Ystad Lleuar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Ystad Lleuar''' yn ystad annibynnol nes iddio gael ei uno ag Ystad Glynllifon, wedi i'r teulu oedd yn eberchen arni fynd yn fethdalwyr. <ref...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Ystad Lleuar''' yn ystad annibynnol nes iddio gael ei uno ag [[Ystad Glynllifon]], wedi i'r teulu oedd yn eberchen arni fynd yn fethdalwyr.
Roedd '''Ystad Lleuar''' yn ystad annibynnol nes iddi gael ei huno ag [[Ystad Glynllifon]], wedi i'r teulu oedd yn berchen arni fynd yn fethdalwyr. Yr aelod cyntaf o'r teulu y mae cofnod ohono yw William Glynne, [[Lleuar]], Sarsiant yn y Gyfraith dan Harri VIII - a briododd wyres anghyfreithlon Harri Tudur (Harri VII). Dichon iddo etifeddu tiroedd Leuar oddi wrth ei dad, [[Robert ap Meredydd]], [[Glynllifon]], a bu ychwanegu at y rhain gan ei ddisgynyddion. Ym 1660, ar farwolaeth ei or-ŵyr, pasiodd y tiroedd i'w ferch Mary Glynn (1633-1676), gwraig [[George Twisleton]]. Ar ôl marwolaeth ei ŵyr (George rhif III) ym 1732 pasiodd y tiroedd i ŵr ei or-wyres Mary  a'i gŵr, y Cadben William Ridsdale, Ripon, Swydd Efrog, ac yntau'n eu gwerthu i [[Thomas Wynn]], A.S., Glynllifon. Yn y cyfamser, yr oedd y teulu wedi morgeisio llawer o'r tir gan eu bod yn wynebu dyledion mawr, a rhaid hefyd oedd setlo'r dyledion. Trwy hyn, ailunwyd rhai o diroedd cynharaf y Glynniaid efo'r prif ystad.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.172-3, 271.</ref>


<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7436</ref>
Rhaid cofio fod ystadau'n grynoadau organig o nifer o ddarnau o eiddo a thrwy'r canrifoedd bu llawer o werthu, prynu, cymynu, morgeisio a chyfnewid ac felly nid yw manylion unrhyw ystad yn aros yn gyson am byth. Mae'r manylion isod yn dod o restr o eiddo, rhenti, tenantiaid a dyledion rhent a anfonwyd at Thomas Wynn, A.S. pan oedd yn ei dŷ yn Stryd Warwig, Golden Square, Llundain ym 1724. Ym 1729, fe brynodd Wynn y morgeisi ar y tir oddi ar y sawl oedd wedi benthyg arian i George Twisleton, sef Samuel Shepheard.
 
Yn ogystal â thiroedd a fferm Lleuar ei hun, mae'r canlynol ar y rhestr y soniwyd amdani uchod:
===Plwyf [[Clynnog Fawr]]===
*Clynnog Plas
*3 thŷ a'u gerddi yng Nglynnog Fawr
*[[Pennarth]]
*Cilcoed
*Carreg Boeth
*Tŷ Coch
*yr efail yng Nghlynnog Fawr
*Penybryn
*Ynys Wyddel
*[[Maesog]]
*Brynhafod Bach
*Bryn Evan
*Hen Bont
*2 ddaliad Cors-y-wlad
*Cae hir
*Tŷ (ac efallai gweithdy) ar gyfer wehydd
*Tŷ Glas
*Ynys yr aren
*Brysgyni
*Glan-y-môr
*Parc Bach
*Pen Rhiwiau
*Melin Glan-y-môr
 
===Plwyf [[Llanaelhaearn]]===
*Moelfre Fawr
*Tyddyn y Drain
*Cae'r Wrach
*Corn Ceiliog
*Caeau Duon
*Llawr Sychnant
*Tyddyn Hir
 
===Plwyf [[Llandwrog]]===
*tir gan Rowland John Rowland
*rhan o gae ("''quillet''") gan William Jones
*rhent gan Humphrey Meredydd, ysw.
 
===Plwyf [[Llanllyfni]]===
*Dolgau
*Llwydcoed Bach
 
===Plwyf [[Llanwnda]]===
*Crynnant
*Gwredog
 
ac, y tu allan i ffinau [[Uwchgwyrfai]],
 
===Tref Caernarfon===
* o leiaf 14 o dai
*Boot (efallai Tafarn y Boot)
*Vaenol House
*cae o fewn ffiniau'r dref
*tanerdy
 
===Plwyf Llangelynnin===
*Gynnal
*rhent oddi wrth Felin Ariannus
*Rhiw
*eiddo yn nwylo Elizabeth Roberts.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7634</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 13:35, 5 Gorffennaf 2019

Roedd Ystad Lleuar yn ystad annibynnol nes iddi gael ei huno ag Ystad Glynllifon, wedi i'r teulu oedd yn berchen arni fynd yn fethdalwyr. Yr aelod cyntaf o'r teulu y mae cofnod ohono yw William Glynne, Lleuar, Sarsiant yn y Gyfraith dan Harri VIII - a briododd wyres anghyfreithlon Harri Tudur (Harri VII). Dichon iddo etifeddu tiroedd Leuar oddi wrth ei dad, Robert ap Meredydd, Glynllifon, a bu ychwanegu at y rhain gan ei ddisgynyddion. Ym 1660, ar farwolaeth ei or-ŵyr, pasiodd y tiroedd i'w ferch Mary Glynn (1633-1676), gwraig George Twisleton. Ar ôl marwolaeth ei ŵyr (George rhif III) ym 1732 pasiodd y tiroedd i ŵr ei or-wyres Mary a'i gŵr, y Cadben William Ridsdale, Ripon, Swydd Efrog, ac yntau'n eu gwerthu i Thomas Wynn, A.S., Glynllifon. Yn y cyfamser, yr oedd y teulu wedi morgeisio llawer o'r tir gan eu bod yn wynebu dyledion mawr, a rhaid hefyd oedd setlo'r dyledion. Trwy hyn, ailunwyd rhai o diroedd cynharaf y Glynniaid efo'r prif ystad.[1]

Rhaid cofio fod ystadau'n grynoadau organig o nifer o ddarnau o eiddo a thrwy'r canrifoedd bu llawer o werthu, prynu, cymynu, morgeisio a chyfnewid ac felly nid yw manylion unrhyw ystad yn aros yn gyson am byth. Mae'r manylion isod yn dod o restr o eiddo, rhenti, tenantiaid a dyledion rhent a anfonwyd at Thomas Wynn, A.S. pan oedd yn ei dŷ yn Stryd Warwig, Golden Square, Llundain ym 1724. Ym 1729, fe brynodd Wynn y morgeisi ar y tir oddi ar y sawl oedd wedi benthyg arian i George Twisleton, sef Samuel Shepheard.

Yn ogystal â thiroedd a fferm Lleuar ei hun, mae'r canlynol ar y rhestr y soniwyd amdani uchod:

Plwyf Clynnog Fawr

  • Clynnog Plas
  • 3 thŷ a'u gerddi yng Nglynnog Fawr
  • Pennarth
  • Cilcoed
  • Carreg Boeth
  • Tŷ Coch
  • yr efail yng Nghlynnog Fawr
  • Penybryn
  • Ynys Wyddel
  • Maesog
  • Brynhafod Bach
  • Bryn Evan
  • Hen Bont
  • 2 ddaliad Cors-y-wlad
  • Cae hir
  • Tŷ (ac efallai gweithdy) ar gyfer wehydd
  • Tŷ Glas
  • Ynys yr aren
  • Brysgyni
  • Glan-y-môr
  • Parc Bach
  • Pen Rhiwiau
  • Melin Glan-y-môr

Plwyf Llanaelhaearn

  • Moelfre Fawr
  • Tyddyn y Drain
  • Cae'r Wrach
  • Corn Ceiliog
  • Caeau Duon
  • Llawr Sychnant
  • Tyddyn Hir

Plwyf Llandwrog

  • tir gan Rowland John Rowland
  • rhan o gae ("quillet") gan William Jones
  • rhent gan Humphrey Meredydd, ysw.

Plwyf Llanllyfni

  • Dolgau
  • Llwydcoed Bach

Plwyf Llanwnda

  • Crynnant
  • Gwredog

ac, y tu allan i ffinau Uwchgwyrfai,

Tref Caernarfon

  • o leiaf 14 o dai
  • Boot (efallai Tafarn y Boot)
  • Vaenol House
  • cae o fewn ffiniau'r dref
  • tanerdy

Plwyf Llangelynnin

  • Gynnal
  • rhent oddi wrth Felin Ariannus
  • Rhiw
  • eiddo yn nwylo Elizabeth Roberts.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3, 271.
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/7634