Ynadon Heddwch Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
Roedd y swydd yn Lloegr wedi ei sefydlu dan Ddeddf Ynadon heddwch 1361. Ni ddylid gwneud y camgymeriad, fodd bynnag, nad oedd system hollol drefnus ac effeithiol o gadw trefn cyn hynny, dan y Tywysogion ac wedyn dan reolaeth y Saeson, 1282-1536. Mae'r swydd o ynad yn parhau hyd heddiw, ond cafwyd newidiadau mawr yng nghanol y 19g pan sefydlwyd y Llys Bach (neu Llys yr Heddlu neu Sesiwn Fach) ac wedyn ym 1973, pan sefydlwyd Llys y Goron yn lle'r Llys Chwarter, lle eisteddai ynadon y sir i gyd dan gadeiryddiaeth barnwr profiadol.  

Yn ystod cyfnod y teulu Tudur ar orsaf Lloegr (1485-1603) rhoddwyd mwy a mwy o ddyletswyddau ar ysgwyddau'r ynadon fel nad oeddynt yn cadw trefn yn erbyn troseddwyr yn unig, ond yn fwyfwy'n dod yn reolwyr y siroedd, gyda llawer o ddyletswyddau sifil, megis trwyddedu tafarndai, ysgwyddo cyfrifoldebau am bontydd cyhoeddus, goruchwylio cynnal y tlodion, sicrhau pwysau a mesurau teg, trwyddedu porthmyn a hyd yn oed, yng nghyfnod Oliver Cromwell, gweinyddu priodasau a gorfodu deddfau cadw'r Saboth.
Yn ystod cyfnod y teulu Tudur ar orsaf Lloegr (1485-1603) rhoddwyd mwy a mwy o ddyletswyddau ar ysgwyddau'r ynadon fel nad oeddynt yn cadw trefn yn erbyn troseddwyr yn unig, ond yn fwyfwy'n dod yn reolwyr y siroedd, gyda llawer o ddyletswyddau sifil, megis trwyddedu tafarndai, ysgwyddo cyfrifoldebau am bontydd cyhoeddus, goruchwylio cynnal y tlodion, sicrhau pwysau a mesurau teg, trwyddedu porthmyn a hyd yn oed, yng nghyfnod Oliver Cromwell, gweinyddu priodasau a gorfodi deddfau cadw'r Saboth.

Ceir manylion llawn am hanes a dyletswyddau'r ynadon mewn llyfrau cyffredinol.<ref>Syr Thomas Skyrme, ''Justices of the Peace'' (Chichester, 1991), ac yn arbennig Cyfrol III lle ceir hanes manwl ynadon Cymru; ''The Justices of the Peace in Wales and Monmouthshire, 1541-1689'' (Caerdydd, 1975), tt.IX-XXV; a F.T. Giles, ''The Magistrates Courts'', (Pelican, 1949).</ref>

Llinell 21: Llinell 21:

==Ynadon yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai==
==Ynadon yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai==
Yma fe restrir enwau ynadon sydd â'u cartrefi neu eu prif gysylltiad â'r sir o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Nid yw'r rhestr yn gyflawn, mae'n debyg ac weithiau nid yw'n sicr (a chofio mor gyffredin yw cyfenwau Cymru) pa unigolyn o'r un enw y cyfeirwyd ato. Sylwer mai dynion yn unig a benodwyd hyd at y 20g, a rhaid oedd iddynt fod yn bobl wedi eu haddysgu a'r gallu i ddefnyddio Saesneg yn rugl, gyda safle amlwg yn y gymdeithas, o dras uchel a chyda digon o fodd. At ei gilydd, tirfeddianwyr, sgweiriaid sylweddol ac ambell i offeiriad o dras uchel a benodid. Erbyn hyn, fodd bynnag, ymdrechir at gael croesdoriad o'r gymdeithas leol - ond nid felly y bu a phrin y gellid hawlio bod prawf mewn llys yn brawf o flaen rhai o'r un math a statws â'r cyhuddiedig.
Yma fe restrir enwau ynadon sydd â'u cartrefi neu eu prif gysylltiad â'r sir o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Nid yw'r rhestr yn gyflawn, mae'n debyg ac weithiau nid yw'n sicr (a chofio mor gyffredin yw cyfenwau Cymru) pa unigolyn o'r un enw y cyfeiriwyd ato. Sylwer mai dynion yn unig a benodwyd hyd at y 20g, a rhaid oedd iddynt fod yn bobl wedi eu haddysgu a'r gallu i ddefnyddio Saesneg yn rugl, gyda safle amlwg yn y gymdeithas, o dras uchel a chyda digon o fodd. At ei gilydd, tirfeddianwyr, sgweieriaid sylweddol ac ambell i offeiriad o dras uchel a benodid. Erbyn hyn, fodd bynnag, ymdrechir at gael croestoriad o'r gymdeithas leol - ond nid felly y bu a phrin y gellid hawlio bod prawf mewn llys yn brawf o flaen rhai o'r un math a statws â'r cyhuddedig.
 
Teulu [[Glynllifon]] a'u perthnasau oedd yr unig rai yn Uwchgwyrfai i fyw yn y cwmwd a ddal tiroedd sylweddol yno, ac felly teulu'r Glynniaid oedd llawer iawn o ynadon y cwmwd trwy'r canrifoedd hyd at y 20g.
 
Mae rhestrau o ynadon Uwchgwyrfai ar gael, 1541-1689 mewn llyfr<ref>J.R.S. Phillips, ''The Justices of the Peace in Wales and Monmouthshire, 1541-1689'' (Caerdydd, 1975), tt.17-36</ref>, ond nid yw mor hawdd, heb droi at Gomisiynau'r Heddwch, i ganfod rhai ar ôl y dyddiad hwnnw. Rhoddir dyddiad pan ymddangosir yr ynad am y tro cyntaf yn y cofnodion.,lle mae hynny'n hysbys.
 
William Glyn neu William ap Robert, [[Lleuar]] (1547)
[[William Glyn]], Glynllifon (1552 hyd 1595)
[[Thomas Glyn]], Glynllifon (1595) - ar farwolaeth ei dad, William Glyn
William Glynn, Lleuar (1601)
William Glynn, Glynllifon (1602 hyd 1619)
Huymphrey Meredydd, [[Monachdy Gwyn]] (1605 hyd 1628)
Thomas Glynn, Glynllifon (1621 hyd 1649) - ar farwolaeth ei dad, William Glynn
Thomas Glynn, Nantlle (1625)
[[Edmund Glynn]], 6ed fab Glynllifon, Yr Hendre (1649)
[[John Glynn]], ail fab Glynllifon (1650-1666) - Arglwydd Brif Ustus Cromwell
George Twisleton, Lleuar (1650-1660)
Edmund Glynn, Bryn-y-gwdion (1656)
Thomas Bulkeley, [[Plas Dinas]] (1662-1686)
William Wynn, [[Pengwern]] (1662)
William Wynn, Llanwnda (1662)
Richard Glynn (1663)
John Glynn, ?Glynllifon (1670)
Thomas Glynn, [[Plas Newydd]] (1672)
William Glynn, ?Glynllifon (1680)
George Twisleton, Lleuar (1686)

Mae rhestrau o ynadon Uwchgwyrfai ar gael, 1541-1689 mewn llyfr<ref>J.R.S. Phillips, ''The Justices of the Peace in Wales and Monmouthshire, 1541-1689'' (Caerdydd, 1975), tt.17-36</ref>, ond nid oes fodd hawdd heb droi at Gomisynau'r Heddwch i ganfod rhai ar ol y dydiad hwnnw.

Fersiwn yn ôl 09:59, 24 Mehefin 2019

Penodwyd ynadon heddwch yng Nghymru am y tro cyntaf yn unol â'r Ddeddf Uno (1536), ac yn Sir Gaernarfon mae'n debyg i'r rhai cyntaf gael eu penodi erbyn 1541 os nad yn gynt.

Hanes Cyffredinol

Roedd y swydd yn Lloegr wedi ei sefydlu dan Ddeddf Ynadon heddwch 1361. Ni ddylid gwneud y camgymeriad, fodd bynnag, nad oedd system hollol drefnus ac effeithiol o gadw trefn cyn hynny, dan y Tywysogion ac wedyn dan reolaeth y Saeson, 1282-1536. Mae'r swydd o ynad yn parhau hyd heddiw, ond cafwyd newidiadau mawr yng nghanol y 19g pan sefydlwyd y Llys Bach (neu Llys yr Heddlu neu Sesiwn Fach) ac wedyn ym 1973, pan sefydlwyd Llys y Goron yn lle'r Llys Chwarter, lle eisteddai ynadon y sir i gyd dan gadeiryddiaeth barnwr profiadol.

Yn ystod cyfnod y teulu Tudur ar orsaf Lloegr (1485-1603) rhoddwyd mwy a mwy o ddyletswyddau ar ysgwyddau'r ynadon fel nad oeddynt yn cadw trefn yn erbyn troseddwyr yn unig, ond yn fwyfwy'n dod yn reolwyr y siroedd, gyda llawer o ddyletswyddau sifil, megis trwyddedu tafarndai, ysgwyddo cyfrifoldebau am bontydd cyhoeddus, goruchwylio cynnal y tlodion, sicrhau pwysau a mesurau teg, trwyddedu porthmyn a hyd yn oed, yng nghyfnod Oliver Cromwell, gweinyddu priodasau a gorfodi deddfau cadw'r Saboth.

Ceir manylion llawn am hanes a dyletswyddau'r ynadon mewn llyfrau cyffredinol.[1]

Llysoedd yr Ynadon

O 1541 ymlaen, hyd 1973, arferai ynadon y sir (neu'n hytrach y rhai ohonynt a oedd yn byw'n weddol leol ac yn cymryd eu dyletswyddau o ddifrif) gwrdd bedair gwaith y flwyddyn yn Llys y Sesiwn Chwarter, a gynhelid fel arfer yng Nghaernarfon (ond yn ystod y 16g, weithiau yng Nghonwy). Yno y trafodwyd materion sirol a deliwyd gyda throseddwyr a oedd wedi eu hanfon at y llys gan ynadon yn gweithredu'n unigol. Os oedd angen nifer o dystion lleol mewn ardal ymhell o Gaernarfon, neu os oedd y llys wedi methu â chwblhau ei fusnes ar y diwrnod, cynhelid sesiynau gohiriedig mewn mannau ar draws y sir. Mae hanes o lysoedd gohiriedig yn cael eu cynnal, er enghraifft, ym Metws Gwernrhiw yn Llandwrog yn y 17g.

Tan ganol y 19g, nid oedd sesiynau lleol lle cwrddai ynadon ardal fel arfer, a gweithredodd ynad yn ol ei ddoethineb, gan rwymo torwyr yr heddwch i ymddwyn yn heddychlon a thraddodi drwgweithredwyr gwaeth (megis terfysgwyr, lladron a'u tebyg) i sefyll eu prawf yn y llys chwarter. Gallai ynad gymryd datganiadau gan dystion neu achwynwyr, cyhoeddi gwarantau arestio a weithredid gan gwnstabaliaid lleol, ac wedyn cynnal croesholiadau y rhai a gyhuddwyd. Nid yw'n glir, fodd bynnag, i ba raddau y defnyddid y pŵer i garcharu neu ddirwyo drwgweithredwyr y tua llan i lys ffurfiol. Dylid cymryd hanesion y sgweier ac ynad lleol yn cosbi potswyr (er enghraifft) gyda phinsiad o halen mae'n debyg.

O ganol y 19g ymlaen, datblygodd system o feinciau lleol a oedd yn cynnal eu sesiynau lleol i ddelio gyda throseddau andditadwy (non-indictable), sef troseddau bychan - mân gwffio, mân ladrata ac yn y blaen. Roedd gan y trefi fel Caernarfon eu meinciau eu hunain, ond roedd y rhan fwyaf o Uwchgwyrfai yn syrthio y tu fewn i diriogaeth mainc Uwchgwyrfai - dim ond plwyf Llanaelhaearn a oedd yn ddiweddarach yn rhan o ardal mainc Llŷn. Parhaodd mainc Gwyrfai hyd 1984, pan unwyd hi gyda mainc Caernarfon. Erbyn hyn, gyda uniadau diweddar, un fainc sy'n delio gyda holl faterion Gwynedd a Môn.

Swyddog y llys yw Clerc yr Heddwch. Fel arfer, penodwyd rhywun oedd yn hyddysg yn y Gyfraith, ac yn fab i fonheddwr.

Penodi ynadon

Mae'r cyfrifoldeb am benodi ynadon yng Nghymru yn nwylo'r Arglwydd Ganghellor ar gymeradwyaeth Arglwydd Raglaw y Sir, a dyna sut mae hi wedi bod ers 1536. Cyhoeddir "Comisiwn yr Heddwch" ar ddechrau teyrnasiad pob brenin Lloegr; mae hwn yn ddogfen sy'n rhestru'r rhai o fewn ffiniau'r sir sydd yn cael gweithredu fel ynadon heddwch. Ychwanegir at y Comisiwn pan y penodir ynadon ychwanegol newydd, ac weithiau cyhoeddid Comisiwn newydd diwygiedig yn ystod teyrnasiad brenin pe bai angen gwneud newidiadau mawr. Ers y 19g fodd bynnag, er bod pob ynad yn cael ei enwi ar y Comisiwn sirol, rhoddir fo neu hi ar fainc benodol o fewn y sir.

Ynadon yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai

Yma fe restrir enwau ynadon sydd â'u cartrefi neu eu prif gysylltiad â'r sir o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Nid yw'r rhestr yn gyflawn, mae'n debyg ac weithiau nid yw'n sicr (a chofio mor gyffredin yw cyfenwau Cymru) pa unigolyn o'r un enw y cyfeiriwyd ato. Sylwer mai dynion yn unig a benodwyd hyd at y 20g, a rhaid oedd iddynt fod yn bobl wedi eu haddysgu a'r gallu i ddefnyddio Saesneg yn rugl, gyda safle amlwg yn y gymdeithas, o dras uchel a chyda digon o fodd. At ei gilydd, tirfeddianwyr, sgweieriaid sylweddol ac ambell i offeiriad o dras uchel a benodid. Erbyn hyn, fodd bynnag, ymdrechir at gael croestoriad o'r gymdeithas leol - ond nid felly y bu a phrin y gellid hawlio bod prawf mewn llys yn brawf o flaen rhai o'r un math a statws â'r cyhuddedig.

Teulu Glynllifon a'u perthnasau oedd yr unig rai yn Uwchgwyrfai i fyw yn y cwmwd a ddal tiroedd sylweddol yno, ac felly teulu'r Glynniaid oedd llawer iawn o ynadon y cwmwd trwy'r canrifoedd hyd at y 20g.

Mae rhestrau o ynadon Uwchgwyrfai ar gael, 1541-1689 mewn llyfr[2], ond nid yw mor hawdd, heb droi at Gomisiynau'r Heddwch, i ganfod rhai ar ôl y dyddiad hwnnw. Rhoddir dyddiad pan ymddangosir yr ynad am y tro cyntaf yn y cofnodion.,lle mae hynny'n hysbys.

William Glyn neu William ap Robert, Lleuar (1547) William Glyn, Glynllifon (1552 hyd 1595) Thomas Glyn, Glynllifon (1595) - ar farwolaeth ei dad, William Glyn William Glynn, Lleuar (1601) William Glynn, Glynllifon (1602 hyd 1619) Huymphrey Meredydd, Monachdy Gwyn (1605 hyd 1628) Thomas Glynn, Glynllifon (1621 hyd 1649) - ar farwolaeth ei dad, William Glynn Thomas Glynn, Nantlle (1625) Edmund Glynn, 6ed fab Glynllifon, Yr Hendre (1649) John Glynn, ail fab Glynllifon (1650-1666) - Arglwydd Brif Ustus Cromwell George Twisleton, Lleuar (1650-1660) Edmund Glynn, Bryn-y-gwdion (1656) Thomas Bulkeley, Plas Dinas (1662-1686) William Wynn, Pengwern (1662) William Wynn, Llanwnda (1662) Richard Glynn (1663) John Glynn, ?Glynllifon (1670) Thomas Glynn, Plas Newydd (1672) William Glynn, ?Glynllifon (1680) George Twisleton, Lleuar (1686)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Syr Thomas Skyrme, Justices of the Peace (Chichester, 1991), ac yn arbennig Cyfrol III lle ceir hanes manwl ynadon Cymru; The Justices of the Peace in Wales and Monmouthshire, 1541-1689 (Caerdydd, 1975), tt.IX-XXV; a F.T. Giles, The Magistrates Courts, (Pelican, 1949).
  2. J.R.S. Phillips, The Justices of the Peace in Wales and Monmouthshire, 1541-1689 (Caerdydd, 1975), tt.17-36