Ffeiriau Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cynhaliwyd '''ffeiriau''' mewn llawer o'r pentrefi yn y sir, nid yn gymaint fel cyfrwng diddanu fel sydd heddiw, ond fel cyfle i'r trigolion lleol brynu n...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 16: Llinell 16:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


[[Categotri:Diwydiant a Masnach]]
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]

Fersiwn yn ôl 11:17, 5 Mai 2018

Cynhaliwyd ffeiriau mewn llawer o'r pentrefi yn y sir, nid yn gymaint fel cyfrwng diddanu fel sydd heddiw, ond fel cyfle i'r trigolion lleol brynu nwyddau nad oedd fel arfer ar ar gael ond yn y trefi; prynu a gwerthu anifeiliaid; ac (ar ddwedd y tymor amaethu, tua ail wythnos Tachwedd) fel cyfle i logi gweision a morynion ffermydd (neu i chwilio am waith). Byddai cytundeb am flwyddyn rhwng mesitr a gwas fel arfer, a dyma oedd y cyfle i'r naill neu'r llall benderfynu edrych am was newydd neu le gwell.

Tua diwedd y 19g cynhaliwyd y ffeiriau canlynol yn Uwchgwyrfai (neu ger ei ffiniau):[1]

Betws Garmon Medi 17 Clynnog Fawr Mai 12, Tachwedd 10 (ffair gyflogi) Llanllyfni Ebrill 11, Gorffennaf 6, Awst 11, Medi 19, Hydref 20 Pen-y-groes Mai 21, Mehefin 27, Awst 11, Medi 22, Tachwedd 8 (ffair gyflogi) Y Bontnewydd Mai 9, Tachwedd 7 (ffair gyflogi) Y Ffôr Chwefror 20, Ebrill 12, Medi 10, Hydref 21, y dydd Iau cyn dydd Gwener cyntaf mis Rhagfyr - y rhain i gyd yn ffeiriau ceffylau, gwartheg a defaid.

Erbyn hyn, yr unig ffair draddodiadol a gynhelir o fewn ffiniau'r cwwmwd yw Ffair Llanllyfni.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan y Rhiw [1], adalwyd 5 Mai 2018