Pengwern: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pengwern''' yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf [[Llanwnda]] i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a [[Llandwrog]]. Arferai fod yn blasty lle trigai teuluoedd dylanwadol yn y sir.
Mae '''Pengwern''' yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf [[Llanwnda]] i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a [[Llandwrog]]. Arferai fod yn blasty lle trigai teuluoedd dylanwadol yn y sir.


Mae'n bosibl mai'r dyn cynharaf y mae sôn amdano'n byw yn y Pengwern oedd un Dafydd ap Siencyn a gafodd ei erlyn ym 1330 am fasnachu y tu allan i dref Caernarfon (lle oedd gan y Saeson a setlwyd yno fonopoli o'r fasnach leol). Nid yw'n hollol glir a oedd teulu'r Wynniaid, a ddaeth i fyw yn y Pengwern, yn ddisgynyddion i'r gŵr hwnnw, ond mae sicrwydd ynglŷn â'r olyniaeth. Madog ab Ieuan ap Gruffydd ab Ieuan yn wreiddiol o Blas-du, Llanarmon, Eifionydd oedd yn byw yno tan ei farwolaeth rywbryd cyn 1547. Yn y man, etifeddodd ei fab, William ap Madog, Bengwern, gan fynd ati i helaethu ffiniau'r ystâd,  a hynny yn erbyn hawliau perchnogionystadau Coed Alun, [[Glynllifon]] a {{Plas Newydd|Phlas Newydd]]. Cafodd lawer o ymosodiadau ac achosion llys yn ei erbyn ond daliai ei afael ar y tiroedd ehangach. Roedd ganddo fab a merch, Huw Gwyn (m.1623) a Sioned (a briododd John ap Wiliam Gruffydd o'r Nant, Betws Garmon, sylfaenydd teulu Rowlands, Plas Tirion). Priododd William Pugh Gwyn, ei fab, ferch o Ynys Môn, Margred Holland, ac ar  ol marwolaeth Huw Pugh Gwyn, ail-briododd ag Owen Meredydd o'r [[Mynachdy Gwyn]], [[Clynnog Fawr]]. Dyma adeg adeiladu melin newydd, [[Melin y Bont-faen]] ar yr ystâd.
Mae'n bosibl mai'r dyn cynharaf y mae sôn amdano'n byw yn y Pengwern oedd un Dafydd ap Siencyn a gafodd ei erlyn ym 1330 am fasnachu y tu allan i dref Caernarfon (lle oedd gan y Saeson a setlwyd yno fonopoli o'r fasnach leol). Nid yw'n hollol glir a oedd teulu'r Wynniaid, a ddaeth i fyw yn y Pengwern, yn ddisgynyddion i'r gŵr hwnnw, ond mae sicrwydd ynglŷn â'r olyniaeth. Madog ab Ieuan ap Gruffydd ab Ieuan yn wreiddiol o Blas-du, Llanarmon, Eifionydd oedd yn byw yno tan ei farwolaeth rywbryd cyn 1547. Yn y man, etifeddodd ei fab, William ap Madog, Bengwern, gan fynd ati i helaethu ffiniau'r ystâd,  a hynny yn erbyn hawliau perchnogionystadau Coed Alun, [[Glynllifon]] a [[Plas Newydd|Phlas Newydd]]. Cafodd lawer o ymosodiadau ac achosion llys yn ei erbyn ond daliai ei afael ar y tiroedd ehangach. Roedd ganddo fab a merch, Huw Gwyn (m.1623) a Sioned (a briododd John ap Wiliam Gruffydd o'r Nant, Betws Garmon, sylfaenydd teulu Rowlands, Plas Tirion). Priododd William Pugh Gwyn, ei fab, ferch o Ynys Môn, Margred Holland, ac ar  ol marwolaeth Huw Pugh Gwyn, ail-briododd ag Owen Meredydd o'r [[Mynachdy Gwyn]], [[Clynnog Fawr]]. Dyma adeg adeiladu melin newydd, [[Melin y Bont-faen]] ar yr ystâd.


Oherwydd i Huw Gwyn farw a'i weddw'n ail-briodi, cafwyd ffrae am flynyddoedd ynglŷn â pherchnogaeth yr ystâd. Yn y diwedd cafodd teulu Mynachdy Gwyn y Pengwern a rhan o'r tiroedd, a wyrion Huw Pugh Gwyn ran arall o'r eiddo sef [[Plas Llanwnda]]. Nid oedd perthynas waed i Madog ab Ieuan bellach yn byw yn y Pengwern. Yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r ystad bellach, ac yn eiddo i deulu Meredydd, oedd y Pengwern, y Geufron, Tŷ'n Rhos, Tŷ Cerrig a Thŷ'n Lôn. John Meredydd oedd y sgweiar erbyn hynny (neu'n fuan wedyn), a chododd dŷ newydd yn y Pengwern. Chwalwyd y tŷ hwnnw mor ddiweddar â 1906 oherwydd ei waliau trwchus, ffenestri bychain a lloriau isel ac anwastad (yn ôl W Gilbert Williams, oedd yn gyfarwydd a'r tŷ fel prifathro'r ysgol leol ar y pryd. Bu farw Sion (neu John) Meredydd ym 1700, gan gael ei gladdu yn [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]. Ceir rhai trawstiau o'r hen dŷ yn y tŷ newydd. Olynwyd John Meredydd gan ei fab Hwmffre, a'i fab yntau, Hwmffre arall, oedd un o ddynion pwysicaf yn y sir, yn Uchel Siryf yn 1734, ac yn ynad heddwch. Meurig Meredydd oedd yr olaf o sgweiriaid y Pengwern, ystâd sylweddol erbyn hynny ym mhlwyf Llanwnda a'r gymdogaeth. Priododd aeres Meurig, Anna Maria, â John Mostyn o Segrwyd, Dinbych. Bu farw honno ym 1823, a gwerthwyd yr ystâd yn ffermydd unigol.
Oherwydd i Huw Gwyn farw a'i weddw'n ail-briodi, cafwyd ffrae am flynyddoedd ynglŷn â pherchnogaeth yr ystâd. Yn y diwedd cafodd teulu Mynachdy Gwyn y Pengwern a rhan o'r tiroedd, a wyrion Huw Pugh Gwyn ran arall o'r eiddo sef [[Plas Llanwnda]]. Nid oedd perthynas waed i Madog ab Ieuan bellach yn byw yn y Pengwern. Yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r ystad bellach, ac yn eiddo i deulu Meredydd, oedd y Pengwern, y Geufron, Tŷ'n Rhos, Tŷ Cerrig a Thŷ'n Lôn. John Meredydd oedd y sgweiar erbyn hynny (neu'n fuan wedyn), a chododd dŷ newydd yn y Pengwern. Chwalwyd y tŷ hwnnw mor ddiweddar â 1906 oherwydd ei waliau trwchus, ffenestri bychain a lloriau isel ac anwastad (yn ôl W. Gilbert Williams, oedd yn gyfarwydd a'r tŷ fel prifathro'r ysgol leol ar y pryd. Bu farw Sion (neu John) Meredydd ym 1700, gan gael ei gladdu yn [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]. Ceir rhai trawstiau o'r hen dŷ yn y tŷ newydd. Olynwyd John Meredydd gan ei fab Hwmffre, a'i fab yntau, Hwmffre arall, oedd un o ddynion pwysicaf yn y sir, yn Uchel Siryf yn 1734, ac yn ynad heddwch. Meurig Meredydd oedd yr olaf o sgweiriaid y Pengwern, ystâd sylweddol erbyn hynny ym mhlwyf Llanwnda a'r gymdogaeth. Priododd aeres Meurig, Anna Maria, â John Mostyn o Segrwyd, Dinbych. Bu farw honno ym 1823, a gwerthwyd yr ystâd yn ffermydd unigol.<ref>Seiliwyd yr erthygl yn y ffurf gychwynnol hon ar w. Gilbert Williams, ''Hen Deuluoedd Lanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)'', Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon (Cyf.4, 1942-3), tt.19-34.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Plastai]]

Fersiwn yn ôl 12:02, 31 Awst 2018

Mae Pengwern yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf Llanwnda i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a Llandwrog. Arferai fod yn blasty lle trigai teuluoedd dylanwadol yn y sir.

Mae'n bosibl mai'r dyn cynharaf y mae sôn amdano'n byw yn y Pengwern oedd un Dafydd ap Siencyn a gafodd ei erlyn ym 1330 am fasnachu y tu allan i dref Caernarfon (lle oedd gan y Saeson a setlwyd yno fonopoli o'r fasnach leol). Nid yw'n hollol glir a oedd teulu'r Wynniaid, a ddaeth i fyw yn y Pengwern, yn ddisgynyddion i'r gŵr hwnnw, ond mae sicrwydd ynglŷn â'r olyniaeth. Madog ab Ieuan ap Gruffydd ab Ieuan yn wreiddiol o Blas-du, Llanarmon, Eifionydd oedd yn byw yno tan ei farwolaeth rywbryd cyn 1547. Yn y man, etifeddodd ei fab, William ap Madog, Bengwern, gan fynd ati i helaethu ffiniau'r ystâd, a hynny yn erbyn hawliau perchnogionystadau Coed Alun, Glynllifon a Phlas Newydd. Cafodd lawer o ymosodiadau ac achosion llys yn ei erbyn ond daliai ei afael ar y tiroedd ehangach. Roedd ganddo fab a merch, Huw Gwyn (m.1623) a Sioned (a briododd John ap Wiliam Gruffydd o'r Nant, Betws Garmon, sylfaenydd teulu Rowlands, Plas Tirion). Priododd William Pugh Gwyn, ei fab, ferch o Ynys Môn, Margred Holland, ac ar ol marwolaeth Huw Pugh Gwyn, ail-briododd ag Owen Meredydd o'r Mynachdy Gwyn, Clynnog Fawr. Dyma adeg adeiladu melin newydd, Melin y Bont-faen ar yr ystâd.

Oherwydd i Huw Gwyn farw a'i weddw'n ail-briodi, cafwyd ffrae am flynyddoedd ynglŷn â pherchnogaeth yr ystâd. Yn y diwedd cafodd teulu Mynachdy Gwyn y Pengwern a rhan o'r tiroedd, a wyrion Huw Pugh Gwyn ran arall o'r eiddo sef Plas Llanwnda. Nid oedd perthynas waed i Madog ab Ieuan bellach yn byw yn y Pengwern. Yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r ystad bellach, ac yn eiddo i deulu Meredydd, oedd y Pengwern, y Geufron, Tŷ'n Rhos, Tŷ Cerrig a Thŷ'n Lôn. John Meredydd oedd y sgweiar erbyn hynny (neu'n fuan wedyn), a chododd dŷ newydd yn y Pengwern. Chwalwyd y tŷ hwnnw mor ddiweddar â 1906 oherwydd ei waliau trwchus, ffenestri bychain a lloriau isel ac anwastad (yn ôl W. Gilbert Williams, oedd yn gyfarwydd a'r tŷ fel prifathro'r ysgol leol ar y pryd. Bu farw Sion (neu John) Meredydd ym 1700, gan gael ei gladdu yn Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Ceir rhai trawstiau o'r hen dŷ yn y tŷ newydd. Olynwyd John Meredydd gan ei fab Hwmffre, a'i fab yntau, Hwmffre arall, oedd un o ddynion pwysicaf yn y sir, yn Uchel Siryf yn 1734, ac yn ynad heddwch. Meurig Meredydd oedd yr olaf o sgweiriaid y Pengwern, ystâd sylweddol erbyn hynny ym mhlwyf Llanwnda a'r gymdogaeth. Priododd aeres Meurig, Anna Maria, â John Mostyn o Segrwyd, Dinbych. Bu farw honno ym 1823, a gwerthwyd yr ystâd yn ffermydd unigol.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr erthygl yn y ffurf gychwynnol hon ar w. Gilbert Williams, Hen Deuluoedd Lanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800), Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon (Cyf.4, 1942-3), tt.19-34.