Llyn y Dywarchen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill , oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.

Roedd tŷ a godwyd gan deulu [[Drws-y-coed]] ar gyfer [[Morafiaid Drws-y-coed]] a ymsefydlodd yn yr ardalyn sefyll le mae maes parcio bychan yn awr.  
Roedd tŷ a godwyd gan deulu [[Drws-y-coed]] ar gyfer [[Morafiaid Drws-y-Coed]] a ymsefydlodd yn yr ardalyn sefyll le mae maes parcio bychan yn awr.  

Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.
Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.

Fersiwn yn ôl 16:53, 13 Mehefin 2019

Mae Llyn y Dywarchen bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf Llanwnda ac felly o fewn Uwchgwyrfai. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau am ddŵr, ond mae'r llyn yn un naturiol ac â hanes hir iddo, gan fod Gerallt Cymro yn cyfeirio at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn. Tua 600 mlynedd wedyn, honodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith.

Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill , oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.

Roedd tŷ a godwyd gan deulu Drws-y-coed ar gyfer Morafiaid Drws-y-Coed a ymsefydlodd yn yr ardalyn sefyll le mae maes parcio bychan yn awr.

Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.

Ar un adeg roedd nant yn llifo o'r llyn tua'r gorllewin ar hyd Dyffryn Nantlle, ond ers i'r argae gael ei adeiladu mae nant yn llifo i lawr i Lyn y Gader ac Afon Gwyrfai.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia [1] cyrchwyd 13.6.2019