, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am ddylunio desgiau'r plant yn yr ysgol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/871</ref> | ||
Defnyddiodd Newborough fel y pensaer ar gyfer ail-adeiladu Abaty Maenan, ei eiddo yn Nyffryn Conwy;<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/22297 ''et seq.''</ref> | Defnyddiodd Newborough ef fel y pensaer ar gyfer ail-adeiladu Abaty Maenan, ei eiddo yn Nyffryn Conwy;<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/22297 ''et seq.''</ref> a gnweud gwaith yn Eglwys Boduan ar ei ystâd ym Mhen Llŷn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/115</ref> Yr oedd ei fab, [[Frederick George Wynn]], yn gleient iddo hefyd - roedd Kennedy'n gyfrifol am ailadeiladu rhan o wal ddwyreiniol [[Plas Glynllifon]] a'r tŷ gwydr sydd ynghlwm ag ef, mor ddiweddar â 1889.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/1579</ref> | ||
Ym 1853 gwnaeth Kennedy gais am y swydd o Arolygydd y SIr dan y Sesiwn Chwarter, ond hyd y gwyddys ni fu'n llwyddiannus.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/24256</ref> | Ym 1853 gwnaeth Kennedy gais am y swydd o Arolygydd y SIr dan y Sesiwn Chwarter, ond hyd y gwyddys ni fu'n llwyddiannus.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/24256</ref> |
Fersiwn yn ôl 10:05, 23 Mawrth 2021
Henry Kennedy (1814-1896) oedd y pensaer mwyaf cynhyrchiol a weithiai ar eglwysi esgobaeth Bangor yng nghanol y 19g., gan atgyweirio, ymestyn neu ail-adeiladu tua 80 ohonynt dros gyfnod o hanner can mlynedd. Cafodd ei eni yn Llundain, ond yn ystod y 1840au cynnar fe symudodd i Fangor, gan sefydlu cwmni o benseiri yno, gyda'i swyddfa am amser maith ar y Stryd Fawr.[1] Er bod ganddo ddau bartner ar adegau gwahanol, fo ei hun a ymgymerai â mwyaf helaeth o waith yr esgobaeth, yn cynnwys gosod to ar ran o'r Eglwys Gadeiriol - gwaith a feirniadwyd yn hallt gan y pensaer eglwysig enwog, Sir Gilbert Scott, oherwydd iddo ddinistrio nenfwd hanesyddol.
Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, ei brif waith oedd codi eglwys newydd ar gyfer pentref Llandwrog yn unol â dymuniadau Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, tua 1859-61.[2] Cyn hynny, ym 1853, roedd Newborough wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer eglwys ym Mharc Glynllifon fel capel preifat gyda ffenestri mawr a chladdgelloedd tanddaearol i'r teulu am gost o £7000,[3] ond ni wireddwyd y cynlluniau hynny.[4] Yr oedd Kennedy hefyd yn gyfrifol ym 1853 am gynllunio adeiladau Ysgol Llandwrog, yr ysgol eglwys lleol.[5] Roedd Kennedy'n fwy na phensaer brics a mortar yn unig - mae dogfennau ar gael sydd yn dangos mai ef, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am ddylunio desgiau'r plant yn yr ysgol.[6]
Defnyddiodd Newborough ef fel y pensaer ar gyfer ail-adeiladu Abaty Maenan, ei eiddo yn Nyffryn Conwy;[7] a gnweud gwaith yn Eglwys Boduan ar ei ystâd ym Mhen Llŷn.[8] Yr oedd ei fab, Frederick George Wynn, yn gleient iddo hefyd - roedd Kennedy'n gyfrifol am ailadeiladu rhan o wal ddwyreiniol Plas Glynllifon a'r tŷ gwydr sydd ynghlwm ag ef, mor ddiweddar â 1889.[9]
Ym 1853 gwnaeth Kennedy gais am y swydd o Arolygydd y SIr dan y Sesiwn Chwarter, ond hyd y gwyddys ni fu'n llwyddiannus.[10]
Bu farw ym 1896 (er i rai ffynonellau ddweud 1898). Y farn cyffredinol am ei waith oedd ei fod yn ddigon grefftus a boddhaol er nad oedd yn ddisglair fel arfer. Ceir mwy o fanylion am ei waith y tu hwnt i Uwchgwyrfai ar safleoedd Wicipedia, ac yn y Dictionary of Scottish Architects. Nid yw'n amlwg pam ei fod yn ymddangos yn y fan honno, ond dichon felly fod ganddo wreiddiau teuluol yn Yr Alban.[11]
Cyfeiriadau
- ↑ Erthygl Wicipedia am Kennedy, [1], cyrchwyd 23.3.2021
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/14261
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/14255-6
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2A/754-761
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2A/872
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2A/871
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/22297 et seq.
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2A/115
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2A/1579
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/24256
- ↑ Dictionary of Scottish Architects, [2], cyrchwyd 23.3.2021