Pont Plas Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Pont Plas Newydd''' yw'r bont ar ffordd fawr Pwllheli dros [[Afon Llifon]], nid nepell o blasty [[Plas Newydd]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Weithiau, fe gyfeiriwyd ati fel "Pont Llifon".<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/172</ref> Codwyd pont newydd sbon yno tua 1980 pan ledwyd y ffordd, ond bu pont yno ers llawer dydd. | '''Pont Plas Newydd''' yw'r bont ar ffordd fawr Pwllheli dros [[Afon Llifon]], nid nepell o blasty [[Plas Newydd]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Weithiau, fe gyfeiriwyd ati fel "Pont Llifon".<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/172</ref> Codwyd pont newydd sbon yno tua 1980 pan ledwyd y ffordd, ond bu pont yno ers llawer dydd. | ||
Mae'n bosibl mai'r bont gyntaf i'w codi oedd yr un a wnaed yn newydd ym 1776-7 ar orchymyn y Llys Chwater ar y ffordd dyrpeg. Pont dri bwa, un mawr 21 ' ar draws,a dau fach 10'6" ar draws, oedd y bont honno. Tr adeiladwyr oedd Francis Roberts, Coch-y-big, [[Clynnog Fawr]], iwmon; Meyrick Roberts, Brysgyni, Clynnog fawr, saer coed; a Robert Roberts, Clynnog Fawr, saer coed. Roeddent hefyd i godi bont dros [[Afon | Mae'n bosibl mai'r bont gyntaf i'w codi oedd yr un a wnaed yn newydd ym 1776-7 ar orchymyn y Llys Chwater ar y ffordd dyrpeg. Pont dri bwa, un mawr 21 ' ar draws,a dau fach 10'6" ar draws, oedd y bont honno. Tr adeiladwyr oedd Francis Roberts, Coch-y-big, [[Clynnog Fawr]], iwmon; Meyrick Roberts, Brysgyni, Clynnog fawr, saer coed; a Robert Roberts, Clynnog Fawr, saer coed. Roeddent hefyd i godi bont dros [[Afon Weddus]], Clynnog Fawr, a chost y ddwy bont oedd £200 am Bont Llifon a £100 am [[Pont Weddys|Bont Weddys]].<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/169</ref> | ||
Ym 1836, hysbysodd un John Parry ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Hen Dyrpeg Sir Gaernarfon oedd yn gyfrifol am y [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] ei fod am gwyno wrth yr ynadon fod y bont yn "shocking dangerous", yn arbennig y darn o'r ffordd ar ochr Caernarfon i'r bont. Cafodd James Smith, Caernarfon, ymgymerwr ffyrdd, y gwaith o adfer cyflwr y bont a'r ffordd am y gost o £196. | Ym 1836, hysbysodd un John Parry ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Hen Dyrpeg Sir Gaernarfon oedd yn gyfrifol am y [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] ei fod am gwyno wrth yr ynadon fod y bont yn "shocking dangerous", yn arbennig y darn o'r ffordd ar ochr Caernarfon i'r bont. Cafodd James Smith, Caernarfon, ymgymerwr ffyrdd, y gwaith o adfer cyflwr y bont a'r ffordd am y gost o £196. Dichon, fodd bynnag, nad oedd ei waith o'r safon uchaf, gan fod syrfewr y sir John Lloyd wedi dylunio pont lletach ym 1842, gyda thri bwa. Gosodwyd y gwaith i Lewis Williams, Caernarfon.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/83</ref> | ||
Fersiwn yn ôl 13:09, 8 Gorffennaf 2019
Pont Plas Newydd yw'r bont ar ffordd fawr Pwllheli dros Afon Llifon, nid nepell o blasty Plas Newydd ym mhlwyf Llandwrog. Weithiau, fe gyfeiriwyd ati fel "Pont Llifon".[1] Codwyd pont newydd sbon yno tua 1980 pan ledwyd y ffordd, ond bu pont yno ers llawer dydd.
Mae'n bosibl mai'r bont gyntaf i'w codi oedd yr un a wnaed yn newydd ym 1776-7 ar orchymyn y Llys Chwater ar y ffordd dyrpeg. Pont dri bwa, un mawr 21 ' ar draws,a dau fach 10'6" ar draws, oedd y bont honno. Tr adeiladwyr oedd Francis Roberts, Coch-y-big, Clynnog Fawr, iwmon; Meyrick Roberts, Brysgyni, Clynnog fawr, saer coed; a Robert Roberts, Clynnog Fawr, saer coed. Roeddent hefyd i godi bont dros Afon Weddus, Clynnog Fawr, a chost y ddwy bont oedd £200 am Bont Llifon a £100 am Bont Weddys.[2]
Ym 1836, hysbysodd un John Parry ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Hen Dyrpeg Sir Gaernarfon oedd yn gyfrifol am y ffordd dyrpeg ei fod am gwyno wrth yr ynadon fod y bont yn "shocking dangerous", yn arbennig y darn o'r ffordd ar ochr Caernarfon i'r bont. Cafodd James Smith, Caernarfon, ymgymerwr ffyrdd, y gwaith o adfer cyflwr y bont a'r ffordd am y gost o £196. Dichon, fodd bynnag, nad oedd ei waith o'r safon uchaf, gan fod syrfewr y sir John Lloyd wedi dylunio pont lletach ym 1842, gyda thri bwa. Gosodwyd y gwaith i Lewis Williams, Caernarfon.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma