Arglwyddi Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:
* [[Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough]] (1878–1957)
* [[Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough]] (1878–1957)
* [[Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough]] (1877–1965)
* [[Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough]] (1877–1965)
* [[Robert Charles Michael Vaughan Wynn, 7fed Arglwydd Newborough]] (1917–1998)
* [[Michael Vaughan Wynn, 7fed Arglwydd Newborough|Robert Charles Michael Vaughan Wynn, 7fed Arglwydd Newborough]] (1917–1998)
* [[Robert Vaughan Wynn, 8fed Arglwydd Newborough]] (ganwyd 1949)
* [[Robert Vaughan Wynn, 8fed Arglwydd Newborough]] (ganwyd 1949)



Fersiwn yn ôl 13:57, 20 Mai 2020

Mae Arglwyddi Newborough yn dal eu teitl yn Arglwyddyddiaeth Iwerddon, ac mae'r enw Newborough yn cyfeirio at Newborough yn Swydd Llwch Garmon (Wexford), tref sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Guaire neu "Gorey". Am y rheswm hwn, anghywir yw cyfeirio at deulu Arglwyddi Newborough fel "Arglwyddi Niwbwrch". Mae'n debyg mai oherwydd i Thomas Wynn, y Barwn cyntaf, fod yn berchen ar ychydig o leiniau o dir ym mhlwyf Niwbwrch, Ynys Môn, y dewisodd yr enw, trwy weld hwylustod y cyd-ddigwyddiad o ran enw'r ddau le. Fel uchelwyr Gwyddelig, nid oedd ac nid oes gan y pen-teulu a deiliad y teitl unrhyw hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi er mai modd iddynt sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer Tŷ Cyffredin San Steffan. Rhwng diddymiad Senedd Iwerddon ym 1801 a'r adeg pan sicrhaodd Iwerddon ei hannibyniaeth oddi wrth goron Lloegr, roedd nifer bach o arglwyddi Gwyddelig yn cael eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, wedi eu hethol i fod yno gan eu cyd-arglwyddi Gwyddelig. Mae nifer o lythyrau ymysg papurau Glynllifon[1] gan gyd-arglwyddi'r 3ydd Arglwydd yn gofyn am ei gefnogaeth, ond mae'n ymddangos na chafodd Newborough erioed ei demptio i sefyll am le yno.

Crëwyd y teitl ym 1776 i gydnabod gwasanaeth gwleidyddol Syr Thomas Wynn, 3ydd Barwnig, o Glynllifon a Boduan, i Frenin Lloegr, Siôr III.

Er bod y teulu wedi ghwerthu llawer o'u tiroedd yng Ngwynedd, ac yn byw bellach yn y Rug, ger Corwen, maent yn dal yn dirfeddianwyr sylweddol yn Uwchgwyrfai.

Arglwyddi Newborough (o 1776 ymlaen)

Etifedd y teitl yw cefnder yr 8fed Barwn, sef Anthony Charles Vaughan Wynn (ganwyd1949).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Casgliad Newborough, XD2/ passim