Teulu Cwellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Mae Hugh ac Ann ei wraig, ynghyd â'u mab Philip a'i ferch yntau, Catherine, yn cael eu coffáu ar gofebion ar waliau [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]; ac mae carreg fedd Ellis Quellyn ar lawr yr eglwys.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.220</ref> Er bod Cwellyn mor bell o'r eglwys - tua chwech neu saith milltir - gan fod y tŷ ym mhlwyf Llanwnda, yn y fan honno y cleddid y teulu, er bod eglwysi [[Betws Garmon]] a Beddgelert yn nes o dipyn. | Mae Hugh ac Ann ei wraig, ynghyd â'u mab Philip a'i ferch yntau, Catherine, yn cael eu coffáu ar gofebion ar waliau [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]; ac mae carreg fedd Ellis Quellyn ar lawr yr eglwys.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.220</ref> Er bod Cwellyn mor bell o'r eglwys - tua chwech neu saith milltir - gan fod y tŷ ym mhlwyf Llanwnda, yn y fan honno y cleddid y teulu, er bod eglwysi [[Betws Garmon]] a Beddgelert yn nes o dipyn. | ||
Priododd William, ail fab Ellis Quellyn, â Jonet Williams, o Laniestyn ym Mhen Llŷn ym 1695.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llaniestyn</ref> Cawsant ddwy ferch, un Grace a aeth, mae'n debyg i Lundain: cofnodir priodas James Williams, gŵr di-briod a Grace Quellyn, gwraig ddi-briod, y ddau o blwyf St Clement Danes, San Steffan, Llundain yn eglwys y plwyf yno, 2 Chwefror 1745.<ref>Cofrestr Plwyf St Clement Danes, 1745.</ref> Nodir fod gan William ddwy ferch, ond yn ei ewyllys (1719), enwir dim ond Grace gan Ellis Quellyn gan ei fod ( | Priododd William, ail fab Ellis Quellyn, â Jonet Williams, o Laniestyn ym Mhen Llŷn ym 1695.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llaniestyn</ref> Cawsant ddwy ferch, un Grace a aeth, mae'n debyg i Lundain: cofnodir priodas James Williams, gŵr di-briod a Grace Quellyn, gwraig ddi-briod, y ddau o blwyf St Clement Danes, San Steffan, Llundain yn eglwys y plwyf yno, 2 Chwefror 1745.<ref>Cofrestr Plwyf St Clement Danes, 1745.</ref> Nodir fod gan William ddwy ferch, ond yn ei ewyllys (1719), enwir dim ond Grace gan Ellis Quellyn gan ei fod (meddai) wedi anghofio enw'r llall!<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1719/63.</ref> | ||
O'r plant hyn o'r ddwy briodas, hyd y gwyddys, dim ond Philip oedd â phlentyn, sef merch, Catherine, a fu farw yn 7 mis oed ym 1746.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.229, 361.</ref> | O'r plant hyn o'r ddwy briodas, hyd y gwyddys, dim ond Philip oedd â phlentyn, sef merch, Catherine, a fu farw yn 7 mis oed ym 1746.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.229, 361.</ref> | ||
Mae'n bosibl iawn fod y cyfenw bellach wedi diflannu, yn ôl tystiolaeth gwefan achyddiaeth ''Find My Past'', lle nad oes ond un farwolaeth wedi ei chofnodi ers canrif a mwy, sef Susanna Quellyn o Fanceinion ym 1995.<ref>Gwefan ''Find My Past'', cyrchwyd 3.6.2019, [https://www.findmypast.co.uk/search/results?lastname=quellyn&sourcecountry]</ref> Mae cwmni o werthwyr gwin o Gaer gyda'r enw Quellyn | Er bod Ellis Quellyn yn galw ei hun yn fonheddwr ("''Gent.''"), dim ond rhyw !15 oedd ei werth o wedi iddo farw yn ôl rhestr o'i holl eiddo. Mae'n ddiddorol i nodi hefyd mai ffermio Cwm Bychan ym mhlwyf Llanwnda oedd o, er nad oedd ganddo ond dwy fuwch yno - er rhaid cofio ei fod yn bur hen yn marw. | ||
Mae'n bosibl iawn fod y cyfenw bellach wedi diflannu, yn ôl tystiolaeth gwefan achyddiaeth ''Find My Past'', lle nad oes ond un farwolaeth wedi ei chofnodi ers canrif a mwy, sef Susanna Quellyn o Fanceinion ym 1995.<ref>Gwefan ''Find My Past'', cyrchwyd 3.6.2019, [https://www.findmypast.co.uk/search/results?lastname=quellyn&sourcecountry]</ref> Mae cwmni o werthwyr gwin o Gaer gyda'r enw Quellyn Roberts sy'n dal i fod. Ceir cofnod yn Archifdy Swydd Gaer am forgais a wnaed gan Thomas Quellyn Roberts ym 1877.<ref>Archifdy Swydd Gaer, ZC21C/28.</ref> | |||
Fersiwn yn ôl 18:13, 4 Mehefin 2019
Mae Teulu Cwellyn wedi mabwysiadu eu cyfenw oddi wrth eu cartref, sef plasty bach Cwellyn - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i deulu'r Glynniaid, Glynllifon). Arferid sillafu'r cyfenw yn Quellyn.
Roedd y teulu'n disgynyddion honedig Cilmin Droed-ddu, fel Teulu Glynllifon, trwy Gruffydd ap Tudur Goch ap Grono ab Eibion ab Ifan ab Iorwerth Goch ab Ystrwyth ab Ednowain. Roedd Gruffydd yn frawd hŷn Hwlcyn Llwyd, sylfaenydd tras Glynllifon. Bu i or-or-ŵyr Gruffydd, William Williams briodi Jane, cyd-aeres William Peak o Gaernarfon tua 1610-20. Eu mab nhw, Morgan Williams, a fabwysiadodd y cyfenw Quellyn.
Mab Morgan oedd Ellis Quellyn (bu farw 1719) a briododd Grace, merch Hugh Wynn, Pengwern, Llanwnda. Cafodd y rhain nifer o blant, sef Hugh (1670-1749), William a Margaret.
Plant Hugh, a'i wraig Ann Williams, merch rheithor Llandwrog, (1678-1730) oedd William (1699-1725) a fynychodd Coleg Sant Ioan, Caergrawnt (ac mae hyn yn dangos cyfoeth cymharol y teulu), Jane (marw 1703), Philip (1704-1782) a briododd Mary Stodart o Ddeganwy, a Mary (1714-1789) a briododd Rice Williams, rheithor Llandwrog.
Mae Hugh ac Ann ei wraig, ynghyd â'u mab Philip a'i ferch yntau, Catherine, yn cael eu coffáu ar gofebion ar waliau Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda; ac mae carreg fedd Ellis Quellyn ar lawr yr eglwys.[1] Er bod Cwellyn mor bell o'r eglwys - tua chwech neu saith milltir - gan fod y tŷ ym mhlwyf Llanwnda, yn y fan honno y cleddid y teulu, er bod eglwysi Betws Garmon a Beddgelert yn nes o dipyn.
Priododd William, ail fab Ellis Quellyn, â Jonet Williams, o Laniestyn ym Mhen Llŷn ym 1695.[2] Cawsant ddwy ferch, un Grace a aeth, mae'n debyg i Lundain: cofnodir priodas James Williams, gŵr di-briod a Grace Quellyn, gwraig ddi-briod, y ddau o blwyf St Clement Danes, San Steffan, Llundain yn eglwys y plwyf yno, 2 Chwefror 1745.[3] Nodir fod gan William ddwy ferch, ond yn ei ewyllys (1719), enwir dim ond Grace gan Ellis Quellyn gan ei fod (meddai) wedi anghofio enw'r llall![4]
O'r plant hyn o'r ddwy briodas, hyd y gwyddys, dim ond Philip oedd â phlentyn, sef merch, Catherine, a fu farw yn 7 mis oed ym 1746.[5]
Er bod Ellis Quellyn yn galw ei hun yn fonheddwr ("Gent."), dim ond rhyw !15 oedd ei werth o wedi iddo farw yn ôl rhestr o'i holl eiddo. Mae'n ddiddorol i nodi hefyd mai ffermio Cwm Bychan ym mhlwyf Llanwnda oedd o, er nad oedd ganddo ond dwy fuwch yno - er rhaid cofio ei fod yn bur hen yn marw.
Mae'n bosibl iawn fod y cyfenw bellach wedi diflannu, yn ôl tystiolaeth gwefan achyddiaeth Find My Past, lle nad oes ond un farwolaeth wedi ei chofnodi ers canrif a mwy, sef Susanna Quellyn o Fanceinion ym 1995.[6] Mae cwmni o werthwyr gwin o Gaer gyda'r enw Quellyn Roberts sy'n dal i fod. Ceir cofnod yn Archifdy Swydd Gaer am forgais a wnaed gan Thomas Quellyn Roberts ym 1877.[7]
Cyfeiriadau
- ↑ Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.220
- ↑ Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llaniestyn
- ↑ Cofrestr Plwyf St Clement Danes, 1745.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1719/63.
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.229, 361.
- ↑ Gwefan Find My Past, cyrchwyd 3.6.2019, [1]
- ↑ Archifdy Swydd Gaer, ZC21C/28.