Carmel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:


==Addysg==
==Addysg==
Tyfodd y pentref yn sylweddol rhwng 1890 a 1910, a chodwyd ysgol ar gyfer babanod yn unig yn ystod y 1890au - roedd plant yn mynychu [[Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon]]. Bu'r ysgol (wedi'i helaethu i gymryd plant hyd at 11 oed) yno nes iddi gael ei huno ag [[Ysgol Gynradd Bro Lleu]] ar safle [[Ysgol Gynradd y Groeslon]] yn 2016.  
Tyfodd y pentref yn sylweddol rhwng 1890 a 1910, a chodwyd ysgol ar gyfer babanod yn unig yn ystod y 1890au - roedd plant yn mynychu [[Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon]]. Bu'r ysgol (wedi'i helaethu i gymryd plant hyd at 11 oed) yno nes iddi gael ei huno ag [[Ysgol Bro Lleu]] ar safle [[Ysgol y Groeslon]] yn 2016.  


==Busnesau ac adnoddau lleol==
==Busnesau ac adnoddau lleol==

Fersiwn yn ôl 17:36, 15 Mehefin 2019

Mae Carmel yn bentref ym mhlwyf Llandwrog.

Lleoliad

Mae tua milltir i'r dwyrain o'r Groeslon i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf Mynydd Cilgwyn. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf Llandwrog i'r Fron yn croesi'r lôn o bentref Pen-y-groes i gyfeiriad Rhosgadfan. Mae'r tai hynaf (ar wahân i hen dyddynod gwasgaredig) yw'r tai teras sydd yn wynebu'r môr y ddwy ochr i lôn y Fron, sef Rhes Pisgah a Rhes Carmel.

Addysg

Tyfodd y pentref yn sylweddol rhwng 1890 a 1910, a chodwyd ysgol ar gyfer babanod yn unig yn ystod y 1890au - roedd plant yn mynychu Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon. Bu'r ysgol (wedi'i helaethu i gymryd plant hyd at 11 oed) yno nes iddi gael ei huno ag Ysgol Bro Lleu ar safle Ysgol y Groeslon yn 2016.

Busnesau ac adnoddau lleol

Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015. Roedd modurdy hefyd yn y pentref, ac mae honno'n dal yn agored ar gyfer trwsio ceir (sef "Garej Robin Alun"), fel mae busnes werthu glo.

Busnes newydd ffyniannus yw ysgol yrru lorïau a chwmni bysiau.

Crefydd

Mae'r pentref yn cael ei enw ar ôl Capel Carmel (MC). Chwalwyd y capel mawr gwreiddiol gan godi capel newydd ar safle'r festri. Capeli eraill y pentref oedd Capel Pisgah, sef capel yr Annibynwyr, a Chapel Pisgah arall gan y Bedyddwyr Neilltuol. Mae mynwent gan Gapel Pisgah a cheir yma hefyd fynwent a gynhelir gan y Cyngor Cymuned, gyda rhan wedi ei chysegru gan yr Eglwys yng Nghymru tua 1980. Bellach, trowyd Pisgah yn fflatiau, ac mae hen gapel Pisgah y Bedyddwyr Neilltuol yn cael ei ddefnyddio gan fudiad Uniongred.

Enwogion y pentref

Ymysg y rhai a hanai, neu sy'n hanu, o Garmel y mae'r ddau frawd

ac hefyd

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma