Y Garn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Y Garn.jpg|bawd|de|400px|Y Garn o Lyn y Gader]]
[[Delwedd:Y Garn.jpg|bawd|de|400px|Y Garn o Lyn y Gader]]


'''Y Garn''' yw copa fwyaf dwyreiniol [[Crib Nantlle]] ac mae ffin [[Uwchgwyrfai]] yn rhedeg drosti. 2080 troedfedd neu 633 metr yw ei huchder. O'r gopa gellir weld [[Dyffryn Nantlle]] ar ei hyd i'r gorllewin; ac i'r dwyrain, gwelir pentref [[Rhyd-ddu]], llethrau'r Wyddfa a [[Llyn y Gader]] islaw.  
'''Y Garn''' yw copa fwyaf dwyreiniol [[Crib Nantlle]] ac mae ffin [[Uwchgwyrfai]] yn rhedeg drosti. 2080 troedfedd neu 633 metr yw ei huchder. O'r gopa gellir weld [[Dyffryn Nantlle]] ar ei hyd i'r gorllewin; ac i'r dwyrain, gwelir pentref [[Rhyd-ddu]], llethrau'r Wyddfa a [[Llyn y Gader]] islaw. Mae mynyddwyr yn ei gynnwys yn rhestr mynyddoedd Nuttall.
 
Mae dwy garnedd, neu bentyrrau o gerrig, ger y gopa. Mae un 42 troedfedd ar draws ac 8 troedfedd o uchder; ac un arall ryw ddeng llath ar hugain i'r de-orllewin, sydd yn ddwy droedfedd yn llai o ran lled, a dim ond 6 troedfedd o uchder. Dichon bod y ddwy wedi cael eu chwalu rywbryd yn y gorffennol. Mae llawer iawn o gerrig rhydd ar draws y tir gwastad ger y gopa, a gall y rheiny fod yn olion carneddau eraill.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.212</ref>
 
Ni ddylid cymysgu'r mynydd hwn gyda'r Garn, mynydd sy'n rhan o'r Glyderau.  


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 14:33, 15 Chwefror 2021

Y Garn o Lyn y Gader

Y Garn yw copa fwyaf dwyreiniol Crib Nantlle ac mae ffin Uwchgwyrfai yn rhedeg drosti. 2080 troedfedd neu 633 metr yw ei huchder. O'r gopa gellir weld Dyffryn Nantlle ar ei hyd i'r gorllewin; ac i'r dwyrain, gwelir pentref Rhyd-ddu, llethrau'r Wyddfa a Llyn y Gader islaw. Mae mynyddwyr yn ei gynnwys yn rhestr mynyddoedd Nuttall.

Mae dwy garnedd, neu bentyrrau o gerrig, ger y gopa. Mae un 42 troedfedd ar draws ac 8 troedfedd o uchder; ac un arall ryw ddeng llath ar hugain i'r de-orllewin, sydd yn ddwy droedfedd yn llai o ran lled, a dim ond 6 troedfedd o uchder. Dichon bod y ddwy wedi cael eu chwalu rywbryd yn y gorffennol. Mae llawer iawn o gerrig rhydd ar draws y tir gwastad ger y gopa, a gall y rheiny fod yn olion carneddau eraill.[1]

Ni ddylid cymysgu'r mynydd hwn gyda'r Garn, mynydd sy'n rhan o'r Glyderau.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.212