William Roberts (Gwilym Glasgoed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 16: Llinell 16:


Ei enw barddol oedd ''Gwilym Glasgoed''.
Ei enw barddol oedd ''Gwilym Glasgoed''.
Ni ddylid ei gymysgu efo'r Parch. [[William Roberts, Bwlan]], gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac un o fyfyrwyr olaf [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]].


[[Categori: Pobl]]
[[Categori: Pobl]]
[[Categori:Offeiriaid]]
[[Categori:Offeiriaid]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]

Fersiwn yn ôl 09:24, 7 Chwefror 2020

Roedd William Roberts yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn o 13 Rhagfyr, 1954 hyd 30 Medi, 1974.

Brodor o Benisa'rwaun. Graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Cymru (Bangor) ym 1939, ac yna bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan. Fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1941 ac yn offeiriad ym 1942.

1941-44 : Curad Llanwnda gyda Llanfaglan

1944-48 : Curad Blaenau Ffestiniog

1948-54 : Rheithor Llanddona gyda Llaniestyn a chapel preifat Wern yr Wylan

1954-74 : Rheithor Llanaelhaearn

Ymddeolodd ym 1974 ac aeth i fyw i Derlwyn, Trefor

Roedd William Roberts hefyd yn barddoni'n gyson a bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol fwy nag unwaith e.e. Emyn Priodas yn Eisteddfod y Barri 1968.

Ei enw barddol oedd Gwilym Glasgoed.

Ni ddylid ei gymysgu efo'r Parch. William Roberts, Bwlan, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac un o fyfyrwyr olaf Ysgol Ragbaratoawl Clynnog.