Carmel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:


==Lleoliad==
==Lleoliad==
Mae tua milltir i'r dwyrain o'r [[Y Groeslon|Groeslon]] i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf [[Mynydd Cilgwyn]]. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf [[Llandwrog]] i'r [[Fron]] yn croesi'r lôn o bentref [[Pen-y-groes]] i gyfeiriad [[Rhosgadfan]].
Mae tua milltir i'r dwyrain o'r [[Y Groeslon|Groeslon]] i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf [[Mynydd Cilgwyn]]. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf [[Llandwrog]] i'r [[Fron]] yn croesi'r lôn o bentref [[Pen-y-groes]] i gyfeiriad [[Rhosgadfan]]. Mae'r tai hynaf (ar wahân i hen dyddynod gwasgaredig) yw'r tai teras sydd yn wynebu'r môr y ddwy ochr i lôn y Fron, sef Rhes Pisgah a Rhes Carmel.
 
==Addysg==
Tyfodd y pentref yn sylweddol rhwng 1890 a 1910, a chodwyd ysgol ar gyfer babanod yn unig yn ystod y 1890au - roedd plant yn mynychu [[Ysgol Penfforddelen]]. Bu'r ysgol (wedi'i helaethu i gymryd plant hyd at 11 oed) yno nes iddi gael ei huno ag [[Ysgol Gynradd Bro Lleu]] ar safle [[Ysgol Gynradd y Groeslon]] yn 2016.  


==Busnesau ac adnoddau lleol==
==Busnesau ac adnoddau lleol==
Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015. Bu ysgol yno hefyd nes iddi gael ei huno ag [[Ysgol Gynradd Bro Lleu]] ar safle [[Ysgol Gynradd y Groeslon]]. Roedd modurdy hefyd yn y pentref, ac mae honno'n dal yn agored ar gyfer trwsio ceir (sef "Garej Robin Alun"), fel mae busnes werthu glo.
Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015. Roedd modurdy hefyd yn y pentref, ac mae honno'n dal yn agored ar gyfer trwsio ceir (sef "Garej Robin Alun"), fel mae busnes werthu glo.


Mae'r pentref yn cael ei enw ar ôl [[Capel Carmel (MC)]]. Chwalwyd y capel mawr gwreiddiol gan godi capel newydd ar safle'r festri. Capel arall y pentref yw [[Capel Pisgah (B), Carmel|Capel Pisgah]], sef capel y Bedyddwyr (y mae eu hen gapel hefyd yn dal i sefyll). Mae mynwent gan Gapel Pisgah a cheir yma hefyd fynwent a gynhelir gan y Cyngor Cymuned, gyda rhan wedi ei chysegru gan yr Eglwys yng Nghymru tua 1980. Bellach, trowyd Pisgah yn fflatiau, a gwerthwyd hen gapel Pisgah i fudiad Uniongred.
Mae'r pentref yn cael ei enw ar ôl [[Capel Carmel (MC)]]. Chwalwyd y capel mawr gwreiddiol gan godi capel newydd ar safle'r festri. Capeli eraill y pentref oedd [[Capel Pisgah (A), Carmel|Capel Pisgah]], sef capel yr Annibynwyr, a [[Capel Pisgah (BN), Carmel|Chapel Pisgah]] arall gan y Bedyddwyr Neilltuol. Mae mynwent gan Gapel Pisgah a cheir yma hefyd fynwent a gynhelir gan y Cyngor Cymuned, gyda rhan wedi ei chysegru gan yr Eglwys yng Nghymru tua 1980. Bellach, trowyd Pisgah yn fflatiau, ac mae hen gapel Pisgah y Bedyddwyr Neilltuol yn cael ei ddefnyddio gan fudiad Uniongred.


Busnes newydd ffyniannus yw ysgol yrru lorïau a chwmni bysiau.
Busnes newydd ffyniannus yw ysgol yrru lorïau a chwmni bysiau.

Fersiwn yn ôl 17:41, 14 Mehefin 2018

Mae Carmel yn bentref ym mhlwyf Llandwrog.

Lleoliad

Mae tua milltir i'r dwyrain o'r Groeslon i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf Mynydd Cilgwyn. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf Llandwrog i'r Fron yn croesi'r lôn o bentref Pen-y-groes i gyfeiriad Rhosgadfan. Mae'r tai hynaf (ar wahân i hen dyddynod gwasgaredig) yw'r tai teras sydd yn wynebu'r môr y ddwy ochr i lôn y Fron, sef Rhes Pisgah a Rhes Carmel.

Addysg

Tyfodd y pentref yn sylweddol rhwng 1890 a 1910, a chodwyd ysgol ar gyfer babanod yn unig yn ystod y 1890au - roedd plant yn mynychu Ysgol Penfforddelen. Bu'r ysgol (wedi'i helaethu i gymryd plant hyd at 11 oed) yno nes iddi gael ei huno ag Ysgol Gynradd Bro Lleu ar safle Ysgol Gynradd y Groeslon yn 2016.

Busnesau ac adnoddau lleol

Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015. Roedd modurdy hefyd yn y pentref, ac mae honno'n dal yn agored ar gyfer trwsio ceir (sef "Garej Robin Alun"), fel mae busnes werthu glo.

Mae'r pentref yn cael ei enw ar ôl Capel Carmel (MC). Chwalwyd y capel mawr gwreiddiol gan godi capel newydd ar safle'r festri. Capeli eraill y pentref oedd Capel Pisgah, sef capel yr Annibynwyr, a Chapel Pisgah arall gan y Bedyddwyr Neilltuol. Mae mynwent gan Gapel Pisgah a cheir yma hefyd fynwent a gynhelir gan y Cyngor Cymuned, gyda rhan wedi ei chysegru gan yr Eglwys yng Nghymru tua 1980. Bellach, trowyd Pisgah yn fflatiau, ac mae hen gapel Pisgah y Bedyddwyr Neilltuol yn cael ei ddefnyddio gan fudiad Uniongred.

Busnes newydd ffyniannus yw ysgol yrru lorïau a chwmni bysiau.

Enwogion y pentref

Ymysg y rhai a hanai, neu sy'n hanu, o Garmel y mae'r ddau frawd

ac hefyd

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma