Teulu Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Llinell 44: Llinell 44:
* Syr [[John Wynn]] (1701-1773), yr ail farwnig, Aelod Seneddol. Fe briododd Jane, merch John Wynne o'r Melai, LLanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, gan gymryd yr ystadau hynny i mewn i [[Ystad Glynllifon]]
* Syr [[John Wynn]] (1701-1773), yr ail farwnig, Aelod Seneddol. Fe briododd Jane, merch John Wynne o'r Melai, LLanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, gan gymryd yr ystadau hynny i mewn i [[Ystad Glynllifon]]
* Syr [[Thomas Wynn]] (1736-1807), y trydydd farwnig a wnaed yn farwn yn yr Arglwyddiaeth Wyddelig, ac a fabwysiadodd y teitl Arglwydd Newborough. Fe briododd merch Iarll Egmont, ac wedyn [[Maria Stella Petronilla Chiappini]]
* Syr [[Thomas Wynn]] (1736-1807), y trydydd farwnig a wnaed yn farwn yn yr Arglwyddiaeth Wyddelig, ac a fabwysiadodd y teitl Arglwydd Newborough. Fe briododd merch Iarll Egmont, ac wedyn [[Maria Stella Petronilla Chiappini]]
* [[Thomas John Wynn, 2il Farwn Newborough]], 1802-1832, Aelod Seneddol 1826 dros Fwrdeistrefi Caernarfon. Bu farw'n ddibriod ac fe'i olynwyd gan ei frawd
* [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough]], 1802-1832, Aelod Seneddol 1826 dros Fwrdeistrefi Caernarfon. Bu farw'n ddibriod ac fe'i olynwyd gan ei frawd
* [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Farwn Newborough]] (1803-1888)
* [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] (1803-1888)
* [[Frederick George Wynn]] (1853-1920), pedwerydd mab Spencer Bulkeley, a etifeddodd Glynllifon a Boduan gan ei dad. Ni briododd. Dyma'r aelod olaf o'r teulu i fyw'n barhaol yng Nglynllifon. Wedi ei farwolaeth, defnyddid y plas gan y teulu fel tŷ ar gyfer ymweliadau achlysrol, gwyliau a phartïon saethu, er bod llawer o'r ystad yn dal yn eu meddiant - hyd yn oed heddiw.
* [[Frederick George Wynn]] (1853-1920), pedwerydd mab Spencer Bulkeley, a etifeddodd Glynllifon a Boduan gan ei dad. Ni briododd. Dyma'r aelod olaf o'r teulu i fyw'n barhaol yng Nglynllifon. Wedi ei farwolaeth, defnyddid y plas gan y teulu fel tŷ ar gyfer ymweliadau achlysrol, gwyliau a phartïon saethu, er bod llawer o'r ystad yn dal yn eu meddiant - hyd yn oed heddiw.



Fersiwn yn ôl 14:32, 11 Tachwedd 2019

Trosolwg

Mae Teulu Glynllifon yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd Uwchgwyrfai, gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod y 16g. fe mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" - roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r nesaf fel oedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan brenhinoedd y Tuduriaid i gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriad yn Lloegr.

Methodd y llinach trwy'r ochr wryw tua diwedd y 17g., pan fu merch hynaf y plas briodi aelod o deulu Boduan, Llŷn oedd yn arddel y cyfenw "Wynn". Ers yr adeg honno, Wynn yw cyfenw'r teulu. Ers 1776, mae mab hynaf y teulu wedi etifeddu teitl, sef Arglwydd Newborough. Mae yna Arglwydd Newborough o hyd, sydd yn dal i fod yn berchennog ar dir yn Uwchgwyrfai.[1]

Penteuluoedd Glynllifon

Y Glynniaid

Yr achres gynnar, lled ansicr

  • Cilmin Droed-ddu, sylfaenydd y teulu a'i gyfoeth yn ôl y chwedl
  • Lleon
  • Llowarch
  • Iddig
  • Iddon
  • Dyfnaint
  • Gwrydyr

Yr achres weddol gadarn o ddiwedd y 13g ymlaen

  • Ednowain, y ffigwr hanesyddol sicr cyntaf yn yr achres, trydydd fab Gwrydyr yn ôl yr achresi. Roedd ei frawd hŷn, Morgeneu Ynad, ail fab Gwrydyr, yn hen hen hen hen daid i Morfudd ferch Hywel a briododd Tudur Goch o Blas Nantlle.
  • Ystrwyth ab Ednowain
  • Iorwerth Goch
  • Ieuan ab Iorwerth
  • Einion ab Ieuan, a briododd Efa, merch ac etifeddes Ifan ap Trahaearn ab Iorwerth o'r Garthmyl, Sir Drefaldwyn
  • Goronwy ab Einion, a briododd Generis ferch Gwyn ab Ednowain ab Eginir ap Meredydd ap Collwyn
  • Tudur Goch o Blas Nantlle, a briododd Morfudd ferch Hywel, ei chyfnither o'r chweched ach, sef ei chweched cyfnither. Roedd hi'n gyd-etifeddes cangen Morgeneu Ynad o deulu Cilmin Droed-ddu, ac felly daeth ddwy ran o etifeddiaeth Cilmin (a bwrw bod Cilmin yn berson go iawn) at ei gilydd, gan gryfhau eiddo'r teulu.

Y teulu a y gwyddys yn sicr eu bod yn byw yng Nglynllifon

  • Hwlcin Llwyd, y cyntaf i'w ddisgrifio fel "o Lynllifon". Priododd Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Môn
  • Meredydd ap Hwlcyn, yn fyw ym 1402
  • Robert ap Meredydd, yn fyw ym 1440
  • Edmund Llwyd, yn marw ym 1540 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Fo oedd ail fab Robert ap Meredydd; roedd ei frawd hŷn, a fabwysiadwyd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anghymwys i etifeddu ystâd
  • William Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1562
  • Thomas Glynn, Uchel Siryf Ynys Môn, 1584, gwr Catherine, merch ac aeres John ap Richard ap Morris o'r Glynn, Llanfwrog, Môn - a ddaeth athiroedd Môn i'r ystâd
  • Syr William Glynn, Uchel Siryf Môn 1597, a wnaed yn farchod ym 1606 yn sgil ei lwyddiant fel milwr yn Iwerddon. Yn marw 1620
  • Thomas Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1622, Aelod Seneddol o 1623 ymlaen. Botanegydd cynnar. Yn marw 1648
  • John Glynn, a aned tua 1644; Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1668-9. Fe briododd Elkizabeth, merch Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro

Ni chafodd fab i'w olynu; priododd yr hynaf o'i ddwy ferch, Frances Glynn A Thomas Wynn, Boduan, Pen Llŷn

Dyma'r llinach wryw wreiddiol a feddianodd Glynllifon rywbryd yn ystod y Canol Oesoedd Cynnar nes i'r llinach wryw fethu yn niwedd y 17g. Fe restrir y penteuluoedd yn nhrefn amser. Mae erthyglau unigol yn Cof y Cwmwd am y rhai mwyaf nodedig ohonynt.

Y Wynniaid

  • Syr Thomas Wynn (1678-1749), Aelod Seneddol, barwnig o Foduan a wnaeth Plas Glynllifon yn brif annedd y teulu wedi iddo a'i wraig Frances Glynn etifeddu'r ystad ar farwolaeth John Glynn.
  • Syr John Wynn (1701-1773), yr ail farwnig, Aelod Seneddol. Fe briododd Jane, merch John Wynne o'r Melai, LLanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, gan gymryd yr ystadau hynny i mewn i Ystad Glynllifon
  • Syr Thomas Wynn (1736-1807), y trydydd farwnig a wnaed yn farwn yn yr Arglwyddiaeth Wyddelig, ac a fabwysiadodd y teitl Arglwydd Newborough. Fe briododd merch Iarll Egmont, ac wedyn Maria Stella Petronilla Chiappini
  • Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, 1802-1832, Aelod Seneddol 1826 dros Fwrdeistrefi Caernarfon. Bu farw'n ddibriod ac fe'i olynwyd gan ei frawd
  • Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough (1803-1888)
  • Frederick George Wynn (1853-1920), pedwerydd mab Spencer Bulkeley, a etifeddodd Glynllifon a Boduan gan ei dad. Ni briododd. Dyma'r aelod olaf o'r teulu i fyw'n barhaol yng Nglynllifon. Wedi ei farwolaeth, defnyddid y plas gan y teulu fel tŷ ar gyfer ymweliadau achlysrol, gwyliau a phartïon saethu, er bod llawer o'r ystad yn dal yn eu meddiant - hyd yn oed heddiw.

Cyfeiriadau

  1. Mae'r brif ffeithiau yn yr erthygl hon i'w canfod yn J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesaey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172-3