Plas Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 18: Llinell 18:
* 1771-74  Richard Hughes, ysw., o'r Penrhyn (prydles am 3 chenhedlaeth, ac felly'n denantiaeth fwy hir-dymor
* 1771-74  Richard Hughes, ysw., o'r Penrhyn (prydles am 3 chenhedlaeth, ac felly'n denantiaeth fwy hir-dymor
* 1775-80  Hugh Hughes, ysw
* 1775-80  Hugh Hughes, ysw
* 1781-1807 Owen Humphrey, tenant i Hugh Hughes - yn amlwg, dal Nantlle fel buddsoddiad i'w renti oedd teulu Hughes
* 1781-1807 Owen Humphrey, tenant i Hugh Hughes - roedd yn amlwg yn rhenti Nantlle fel buddsoddiad i'w renti eto oedd teulu Hughes
* 1782-1805 Hugh Hughes yn brydleswr, hyd ei farwolaeth
* 1782-1805 Hugh Hughes yn brydleswr, hyd ei farwolaeth
* 1806-08    Philip James Hughes,ysw, mab Hugh Hughes
* 1806-08    Philip James Hughes,ysw, mab Hugh Hughes

Fersiwn yn ôl 13:38, 8 Ionawr 2021

Mae Plas Nantlle a elwir heddiw yn "Tŷ Mawr" hefyd wedi cael ei alw'n Blas yn Nantlle, Tŷ Mawr Nantlle neu hyd yn oed Nantlle yn ystod y saith ganrif ers iddo gael ei godi'n wreiddiol. Heddiw mae o'n un o'r plastai hynaf a mwyaf diddorol yn Uwchgwyrfai er nad yw'n gyfarwydd i lawer, gan ei fod yn parhau'n dŷ preifat ac yn gymharol ddi-nod o'r ffordd. Saif i'r chwith o'r ffordd B4418 wrth i honno droi i'r dde i gyfeiriad Drws-y-coed yng nghanol pentref Nantlle. Y Plas, yn wir, sydd wedi rhoi'r enw i'r pentref, gan mai terasau o dai ar dir oedd yn eiddo i'r Plas yw'r rhan fwyaf o dai'r pentref, na ddaeth i fodolaeth tan ail hanner y 19g.

Mae enw Nantlle ei hun yn debygol o fod yn hŷn na'r tŷ cyntaf ar y safle, fel disgrifiad o'r ardal, sef Nant = Dyffryn (fel yn enw Nant Gwytheyrn) ac wedyn Lleu, y ffigwr mytholegol - er mod rhai wedi ceisio ei ddehongli fel Nantllynnau, gan fod dau lyn yno.[1]

Dichon fod Plas Nantlle'n sefyll ar safle Llys Baladeulyn, a oedd yn llys uchelwyr yn amser Llywelyn Fawr, ac a feddiannwyd gan y brenin Iorwerth I ym 1284. Tŷ neuadd pren fyddai adeilad o'r cyfnod hwnnw'n ôl pob tebyg, a buan y byddai'n mynd yn adfail wedi i'r teulu wreiddiol farw neu gael eu symud oddi yno. Yr oedd y tir oedd yn gysylltiedig â Llys Baladeulyn yn debygol o fod wedi ymestyn ar draws ardal eang o Ddyffryn Nantlle, yn cynnwys y llethrau lle datblygwyd Chwarel Pen-yr-orsedd ymhen rhai canrifoedd. Tua 1356 neu'n fuan wedyn, fe roddwyd chwe "carucate", neu oddeutu 720 erw o dir, yn wobr i un o ddisgynyddion Ystrwyth ab Ednowain, sef Tudur ap Goronwy, am ei wasanaeth yn ymladd yn erbyn Ffrainc ym myddin Lloegr, lle arweiniodd, meddid, 12000 o filwyr Cymreig - er bod y nifer hwnnw, mae'n debyg, yn or-ddweud sylweddol. ar ei ystâd newydd fe gododd dŷ newydd yn ol pob sôn,sef Plas Nantlle.

Roedd Tudur ap Goronwy wedi priodi Morfudd ferch Hywel a oedd, fel yntau, yn ddisgynnydd i Gilmyn Droed Ddu, ac felly roedd tiroedd Nantlle a thiroedd Glynllifon wedi'u huno. Parhaodd yn un eiddo tan 1509 pan rannwyd yr ystâd rhwng dau etifedd Robert ap Maredudd o Lynllifon a chafodd Rhisiart ap Robert Nantlle a thiroedd lle codwyd Plas Newydd sydd bellach o fewn Wal Glynllifon. Yr oedd y ty erbyn hyn yn gant a hanner oed, ac yr oedd symudiad gan y dosbarth bonheddig yn ystod yr 16g. i godi tai newydd modern nad oeddynt yn amddiffynfeydd i raddau nac yn dilyn hen batrwm agored y tŷ neuadd. Wedi i William ab Rhisiart, ei fab etifeddu'r eiddo, aeth ati i godi tŷ newydd yn unol â ffasiwn yr oes yn lle'r hen blas. Mae archwiliadau cylchoedd tyfu'r coed sydd yn nho'r adeilad yn awgrymu dyddiad rhwng 1536 1 1556,[2] ac mae hyn yn dangos fod y tŷ wedi ei godi ynghanol y ganrif honno. Mae'r prif strwythur yn para hyd heddiw, er bod ychwanegiadau megis feranda yn rhai modern. Mae'r trefniadau y tu fewn wedi newid yn llwyr gyda pharedau newydd ac ym y blaen. Yr oedd yn dŷ deulawr o'r cychwyn, gyda grisiau cerrig yn codi wrth ochr aelwyd fawr yn y poen gogleddol. Mae tri phâr o gyplau gwreiddiol yn dal y to, sydd yn fodern.[3]

Roedd plant y genhedlaeth nesaf wedi mabwysiadu'r cyfenw Glyn neu Glynn, gyda Thomas Glynn, ysw., yn etifeddu'r ystad a'r tŷ ar ôl ei dad. Bu i rai o'r teulu'n byw ym Mhlas Nantlle o leiaf hyd nes i Henry Glynn o Nantlle farw ym 1672.[4] Yr oedd aelodau eraill o'r teulu, ac efallai y gangen bwysicaf, wedi bod yn byw ym Mhlas Newydd, tŷ mwy cyfleus ger i briffordd o Bwllheli i Gaearnarfon, ers bron i ganrif a Mae J. Dilwyn Williams yn awgrymu mai yma 1672 yr ymadawodd y teulu'n derfynnol fel annedd iddynt eu hunai, gan fod tenant o grefftwr yno, sef John ap Huw Robert, teiliwr, yn marw yn Mhlas Nantlle dair blynedd yn ddiweddarach.[5]

Ar wahân i gyfnod byr pan oedd Mrs Catherine Meyrick, etifeddes yr ystâd, o bosibl yn byw yno rywbryd rhwng 1693 a 1718, hanes o'r teulu yn gosod y tŷ i denantiaid sydd i Blas Nantlle. Perthynas o bell, Robert Griffith, bonheddwr, o Nantlle oedd y tenant cyyntaf, ond wedi iddo farw ym 1718, nid yw'n amlwg fod perthynas rhwng perchennog a thenant. Marwodd Catherine Meyrick ym 1723, ac aeth ei heiddo i berthynas, sef Ann Owen, Bodeon, Sir Fôn. Rywbryd cyn 1700, bu priodas rhwng Ann Owen, cyfnither John Glynn, a Syr Hugh Owen a olygodd y byddai Plas Nantlle'n mynd yn eiddo i deulu Owen o Orielton yn Sir Benfro - ond, sylwer, nid oedd y plas wedi colli cysylltiad yn llwyr â theulu Glynniaid Nantlle a Phlas Newydd.

Pan farwodd Alice Griffith, gweddw Robert Griffith ym 1725, yn sicr tŷ ar rent oedd "Plas Nantlle alias Dol-y-felin", ynghyd â'r fferm sylweddol a Melin Nantlle. Mae John Dilwyn Williams wedi darganfod enwau nifer o'r preswylwyr:

  • 1735 Edward Owen
  • 1740-41 Griffith Jones (marw 1741)
  • 1769 Griffith William Abraham a'i wraig Ann Vaughan
  • 1770-71 Griffith Jones, nai Griffith Willam Abraham
  • 1771-74 Richard Hughes, ysw., o'r Penrhyn (prydles am 3 chenhedlaeth, ac felly'n denantiaeth fwy hir-dymor
  • 1775-80 Hugh Hughes, ysw
  • 1781-1807 Owen Humphrey, tenant i Hugh Hughes - roedd yn amlwg yn rhenti Nantlle fel buddsoddiad i'w renti eto oedd teulu Hughes
  • 1782-1805 Hugh Hughes yn brydleswr, hyd ei farwolaeth
  • 1806-08 Philip James Hughes,ysw, mab Hugh Hughes



Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011), tt.205-7
  2. J. Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.3 [1]
  3. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.184. Nid yw'r llyfr hwn yn cydnabod pwysigrwydd nac arwyddocâd y safle na'r adeilad yn hanes y cwmwd.
  4. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, XPE/24/1
  5. J. Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.4 [2]