Lleuar Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Ar farwolaeth ŵyr William Glynn, etifeddodd chwaer iddo, Mary Glynne (1633-1676) yr eiddo. Priododd hi â'r Uwch-Gapten [[George Twisleton]], ac arhosodd yr ystâd fechan yn nwylo ei ddisgynyddion am ryw hanner ganrif nes i'w ŵyr (ac efallai gŵr ei or-wyres Mary, y Cadben [[William Ridsdale]] ei cholli trwy or-fenthyca arian. Yn sicr, o 1720 ymlaen chafodd y teulu fawr o fudd o'r ystad gan fod y tenantiaid yn gorfod talu eu rhenti ac ati i'r morgeiswyr, ac un Samuel Shepherd yn benodol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7601-2</ref> Fe'i prynwyd yn ôl wedyn gan ystâd [[Glynllifon]]. | Ar farwolaeth ŵyr William Glynn, etifeddodd chwaer iddo, Mary Glynne (1633-1676) yr eiddo. Priododd hi â'r Uwch-Gapten [[George Twisleton]], ac arhosodd yr ystâd fechan yn nwylo ei ddisgynyddion am ryw hanner ganrif nes i'w ŵyr (ac efallai gŵr ei or-wyres Mary, y Cadben [[William Ridsdale]] ei cholli trwy or-fenthyca arian. Yn sicr, o 1720 ymlaen chafodd y teulu fawr o fudd o'r ystad gan fod y tenantiaid yn gorfod talu eu rhenti ac ati i'r morgeiswyr, ac un Samuel Shepherd yn benodol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7601-2</ref> Fe'i prynwyd yn ôl wedyn gan ystâd [[Glynllifon]]. | ||
{{eginyn}} | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | |||
Llinell 11: | Llinell 16: | ||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] | [[Categori:Safleoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] |
Fersiwn yn ôl 21:42, 17 Ebrill 2018
Hen annedd nodedig yw Lleuar, neu Lleuar Fawr nid nepell o Lanllyfni er ei fod ym mlwyf Clynnog Fawr.[1] Mae'r ystyr yn amwys, ond cynigia'r arbenigwraig Glenda Carr y gall fod yn amrywiad ar Lleufer, sef 'goleuni', ac oherwydd hynny'n deillio o'r ffaith fod Lleuar ar dir agored golau.[2]
Mae bellach wedi ei rannu’n ddwy fferm – sef Lleuar Fawr (adeilad rhestredig) a Lleuar Fach. Roedd ar un cyfnod fod yn rhan o ystâd y Glynniaid o Lynllifon, drwy gysylltiad priodasol, ac iddo fod yn rhan o hen diroedd treflan Pennarth. Mae cofeb i William Glynn (neu Glynne), a fu farw ym 1609, yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[3]
Ar farwolaeth ŵyr William Glynn, etifeddodd chwaer iddo, Mary Glynne (1633-1676) yr eiddo. Priododd hi â'r Uwch-Gapten George Twisleton, ac arhosodd yr ystâd fechan yn nwylo ei ddisgynyddion am ryw hanner ganrif nes i'w ŵyr (ac efallai gŵr ei or-wyres Mary, y Cadben William Ridsdale ei cholli trwy or-fenthyca arian. Yn sicr, o 1720 ymlaen chafodd y teulu fawr o fudd o'r ystad gan fod y tenantiaid yn gorfod talu eu rhenti ac ati i'r morgeiswyr, ac un Samuel Shepherd yn benodol.[4] Fe'i prynwyd yn ôl wedyn gan ystâd Glynllifon.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Rhestr o adeiladau cofrestredig yng Ngwynedd, Cymdeithas Ddinesig Bangor.
- ↑ Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011)
- ↑ Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872); Comisiwn Henebion Cymru Caernarvonshire:Volume II, Central, (Llundain, 1960)
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/7601-2