Y Gurn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Pentref bach yw y '''Gurn Goch''' ar droed y mynydd o’r un enw, ar y ffordd A499 rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn (Caernarfon/Pwlheli). Afon...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Agorwyd [[Capel Seion (MC)]] ar gwr y pentref yn 1826. Fe’i hailadeiladwyd yn 1875 ond fe’i caewyd yn y flwyddyn 2000. Cyn ei agor arferid addoli yng nghartref Griffith Williams, Hen Derfyn, fferm ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn.
Agorwyd [[Capel Seion (MC)]] ar gwr y pentref yn 1826. Fe’i hailadeiladwyd yn 1875 ond fe’i caewyd yn y flwyddyn 2000. Cyn ei agor arferid addoli yng nghartref Griffith Williams, Hen Derfyn, fferm ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn.


Yn ei llyfr ''Sul, Gŵyl a Gwaith''* ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld [[Pistyll Dafn]] ar Afon Ddalfa, yr ochr uchaf i fferm [[Cwmgwara]]. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. “Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.”*
Yn ei llyfr ''Sul, Gŵyl a Gwaith'' ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld [[Pistyll Dafn]] ar Afon Ddalfa, yr ochr uchaf i fferm [[Cwmgwara]]. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. “Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.”


'''Ffynhonellau:'''
* Catrin Parri Huws, ''Sul, Gŵyl a Gwaith'' (Gwasg Gwynedd, 1981).
* Catrin Parri Huws, ''Sul, Gŵyl a Gwaith'' (Gwasg Gwynedd, 1981).

Fersiwn yn ôl 11:38, 13 Rhagfyr 2017

Pentref bach yw y Gurn Goch ar droed y mynydd o’r un enw, ar y ffordd A499 rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn (Caernarfon/Pwlheli).

Afon Hen yw’r afon sy’n llifo dan y bont i’r môr yn Aberafon.

Roedd yma felin flawd, tafarn (Sportsman)(hyd at tua diwedd y 19g.) a siop hyd at tua hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Agorwyd Capel Seion (MC) ar gwr y pentref yn 1826. Fe’i hailadeiladwyd yn 1875 ond fe’i caewyd yn y flwyddyn 2000. Cyn ei agor arferid addoli yng nghartref Griffith Williams, Hen Derfyn, fferm ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn.

Yn ei llyfr Sul, Gŵyl a Gwaith ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn ar Afon Ddalfa, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. “Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.”

Ffynhonellau:

  • Catrin Parri Huws, Sul, Gŵyl a Gwaith (Gwasg Gwynedd, 1981).