Michael Vaughan Wynn, 7fed Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Robert Charles Michael Vaughan Wynn''' (1917-1998) yn 7fed Arglwydd Newborough. Fe arddelai'r enw "Michael" - neu i'w ffrindiau, "Micky Wynn". Roedd yn fab i [[Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough]]. Ymunodd â'r fyddin yn syth o'r ysgol (Coleg Oundle) ond cafodd ei ryddhau oherwydd anaf ym 1940. Mi helpodd achub milwyr o Dunkirk ym 1940, fodd bynnag, gan ei fod wedi cael gwaith fel dinesydd cyffredin yn gapten iot a weithredai fel cwch ar gyfer gwasanaeth achub-o'r-môr y llynges. Cafodd ei gomisiynu'n is-liwtenant yn y Llu Morwrol Wrth Gefn (RNVR), a chael swyddogaeth fel capten cwch modur tanio torpedos. Yn y swyddogaeth honno, bu'n allweddol i lwyddiant yr ymosodiad ar harbwr yr Almaenwyr yn St. Nazaire, lle cafodd ei gydnabod gyda medal y DSC. Fodd bynnag, fe suddiwyd ei gwch a chollodd un lygaid yn yr ymrafael; cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr a'i anfon i garchar rhyfel. Fe ddihangodd ond o ail-gael ei ddal, fe'i anfonwyd i garchar Castell Colditz, o ble cafodd ei drosglwyddo'n ôl i Brydain gan yr Almaenwyr ym 1945, wedi iddo ffugio salwch difrifol.
Roedd '''Robert Charles Michael Vaughan Wynn''' (1917-1998) yn 7fed Arglwydd Newborough. Fe arddelai'r enw "Michael" - neu i'w ffrindiau, "Micky Wynn". Roedd yn fab i [[Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough]]. Ymunodd â'r fyddin yn syth o'r ysgol (Coleg Oundle) ond cafodd ei ryddhau oherwydd anaf ym 1940. Fodd bynnag, cynorthwyodd i achub milwyr o Dunkirk ym 1940, gan ei fod wedi cael gwaith fel dinesydd cyffredin yn gapten iot a weithredai fel cwch ar gyfer gwasanaeth achub-o'r-môr y llynges. Cafodd ei gomisiynu'n is-lefftenant yn y Llu Morwrol Wrth Gefn (RNVR), a chael swyddogaeth fel capten cwch modur tanio torpedos. Yn y swyddogaeth honno, bu'n allweddol i lwyddiant yr ymosodiad ar harbwr yr Almaenwyr yn St. Nazaire, lle cafodd ei gydnabod gyda medal y DSC. Fodd bynnag, fe suddwyd ei gwch a chollodd un llygad yn yr ymrafael; cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr a'i anfon i garchar rhyfel. Fe ddihangodd ond, wedi iddo gael ei ddal drachefn, fe'i hanfonwyd i garchar Castell Colditz, o ble cafodd ei drosglwyddo'n ôl i Brydain gan yr Almaenwyr ym 1945, wedi iddo ffugio salwch difrifol.


Wedi'r rhyfel trodd at ffermio, ac etifeddodd y teitl o Arglwydd Newborough ar farwolaeth ei dad, ynghyd â'i ystadau ym 1965, gan fyw yn bennaf yn y Rhug ger Corwen - erbyn hynny roedd [[Plas Glynllifon]] wedi ei hen werthu. Bu farw yn Istanbwl ym 1998, a'i ddilynwyd gan ei fab [[Robert Vaughan Wynn, 8fed Arglwydd Newborough|Robert]].<ref>Erthygl Wikipedia, [https://en.wikipedia.org/wiki/Michael_Wynn,_7th_Baron_Newborough], cyrchwyd, 21.5.2020</ref> Yn ystod ei ddaliaeth o'r ystad, fe werthwyd llawer o diroedd [[Ystad Glynllifon]], wrth i'r ffermydd ddod yn rhydd neu oherwydd nad oeddynt yn dod ag incwm sylweddol. Rhaid oedd iddo werthu ynysoedd Enlli er mwyn codi arian i dalu trethi. Gwir yw dweud, mae'n debyg, nad oedd yn cael ei hoffi gan bawb o'i denantiaid oherwydd ei agwedd at fusnes, lle mynnodd mai'r ochr galed ariannol oedd uchaf bob tro wrth ymwneud â'i denantiaid yn ôl yr hanes. Iddo fo, fodd bynnag, mai'r diolch fod holl gyfoeth cofnodion yr ystad wedi cyrraedd Archifdy Caernarfon, sydd yn rhoi darlun llawn o fywyd [[Uwchgwyrfai]] dros y tair canrif ddiwethaf - casgliad ymysg y goreuon yng Nghymru, a werthwyd gan ei fab i Gyngor Gwynedd (lle roedd y casgliad eisoes ar gael ar fenthyg) er mwyn codi pres i dalu treth farwolaeth.
Wedi'r rhyfel trodd at ffermio, ac etifeddodd y teitl Arglwydd Newborough ar farwolaeth ei dad ym 1965, ynghyd â'i ystadau, gan fyw yn bennaf yn y Rhug ger Corwen - erbyn hynny roedd [[Plas Glynllifon]] wedi ei hen werthu. Bu farw yn Istanbwl ym 1998, ac fe'i holynwyd gan ei fab [[Robert Vaughan Wynn, 8fed Arglwydd Newborough|Robert]].<ref>Erthygl Wikipedia, [https://en.wikipedia.org/wiki/Michael_Wynn,_7th_Baron_Newborough], cyrchwyd, 21.5.2020</ref> Yn ystod ei ddaliadaeth o'r ystad, fe werthwyd llawer o diroedd [[Ystad Glynllifon]], wrth i'r ffermydd ddod yn rhydd neu oherwydd nad oeddynt yn dod ag incwm sylweddol. Rhaid oedd iddo werthu ynys Enlli er mwyn codi arian i dalu trethi. Gwir yw dweud, mae'n debyg, nad oedd yn cael ei hoffi gan bawb o'i denantiaid oherwydd ei agwedd at fusnes, gan fynnu mai'r ochr galed ariannol oedd uchaf bob tro wrth ymwneud â'i denantiaid yn ôl yr hanes. Iddo fo, fodd bynnag, mae'r diolch fod holl gyfoeth cofnodion yr ystad wedi cyrraedd Archifdy Caernarfon, sydd yn rhoi darlun llawn o fywyd [[Uwchgwyrfai]] dros y tair canrif ddiwethaf - casgliad ymysg y goreuon yng Nghymru, a werthwyd gan ei fab i Gyngor Gwynedd (lle roedd y casgliad eisoes ar gael ar fenthyg) er mwyn codi arian i dalu treth farwolaeth.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 13:06, 29 Ionawr 2021

Roedd Robert Charles Michael Vaughan Wynn (1917-1998) yn 7fed Arglwydd Newborough. Fe arddelai'r enw "Michael" - neu i'w ffrindiau, "Micky Wynn". Roedd yn fab i Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough. Ymunodd â'r fyddin yn syth o'r ysgol (Coleg Oundle) ond cafodd ei ryddhau oherwydd anaf ym 1940. Fodd bynnag, cynorthwyodd i achub milwyr o Dunkirk ym 1940, gan ei fod wedi cael gwaith fel dinesydd cyffredin yn gapten iot a weithredai fel cwch ar gyfer gwasanaeth achub-o'r-môr y llynges. Cafodd ei gomisiynu'n is-lefftenant yn y Llu Morwrol Wrth Gefn (RNVR), a chael swyddogaeth fel capten cwch modur tanio torpedos. Yn y swyddogaeth honno, bu'n allweddol i lwyddiant yr ymosodiad ar harbwr yr Almaenwyr yn St. Nazaire, lle cafodd ei gydnabod gyda medal y DSC. Fodd bynnag, fe suddwyd ei gwch a chollodd un llygad yn yr ymrafael; cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr a'i anfon i garchar rhyfel. Fe ddihangodd ond, wedi iddo gael ei ddal drachefn, fe'i hanfonwyd i garchar Castell Colditz, o ble cafodd ei drosglwyddo'n ôl i Brydain gan yr Almaenwyr ym 1945, wedi iddo ffugio salwch difrifol.

Wedi'r rhyfel trodd at ffermio, ac etifeddodd y teitl Arglwydd Newborough ar farwolaeth ei dad ym 1965, ynghyd â'i ystadau, gan fyw yn bennaf yn y Rhug ger Corwen - erbyn hynny roedd Plas Glynllifon wedi ei hen werthu. Bu farw yn Istanbwl ym 1998, ac fe'i holynwyd gan ei fab Robert.[1] Yn ystod ei ddaliadaeth o'r ystad, fe werthwyd llawer o diroedd Ystad Glynllifon, wrth i'r ffermydd ddod yn rhydd neu oherwydd nad oeddynt yn dod ag incwm sylweddol. Rhaid oedd iddo werthu ynys Enlli er mwyn codi arian i dalu trethi. Gwir yw dweud, mae'n debyg, nad oedd yn cael ei hoffi gan bawb o'i denantiaid oherwydd ei agwedd at fusnes, gan fynnu mai'r ochr galed ariannol oedd uchaf bob tro wrth ymwneud â'i denantiaid yn ôl yr hanes. Iddo fo, fodd bynnag, mae'r diolch fod holl gyfoeth cofnodion yr ystad wedi cyrraedd Archifdy Caernarfon, sydd yn rhoi darlun llawn o fywyd Uwchgwyrfai dros y tair canrif ddiwethaf - casgliad ymysg y goreuon yng Nghymru, a werthwyd gan ei fab i Gyngor Gwynedd (lle roedd y casgliad eisoes ar gael ar fenthyg) er mwyn codi arian i dalu treth farwolaeth.

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wikipedia, [1], cyrchwyd, 21.5.2020