Aelwyd yr Urdd Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Gweithgaredd hynod boblogaidd a llwyddiannus oedd y dramâu a gynhyrchwyd gan [[John Gwilym Jones]], ac a enillodd nifer o weithiau yng nghystadleuthau Clybiau Ieuenctid Arfon. Cynhaliwyd eisteddfodau tŷ hefyd, pan rannwyd yr aelodau'n ddau dîm, ac enilloedd côr yr aelwyd dan arweiniad J.R. Jones yn Eisteddfod yr Urdd.
Gweithgaredd hynod boblogaidd a llwyddiannus oedd y dramâu a gynhyrchwyd gan [[John Gwilym Jones]], ac a enillodd nifer o weithiau yng nghystadleuthau Clybiau Ieuenctid Arfon. Cynhaliwyd eisteddfodau tŷ hefyd, pan rannwyd yr aelodau'n ddau dîm, ac enilloedd côr yr aelwyd dan arweiniad J.R. Jones yn Eisteddfod yr Urdd.


Yn y man symudodd yr aelwyd i [[Neuadd Y Groeslon]] ac ymysg y rhai a fu'n weithgar yn arwain neu gefnogi'r Urdd wedi i Ifor Hughes ymddeol fel arweinydd yr oedd ei fab-yng-nghyfraith, [[Emrys Price-Jones]], [[Elwyn Jones Griffith]], Arythur Evans ac H.R. Williams.<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), tt.102-3</ref>
Yn y man symudodd yr aelwyd i [[Neuadd Y Groeslon]] ac ymysg y rhai a fu'n weithgar yn arwain neu gefnogi'r Urdd wedi i Ifor Hughes ymddeol fel arweinydd yr oedd ei fab-yng-nghyfraith, [[Emrys Price-Jones]], [[Elwyn Jones Griffith]], Arthur Evans ac H.R. Williams.<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), tt.102-3</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 17:56, 1 Tachwedd 2020

Sefydlwyd Aelwyd yr Urdd yn Y Groeslon, gan gychwyn ar safle Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon. Roedd yr ygol wedi bod yn gweithgar ikawn yn cefnogi Eisteddfod yr Urdd ers blynyddoedd ac ym 1941 cafwyd ymweliad gan John Morris, AEM a awgrymodd y gellid sefydlu aelwyd yno. Cafwyd grant o £25 at ei sefydlu. Aeth un o'r athrawon, Ifor Hughes a rhai o'r bechgyn hŷn ati i baentio cwt sinc oedd ar dir yr ysgol, a bu'r aelwyd yn cyfarfod yno am rai blynyddoedd dan arweiniad Ifor Hughes. Cychwynnwyd llyfrgell yno, gyda phrifathro'r ysgol yn prynu pob llyfr Cymraeg newydd i ychwanegu ati.

Ymysg y gweithgareddau yn y blynyddoiedd cynnar, trefnwyd dosbarthiadau nos mewn pynciau megis gwaith coed, gwaith lledr a dawnsio - gerin a modern, i gyd o dan nawdd Pwyllgor Addysg Arfon. Trefnid teithiau cerdded hefyd, megis i ben yr Wyddfa, neu o Feddgelert i Borthmadog. Bu rhai o'r bechgyn yn aros yn hen ysgol Pistyll hefyd mwy nag unwaith. Ar ddechrau'r hydref, trefnid tripiau i fannau megis Manceinion neu Blackpool.

Gweithgaredd hynod boblogaidd a llwyddiannus oedd y dramâu a gynhyrchwyd gan John Gwilym Jones, ac a enillodd nifer o weithiau yng nghystadleuthau Clybiau Ieuenctid Arfon. Cynhaliwyd eisteddfodau tŷ hefyd, pan rannwyd yr aelodau'n ddau dîm, ac enilloedd côr yr aelwyd dan arweiniad J.R. Jones yn Eisteddfod yr Urdd.

Yn y man symudodd yr aelwyd i Neuadd Y Groeslon ac ymysg y rhai a fu'n weithgar yn arwain neu gefnogi'r Urdd wedi i Ifor Hughes ymddeol fel arweinydd yr oedd ei fab-yng-nghyfraith, Emrys Price-Jones, Elwyn Jones Griffith, Arthur Evans ac H.R. Williams.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), tt.102-3