Crwydro Arfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''  ''Crwydro Arfon'' ''' yn llyfr gan Alun Llywelyn-Williams yng nghyfres "Crwydro" a gyhoeddwyd gan gwmni Llyfrau'r Dryw yn ystod y 1950au a 1960au, gydag un neu fwy o gyfrolau'n ymwneud â phob sir. Cyhoeddwyd ''Crwydro Arfon'' ym 1959, ac mae'n delio â dwyrain [[Sir Gaernarfon]]; cyhoeddwyd cyfrol ar wahân, sef [[ ''Crwydro Llŷn ac Eifionydd'']] gan [[Gruffudd Parry]] ym 1960. Er bod pennod gyfan yn llyfr ''Crwydro Arfon'' am [[Uwchgwyrfai]], nid ydyw'n ymdrin â phlwyf [[Llanaelhaearn]] na phentref [[Trefor]], sydd yn cael sylw gan Gruffudd Parry.<ref>Alun Llywelyn-Williams, ''Crwydro Arfon'', (Llandybïe, 1959); Gruffudd Parry, ''Crwydro Llŷn ac Eifionydd'', (Llandybïe, 1960)</ref>

Dyma'r llyfrau cyntaf yn yr oes fodern i roi sylw gweddol fanwl i agweddau ar hanes, llên a daearyddiaeth rannau o'r wlad, ac er nad yw'r ddwy gyfrol am Sir Gaernarfon mor fanwl â'r cyfrolau manwl a gwych gan Ffransis Payne ar Sir Faesyfed, er enghraifft (ag ystyried cyfoeth y deunydd posibl) maent yn well o dipyn na chyfrolau cyntaf y gyfres a ysgrifenwyd gan T.I. Ellis. Ysgrifennir y llyfrau yn null teithlyfr hen ffasiwn, yn disgrifio taith (dychmygol mae'n debyg) o gwmpas ardal, a hynny mewn modd darllenadwy a diddorol, heb ymgais i fod yn or-gynhwysol.
Dyma'r llyfrau cyntaf yn yr oes fodern i roi sylw gweddol fanwl i agweddau ar hanes, llên a daearyddiaeth rannau o'r wlad, ac er nad yw'r ddwy gyfrol am Sir Gaernarfon mor fanwl â'r cyfrolau manwl a gwych gan Ffransis Payne ar Sir Faesyfed, er enghraifft (ag ystyried cyfoeth y deunydd posibl) maent yn well o dipyn na chyfrolau cyntaf y gyfres a ysgrifenwyd gan T.I. Ellis. Ysgrifennir y llyfrau yn null (ond nid arddull) teithlyfrau hen ffasiwn, yn disgrifio taith (ddychmygol mae'n debyg) o gwmpas ardal, a hynny mewn modd darllenadwy a diddorol, heb ymgais i fod yn or-gynhwysol.

Digon hawdd yw dod o hyd i gopïau o'r gyfres, a hynny am bris rhesymol mewn sioau ail-law, er nad ydynt wedi cael eu hailargraffu ers y 1970au. Wedi dyddiau'r gyufres crwydro daeth ''Cyfres Broydd Cymru'' o'r 1990au ymlaen, oedd yn tueddu cael eu cyhoeddi i gyfateb i fro'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Ceir mwy o ffeithiau yn y rhain, er efallai eu bod yn fwy pytiog - i weddu ag arferion darllen yr oes o bosib. Fe'u cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch mewn cloddiau meddal.
Digon hawdd yw dod o hyd i gopïau o'r gyfres, a hynny am bris rhesymol mewn siopau ail-law, er nad ydynt wedi cael eu hailargraffu ers y 1970au. Wedi dyddiau'r gyfres "Crwydro" daeth ''Cyfres Broydd Cymru'' o'r 1990au ymlaen, oedd yn tueddu cael eu cyhoeddi i gyfateb i fro'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Ceir mwy o ffeithiau yn y rhain, er efallai eu bod yn fwy pytiog - i weddu ag arferion darllen yr oes o bosib. Fe'u cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch mewn cloddiau meddal.

Fersiwn yn ôl 09:40, 1 Mai 2020

Mae Crwydro Arfon yn llyfr gan Alun Llywelyn-Williams yng nghyfres "Crwydro" a gyhoeddwyd gan gwmni Llyfrau'r Dryw yn ystod y 1950au a 1960au, gydag un neu fwy o gyfrolau'n ymwneud â phob sir. Cyhoeddwyd Crwydro Arfon ym 1959, ac mae'n delio â dwyrain Sir Gaernarfon; cyhoeddwyd cyfrol ar wahân, sef ''Crwydro Llŷn ac Eifionydd'' gan Gruffudd Parry ym 1960. Er bod pennod gyfan yn llyfr Crwydro Arfon am Uwchgwyrfai, nid ydyw'n ymdrin â phlwyf Llanaelhaearn na phentref Trefor, sydd yn cael sylw gan Gruffudd Parry.[1]

Dyma'r llyfrau cyntaf yn yr oes fodern i roi sylw gweddol fanwl i agweddau ar hanes, llên a daearyddiaeth rannau o'r wlad, ac er nad yw'r ddwy gyfrol am Sir Gaernarfon mor fanwl â'r cyfrolau manwl a gwych gan Ffransis Payne ar Sir Faesyfed, er enghraifft (ag ystyried cyfoeth y deunydd posibl) maent yn well o dipyn na chyfrolau cyntaf y gyfres a ysgrifenwyd gan T.I. Ellis. Ysgrifennir y llyfrau yn null (ond nid arddull) teithlyfrau hen ffasiwn, yn disgrifio taith (ddychmygol mae'n debyg) o gwmpas ardal, a hynny mewn modd darllenadwy a diddorol, heb ymgais i fod yn or-gynhwysol.

Digon hawdd yw dod o hyd i gopïau o'r gyfres, a hynny am bris rhesymol mewn siopau ail-law, er nad ydynt wedi cael eu hailargraffu ers y 1970au. Wedi dyddiau'r gyfres "Crwydro" daeth Cyfres Broydd Cymru o'r 1990au ymlaen, oedd yn tueddu cael eu cyhoeddi i gyfateb i fro'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Ceir mwy o ffeithiau yn y rhain, er efallai eu bod yn fwy pytiog - i weddu ag arferion darllen yr oes o bosib. Fe'u cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch mewn cloddiau meddal.

Cyfeiriadau

  1. Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon, (Llandybïe, 1959); Gruffudd Parry, Crwydro Llŷn ac Eifionydd, (Llandybïe, 1960)