Gadlys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
* Williams, W. Gilbert ''Hen Gymeriadau Llanwnda'', Cymru, 1902 (Cyf. 23). | * Williams, W. Gilbert ''Hen Gymeriadau Llanwnda'', Cymru, 1902 (Cyf. 23). | ||
* Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, (1960), t.225. | * Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, (1960), t.225. | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | |||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] | |||
[[Categori: Adeiladau ac adeiladwaith]] |
Fersiwn yn ôl 10:18, 11 Rhagfyr 2017
Fferm ym mhlwyf Llanwnda yw'r Gadlys. Fe saif ar godiad tir rhwng Glan-rhyd a [[Rhos-isaf], (SH48055798). Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw amddiffynfa llys. Mae'r enw a'i leoliad, ar dir uwch tua thri-chwarter milltir o safle Hen Gastell, yn awgrymu y gallai fod cysylltiad wedi bod rhwng y ddau le yn y canol oesoedd, er nad oes tystiolaeth ddogfennol ar gael.
Mae adeiladau'r fferm wedi eu codi y tu fewn i glawdd amddiffynnol o ryw fath, tua 80 llath ar draws, gyda waliau tua 12 troedfedd o uchder ar y tu allan, er bod y tir y tu mewn wedi ei godi, o bosibl, fel nad yw ond llathen o dan uchder pen y wal neu glawdd.
Dyma'r fan lle ganwyd William Bifan y Gadlys, bardd gwlad a chymeriad, ym 1730.
Ffynonellau
- Williams, W. Gilbert Hen Gymeriadau Llanwnda, Cymru, 1902 (Cyf. 23).
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, (1960), t.225.