Ysgol Gynradd Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Ysgol Bontnewydd i Ysgol Gynradd Bontnewydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:46, 29 Awst 2019

Ysgol gynradd ym mhentref Y Bontnewydd yw Ysgol Bontnewydd. Mae'n sefyll ar lan Isgwyrfai yr Afon Gwyrfai.

Sefydlwyd yr ysgol o gwmpas 1865, a'i gelwir hi bryd hynny yn Bontnewydd National School. Aeth ymlaen wedyn i'w galw yn Bontnewydd Board School, a Bontnewydd Council School cyn cael ei galw yn Ysgol Gynradd Bontnewydd.[1]

Mae'r ysgol bresennol mewn adeilad diweddarach a godwyd yn 1976. Mae adeilad yr hen ysgol yn sefyll hyd heddiw, ac yn cael ei defnyddio fel neuadd bentref, ac fel cartref i Ysgol Feithrin Bontnewydd. Fe agorwyd ar ei newydd wdd ym mis Tachwedd 1993.[2] Mae'n cymryd lle hen neuadd bren a losgwyd i lawr ychydig cyn hynny a safai yr ochr Uwchgwyrfai i'r afon, gyferbyn â Phentref Uchaf. Mae tŷ annedd wedi codi ar ei safle erbyn hyn.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Llyfrau Log Ysgol Bontnewydd, 1865-1922 XES1/32 (Gwasanaeth Archifau Gwynedd)
  2. Plac ar wal y neuadd