Sir Gaernarfon (etholaeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 149: | Llinell 149: | ||
|1945|| Goronwy Roberts|| Llafur | |1945|| Goronwy Roberts|| Llafur | ||
|- | |- | ||
|1950|| ''Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth am yr ail dro | |1950|| ''Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth am yr ail dro | ||
| | |} | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Gwleidyddion]] | [[Categori:Gwleidyddion]] |
Fersiwn yn ôl 08:59, 8 Mai 2020
Am yr holl gyfnod o sefydlu'r drefn o siroedd Cymru'n anfon aelod seneddol i San Steffan ym 1542, hyd 1885, Sir Gaernarfon oedd yr etholaeth a gynhwysai Uwchgwyrfai yn ei gyfanrwydd. Sir Gaernarfon oedd enw'r etholaeth eto rhwng 1918 a 1950. Rhwng 1885 a 1918, Eifion, sef hanner y sir, oedd yr etholaeth. Yn etholaeth 1929,safodd ymgeisydd seneddol cyntaf Plaid Cymru yn yr etholaeth hon, gan ennill 609 pleidlais.
Un aelod a etholwyd gan etholwyr Sir Gaernarfon, heblaw am gyfnod Cromwell yn y 1650au, pan etholwyd dau aelod dros yr etholaeth.
Mae'r etholaeth hon yn nodedig, efallai, am y ffaith mai ychydig iawn o ddynion o'r tu allan i'r sir sydd wedi cynrychioli'r etholaeth. Serch hynny, Thomas Bulkeley o Ddinas oedd yr unig un heblaw am nifer o deulu Glynllifon i ddod o Uwchgwyrfai.
Y cyntaf o'r "dynion diarth" i fod yn AS dros y sir oedd Henry Lawrence, Sais a ddaliai swydd Arglwydd Lywydd y Cyngor, sef llywydd y Cyngor Cyfrin, dan Cromwell. Camodd i fewn i'r sedd wedi i Syr John Glynn gael ei ethol dros Sir Gaernarfon a Sir y Fflint yn yr un etholiad 9gan ddewis eistedd dros Sir y Fflint), ac wedyn cael ei ddyrchafu i'r hyn a gyfatebodd i Dŷ'r Arglwyddi dan Cromwell, sef y Tŷ Arall ym 1656. Roedd gan Lawrence ddewis o gael ei benodi yn aelod dros Swydd Huntingdon neu Sir Gaernarfon ac fe ddewisodd ein sir ni.[1] Nid yw'r rheswm yn hysbys, ond efallai bod anhawster i gael hyd i aelod o statws a dylanwad digonol ymysg bonheddwyr Sir Gaernarfon, gan fod cymaint ohonynt yn elyniaethus i Cromwell ac wedi cefnogi'r brenin Siarl I.
Ni chafodd yr un "dyn diarth" heb gysylltiadau o ran deulu neu dir ei ethol hyd nes i William Rathbone, banciwr a cyn-AS o Lerpwl ennill y sedd ym 1880. Roedd hyd yn oed ei ragflaenydd, Watkin Williams, cyfreithiwr o Sir Ddinbych, wedi priodi merch Plas-yn-Llysfaen, ac y pryd hynny, roedd Llysfaen yn perthyn i Sir Gaernarfon, fel ynys o fewn ffiniau Sir Ddinbych.[2]
Mae'n wir i ddeud fod Robert Jones, y Llafurwr cyntaf (a'r gwerinwr cyntaf) i ddal y sedd, yn dod o Flaenau Ffestiniog, ond ei ysgogydd o oedd R. Silyn Roberts.[3] Gŵr o Aberystwyth oedd Goronwy Owen, ond mi daflodd ei hun i fewn i fywyd Sir Gaernarfon, gan ddod yn gynghorydd sir ac yn henadur.[4]
Aelodau Seneddol 1542–1885 a 1918-1950
Blwyddyn ethol | Aelod | Plaid |
---|---|---|
1542 | ?John "Wynn" ap Maredudd | |
1545 | John Puleston | |
1547 | John Puleston, marw 1552 ac etholwyd John Wynn ap Maredudd yn ei le | |
1553 (Mawrth) | John Wynn ap Hugh | |
1553 (Hydref) | Morris Wynn | |
1554 (Ebrill) | Morris Wynn | |
1554 (Tachwedd) | David Lloyd ap Thomas | |
1555 | Sir Rhys Gruffydd | |
1558 | William Wynn Williams | |
1558–1559 | Robert Pugh | |
1563 (Ionawr) | Morris Wynn | |
1571 | John Wynn ap Hugh | |
1572 (Ebrill) | John Gwynne marw 1574 ac etholwyd William Thomas yn ei le | |
1584 | William Thomas marw 1586 | |
1586 | Syr John Wynn | |
1588 (Hydref) | Hugh Gwyn Bodvel | |
1593 | William Maurice | |
1597 (Hydref) | William Griffith | |
1601 (Medi) | William Jones | |
1604 | Syr William Maurice | |
1614 | Syr Richard Wynn | |
1621 | John Griffith | |
1624 | Thomas Glynn | |
1625 | Thomas Glynn | |
1626 | John Griffith | |
1628 | John Griffith | |
1640 (Ebrill) | Thomas Glynn | |
1640 (Tachwedd) | John Griffith (Cefnamwlch) a gafodd ei ddatgymwyso o'r Senedd, 1642 | |
1647 | Syr Richard Wynn | |
1653 (Senedd Barebones) | Neb wedi ei ethol | |
1654 (dau aelod) | Syr John Glynn + Thomas Madryn | |
1656 (dau aelod) | Syr John Glynn , wedyn Henry Lawrence (Llywydd y Cyngor); + Syr Robert Williams | |
1659 | Sir William Glynn | |
1660 | Syr John Glynn | |
1661 | Syr Richard Wynn | |
1675 | Robert Bulkeley, (2il Is-iarll Bulkeley wedyn) | |
1679 | Thomas Bulkeley | |
1689 | Syr William Williams | |
1697 | Thomas Bulkeley | |
1705 | Syr John Wynn | |
1713 | William Griffith | |
1715 | John Griffith | |
1740 | Syr John Wynn | |
1741 | William Bodvell | |
1754 | Syr John Wynn | |
1761 | Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough | |
1774 | Thomas Assheton Smith I | |
1780 | John Parry | |
1790 | Syr Robert Williams | Whig |
1826 | Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough | Amhleidiol |
1830 | Charles Griffith-Wynne | Tori |
1832 | Thomas Assheton Smith II | Tori |
1834 | Thomas Assheton Smith II | Ceidwadwr |
1837 | John Ormsby-Gore, (Arglwydd 1af Harlech wedyn) | Ceidwadwr |
1841 | Edward Douglas-Pennant, (Arglwydd 1af Penrhyn wedyn) | Ceidwadwr |
1866 | George Douglas-Pennant, (2il Arglwydd Penrhyn wedyn) | Ceidwadwr |
1868 | Syr Love Jones-Parry | Rhyddfrydwr |
1874 | Yr Anrh. George Douglas-Pennant, (2il Baron Penrhyn wedyn) | Ceidwadwr |
1880 (Ebrill) | Watkin Williams | Rhyddfrydwr |
1880 (Rhagfyr) | William Rathbone | Rhyddfrydwr |
1885 | Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth | |
1918 | Etholiad Cyffredinol:Ailsefydlwyd yr etholaeth | |
1918 | Charles Edward Breese | Rhyddfrydwr Cynghreiriol |
1922 | Robert Jones | Llafur |
1923 | Goronwy Owen | Rhyddfrydwr |
1945 | Goronwy Roberts | Llafur |
1950 | Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth am yr ail dro |