Llanwnda (plwyf hanesyddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]].
'''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''.  


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==
Llinell 10: Llinell 10:


==Yr eglwys a'i sant==
==Yr eglwys a'i sant==
Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai diwethaf hyn yw olion cist claddu Owen Meredith, a farwodd ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r ffaith fod cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.
Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw olion cist claddu Owen Meredith, a farwodd ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.


Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar a1748.
Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar â 1748.


Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwyndaf ac mae ''Gwnda'' (yr elfen a geir yn ''Llanwnda''yn dalfyriad o'r enw hwnnw).
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwyndaf ac mae ''Gwnda'' (yr elfen a geir yn ''Llanwnda''yn dalfyriad o'r enw hwnnw).


==Tai pwysig ac enwogion==
==Tai pwysig ac enwogion==
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr oedd wedi preswylio yn yno. Yn eu mysg, teuluoedd plastai [[Plas Dinas]], [[Plas Bodaden]], [[Plas-yn-Bont]] a'r [[Pengwern]].


==Y pentref==
==Y pentref==

Fersiwn yn ôl 12:12, 4 Rhagfyr 2017

Llanwnda yw un o blwyfi hanesyddol Uwchgwyrfai. Ystyr yr enw yw Eglwys Sant Gwyndaf.

Ffiniau a thirwedd

Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf Betws Garmon ym 1888. Tua 1990 symudwyd ardal Belan o Lanwnda i blwyf Llandwrog a ward Bontnewydd i gymuned Y Bontnewydd a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r Afon Gwyrfai. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r Afon Carrog yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng Tryfan a'r môr.

Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar Y Foryd a thraeth ger Trwyn Abermenai, morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.

Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i ddarn o goedwig, yn bennaf coedwig gwern a hynny yn y mannau gwlypaf. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored hyd nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynod yn cael eu creu gan y chwarelwyr.

Yr eglwys a'i sant

Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw olion cist claddu Owen Meredith, a farwodd ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.

Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar â 1748.

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwyndaf ac mae Gwnda (yr elfen a geir yn Llanwndayn dalfyriad o'r enw hwnnw).

Tai pwysig ac enwogion

Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr oedd wedi preswylio yn yno. Yn eu mysg, teuluoedd plastai Plas Dinas, Plas Bodaden, Plas-yn-Bont a'r Pengwern.

Y pentref

Nodweddion eraill y plwyf

Hanes diweddar