Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd [[C.H. Leonard]] ac ar ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle]] o'r newydd, a daeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni fel Noson Lawen, ac mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw.
Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd [[C.H. Leonard]] ac ar ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle]] o'r newydd, a daeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni fel Noson Lawen, ac mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw.


Ni ddylid diystyru traddodiad hir ac anrhydeddus bandiau pres ac arian y dyffryn. Er i fandiau unigol godi a diflannu, parhai [[SeindorfDyffryn Nantlle]] hyd heddiw. Yn eu mysg, gellir enwi [[Band Baladeulyn]], [[Band Carmel]], [[Band Ceidwadwyr Pen-y-groes]], [[Band Deulyn]], [[Band Dolydd]], [[Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes]], [[Band Llandwrog]], [[Band Moeltryfan]], [[Band Nebo]] a [[Band Cwmwd Uwcvhgwyrfai]], [[Seindorf Cadfan]], [[Seindorf Deulyn]], [[Seindorg Dulyn]] a [[Seindorf Pen-y-ffridd]].
Ni ddylid diystyru traddodiad hir ac anrhydeddus bandiau pres ac arian y dyffryn. Er i fandiau unigol godi a diflannu, parhai [[Seindorf Dyffryn Nantlle]] hyd heddiw. Yn eu mysg, gellir enwi [[Band Baladeulyn]], [[Band Carmel]], [[Band Ceidwadwyr Pen-y-groes]], [[Band Deulyn]], [[Band Dolydd]], [[Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes]], [[Band Llandwrog]], [[Band Moeltryfan]], [[Band Nebo]] a [[Band Cwmwd Uwchgwyrfai]], [[Seindorf Arian Cadfan]], [[Seindorf Deulyn]], [[Seindorf Dulyn]] a [[Seindorf Pen-y-ffridd]].
,  
,  



Fersiwn yn ôl 19:54, 2 Ionawr 2021

Mae hon yn erthygl fer sydd yn crynhoi rhai o brif elfennau traddodiad Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle. Gweler erthyglau unigol ar gorau a chantorion unigol sydd wedi eu nodi mewn print glas.

Fel y digwyddodd mewn rhannau eraill o Gymru, yr hyn a ysgogodd gymaint o weithgaredd corawl oedd mudiad y tonic sol-ffa a dosbarthiadau sol-ffa a gynhelid gan y capeli'r rhan amlaf. Dyn dwad i Ddyffryn Nantlle oedd Hugh Owen, (1832-1897). Sefydlodd fusnes yn Nhalysarn fel crydd, ond treuliodd lawer o'i amser yn teithio cyn belled a dinasoedd Lloegr gyda'r Tal-y-sarn Glee Singers. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn Eisteddfod Porthmadog. Dilynodd ei fab, Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) (1869-1930) ei dad fel cerddor er iddo arbenigo'n fwy mewn trefnu cerddoriaeth. Roedd traddodiad offerynnol cryf yn Nyffryn Nantlle hefyd a gwnaeth Pencerdd Llyfnwy waith sylweddol yn y maes yma.

Ym1894 cystadlodd Côr Meibion Dyffryn Nantlle a Chôr Plant Talysarn yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Ym 1902, cychwynnodd J. Owen Jones fel arweinydd y Côr Meibion. Bu llawer o gorau eraill yn y dyffryn, ac erys y Côr Meibion a Lleisiau'r Mignedd hyd heddiw yn fyw iawn.

Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd C.H. Leonard ac ar ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu Côr Meibion Dyffryn Nantlle o'r newydd, a daeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni fel Noson Lawen, ac mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw.

Ni ddylid diystyru traddodiad hir ac anrhydeddus bandiau pres ac arian y dyffryn. Er i fandiau unigol godi a diflannu, parhai Seindorf Dyffryn Nantlle hyd heddiw. Yn eu mysg, gellir enwi Band Baladeulyn, Band Carmel, Band Ceidwadwyr Pen-y-groes, Band Deulyn, Band Dolydd, Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes, Band Llandwrog, Band Moeltryfan, Band Nebo a Band Cwmwd Uwchgwyrfai, Seindorf Arian Cadfan, Seindorf Deulyn, Seindorf Dulyn a Seindorf Pen-y-ffridd. ,

Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu Y Brodyr Francis, sef Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn ddarlledu cerdd dant ar Radio Athlone, cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor. Ni ddylid anghofio ychwaith am Llyfni Hughes, telynor ac arloeswr gyda'r cerdd dant ym mlynyddoedd cynnar y 20g.[1]

Mae'r dyffryn wedi cynhyrchu - neu roi cartref i - nifer o gerddorion pur lwyddiannus a dylanwadol, gan gynnwys sawl enillydd o'r Rhuban Glas, megis Maldwyn Parry ac Iwan Wyn Parry, a'r cyfansoddwr Robert Arwyn ond y ddau fwyaf llwyddiannus ar lefel ryngwladol efallai oedd Mary King Sarah ac, yn ein dyddiau ni, Syr Bryn Terfel.



Cyfeiriadau

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw paragraffau ar wefan Llechwefan [1], cyrchwyd 2.1.2021