Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu [[Y Brodyr Francis]], sef Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn ddarlledu cerdd dant ar Radio Athlone, cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor. Ni ddylid anghofio ychwaith am [[Llyfni Hughes]], telynor ac arloeswr gyda'r cerdd dant ym mlynyddoedd cynnar y 20g.<ref>Sylfaen yr erthygl hon yw paragraffau ar wefan Llechwefan [http://www.llechicymru.info/ComCultMusic.cymraeg.htm], cyrchwyd 2.1.2021</ref> | Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu [[Y Brodyr Francis]], sef Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn ddarlledu cerdd dant ar Radio Athlone, cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor. Ni ddylid anghofio ychwaith am [[Llyfni Hughes]], telynor ac arloeswr gyda'r cerdd dant ym mlynyddoedd cynnar y 20g.<ref>Sylfaen yr erthygl hon yw paragraffau ar wefan Llechwefan [http://www.llechicymru.info/ComCultMusic.cymraeg.htm], cyrchwyd 2.1.2021</ref> | ||
Mae'r dyffryn wedi cynhyrchu - neu roi cartref i - nifer o gerddorion pur lwyddiannus a dylanwadol, gan gynnwys sawl enillydd o'r Rhuban Glas, megis [[Maldwyn Parry]] ac [[Iwan Wyn Parry]], a'r cyfansoddwr [[ | Mae'r dyffryn wedi cynhyrchu - neu roi cartref i - nifer o gerddorion pur lwyddiannus a dylanwadol, gan gynnwys sawl enillydd o'r Rhuban Glas, megis [[Maldwyn Parry]] ac [[Iwan Wyn Parry]], a'r cyfansoddwr [[Robat Arwyn]] ond y ddau fwyaf llwyddiannus ar lefel ryngwladol efallai oedd [[Mary King Sarah]] ac, yn ein dyddiau ni, Syr [[Bryn Terfel]]. | ||
Fersiwn yn ôl 11:53, 24 Ionawr 2021
Mae hon yn erthygl fer sydd yn crynhoi rhai o brif elfennau traddodiad Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle. Gweler erthyglau unigol ar gorau a chantorion unigol sydd wedi eu nodi mewn print glas.
Fel y digwyddodd mewn rhannau eraill o Gymru, yr hyn a ysgogodd gymaint o weithgaredd corawl oedd mudiad y tonic sol-ffa a dosbarthiadau sol-ffa a gynhelid gan y capeli'r rhan amlaf. Dyn dwad i Ddyffryn Nantlle oedd Hugh Owen, (1832-1897). Sefydlodd fusnes yn Nhalysarn fel crydd, ond treuliodd lawer o'i amser yn teithio cyn belled a dinasoedd Lloegr gyda'r Tal-y-sarn Glee Singers. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn Eisteddfod Porthmadog. Dilynodd ei fab, Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) (1869-1930) ei dad fel cerddor er iddo arbenigo'n fwy mewn trefnu cerddoriaeth. Roedd traddodiad offerynnol cryf yn Nyffryn Nantlle hefyd a gwnaeth Pencerdd Llyfnwy waith sylweddol yn y maes yma.
Ym1894 cystadlodd Côr Meibion Dyffryn Nantlle a Chôr Plant Talysarn yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Ym 1902, cychwynnodd J. Owen Jones fel arweinydd y Côr Meibion. Bu llawer o gorau eraill yn y dyffryn, ac erys y Côr Meibion a Lleisiau'r Mignedd hyd heddiw yn fyw iawn.
Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd C.H. Leonard ac ar ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu Côr Meibion Dyffryn Nantlle o'r newydd, a daeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni fel Noson Lawen, ac mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw.
Ni ddylid diystyru traddodiad hir ac anrhydeddus bandiau pres ac arian y dyffryn. Er i fandiau unigol godi a diflannu, parhai Seindorf Dyffryn Nantlle hyd heddiw. Yn eu mysg, gellir enwi Band Baladeulyn, Band Carmel, Band Ceidwadwyr Pen-y-groes, Band Deulyn, Band Dolydd, Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes, Band Llandwrog, Band Moeltryfan, Band Nebo, Seindorf Arian Cadfan, Seindorf Deulyn, Seindorf Dulyn a Seindorf Pen-y-ffridd. ,
Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu Y Brodyr Francis, sef Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn ddarlledu cerdd dant ar Radio Athlone, cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor. Ni ddylid anghofio ychwaith am Llyfni Hughes, telynor ac arloeswr gyda'r cerdd dant ym mlynyddoedd cynnar y 20g.[1]
Mae'r dyffryn wedi cynhyrchu - neu roi cartref i - nifer o gerddorion pur lwyddiannus a dylanwadol, gan gynnwys sawl enillydd o'r Rhuban Glas, megis Maldwyn Parry ac Iwan Wyn Parry, a'r cyfansoddwr Robat Arwyn ond y ddau fwyaf llwyddiannus ar lefel ryngwladol efallai oedd Mary King Sarah ac, yn ein dyddiau ni, Syr Bryn Terfel.